• Skip to primary navigation
  • Skip to content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Swansea Museum

  • Cymraeg
    • English
  • Email
  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter
  • Hafan
  • Ymweld ag Amgueddfa Abertawe
    • Trefnwch eich ymweliad am ddim
    • Cychod a Llongau ar Ddangos
    • Canolfan Gasgliadau Amgueddfa Abertawe
    • Sied Dramiau
    • Cysylltu â Staff
    • Ffrindiau Amgueddfa Abertawe
  • Ein Casgliad
    • Arweiniad Digidol Am Ddim
    • Eich Paentiadau
    • Arteffactau Eifftaidd
    • Gwrthrychau Morwrol
    • Darganfyddiadau o Abertawe a Chastell-nedd
    • Abertawe yn ystod y Rhyfel
    • Rhoi eitem i Amgueddfa Abertawe
  • Abertawe – Braslun o’i Hanes
    • Archaeoleg
    • Diwydiant
    • Y Môr
    • Trên y Mwmbwls
    • Hen dai a lleoedd
  • Digwyddiadau
    • Arddangosfeydd
    • Digwyddiadau a Gweithgareddau
    • Arddangosfeydd y Gorffennol
  • Siop yr amgueddfa
  • Dysgu
    • Ymweliadau Ysgol
    • Allgymorth Cymunedol
  • Blog
You are here: Home / Blog

Blog

Chwefror 23, 2024 by Hollie Gaze

Y Parch. Emma Rosalind Lee

gan Phil Treseder
Swyddog Dysgu a Chyfranogi Amgueddfa Abertawe

Ym mis Ionawr 2024, rhyddhawyd ffilm o’r enw ‘One Life’. Mae’r ffilm yn seiliedig ar hanes bywyd go iawn Syr Nicholas Winton sy’n cael ei bortreadu yn y ffilm gan Sir Anthony Hopkins.

Mae’r ffilm yn canolbwyntio ar lyfr lloffion a luniwyd gan y Pwyllgor ar gyfer Ffoaduriaid Ifanc o Tsiecoslofacia ym 1939 a roddwyd i Nicholas Winton. Roedd y grŵp wedi cefnogi Nicholas Winton wrth iddo drefnu trenau Kindertransport llawn ffoaduriaid ifanc allan o Tsiecoslofacia ym 1939 i ddianc rhag y Natsïaid.

Mae’r llyfr lloffion bellach yn Yad Vashem – Amgueddfa’r Holocost yn Jeriwsalem.

Yn y ffilm, mae Nicholas Winton yn pori’r llyfr lloffion ac yn stopio ar erthygl o’r enw ‘What they have done to the Czechs’.  Yn y llyfr lloffion go iawn, ar ochr chwith yr erthygl hon mae toriad o bapur newydd South Wales Evening Post. Mae’n cynnwys llythyr at y Golygydd sydd wedi’i ddyddio 20 Ebrill 1939, gyda’r teitl ‘Refugee Children;an appeal’.  Mae’r llythyr o’r Parch. Rosalind Lee, Tŷ Cefn Bryn, Pen-maen ger Abertawe.

Ganwyd y Parch. Rosalind Lee yn Edgbaston, Birmingham ond yn hwyrach fyddai’n ymgartrefu yn Abertawe yn Nhŷ Cefn Bryn, Pen-maen, gyda’i brawd a oedd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’r tŷ yn bodoli o hyd ac mae ganddo olygfa arbennig o Fae y Tri Chlogwyn. Roedd y ddau yn gwneud llawer o waith gyda Chymdeithas Gŵyr. Prynodd y Parch. Lee sawl llain o dir ar benrhyn Gŵyr er mwyn atal unrhyw ddatblygiadau arnynt ac yna rhoddwyd y tir i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Daeth yn nyrs ‘VAD’ (Uned Wirfoddol a Gynorthwyir) yn ystod y Rhyfel Mawr ac yna daeth yn Weinidog gyda’r Eglwys Undodaidd ym 1919. Roedd yn aelod o bwyllgor cyntaf Cynghrair Prydain o Fenywod Undodaidd o 1908 a daeth yn Ysgrifennydd Cenedlaethol y pwyllgor ym 1929. Yn hwyrach, cafodd ei hethol yn Llywydd y Cynulliad Cyffredinol Undodaidd ym 1940.

Bu’r Parch. Lee yn gwasanaethu fel Gweinidog yn Nhreorci, Caerlŷr, Hackney a Stourbridge ac fel gweinidog ardal ar gyfer de Cymru.

Ym mis Hydref 1939 aeth i Brag i sefydlu a chynnal ‘Swyddfa Cyfeillion Ffoaduriaid’ gyda Gweinidog Undodaidd arall, John McLachlan. Gweithiwyd yn agos gyda Doreen Warriner, a hi yw’r unig un allan o’r tri sy’n ymddangos yn y ffilm.

Mae rhestr gyfan o’r 669 o blant a gafodd eu hachub, sy’n Iddewig yn bennaf, ar-lein. Yn anffodus, ataliwyd y trên olaf, a oedd â 250 o blant arno, rhag gadael ar 1 Medi 1939 oherwydd dechrau’r rhyfel ac o ganlyniad i hynny cafodd y rhan fwyaf o’r plant hynny eu llofruddio.

Nid oedd Llywodraeth Prydain wedi caniatáu trosglwyddo’r plant hyn heb warantwr ar waith a fyddai’n gofalu am y plant ac yn talu’r costau.

Mae’r rhestr o blant yn cynnwys gwybodaeth am enwau, dyddiadau geni a chyfeiriadau yn y DU a manylion y gwarantwr. O’r rhestr, gallwn weld bod y Parch. Lee yn warantwr neu’n gyd-warantwr ar gyfer llawer o blant.

Nid oedd pob un ohonynt yn Abertawe, llwyddodd i ddod o hyd i gartrefi i rai ohonynt gyda’i theulu a’i ffrindiau. Dyma rai o’r plant a achubwyd:

Ivo Englander, ganwyd ym 1924.

Eduard Kestenbaum, ganwyd ym 1930.

Ervin Kestenbaum, ganwyd ym 1926.

Renee Kestenbaum, ganwyd ym 1928.

Katarina Kestenbaum, ganwyd ym 1931.

Ni fyddai’r plant uchod yn dychwelyd i Tsiecoslofacia. Yn dilyn y rhyfel, fyddai’r ddwy chwaer Kestenbaum, Renee a Katarina, yn allfudo i’r Unol Daleithiau. Yn hwyrach, fyddai’r brodyr, Eduard ac Ervin, yn gwneud cais am ddinasyddiaeth Brydeinig ym 1947 ac arhosodd y ddau yn y DU. Ar yr un pryd, newidiwyd cyfenw’r ddau i Berry.

Mae’n ymddangos bod Eduard wedi symud i Birmingham o bosib, er bod Ervin wedi aros yn Abertawe.

Wrth chwilio’r rhestr o ddioddefwyr yr Holocost o Dsiecoslofacia am Kestenbaum, cynhyrchwyd dau enw’n unig a gallai’r rhain wedi bod yn rhieni iddynt. Llofruddiwyd Frantisek, a anwyd ym 1898, ar 13 Awst 1942 yn Majdenek. Ganwyd Hana (er, ar y cofnodion mae’r sillafu ychydig yn wahanol, mae’n bosib bod hyn yn gamgymeriad gan yr SS) ym 1897, a chafodd ei llofruddio ar ddyddiad anhysbys mewn lleoliad anhysbys.

Mae’n ymddangos bod y cyfenw, Englander, yn eithaf cyffredin, felly nad oeddem yn gallu dod o hyd i rieni Ivo, ond mae’n eithaf diogel i dybio eu bod nhw hefyd wedi cael eu llofruddio.

Os nad oeddent wedi goroesi’r rhyfel, byddai eu calonnau wedi torri wrth iddynt ddysgu nad oedd eu mab wedi goroesi. Gan mai ef oedd yr hynaf o’r 5 plentyn, daeth Ivo’n gymwys i gofrestru ar gyfer Awyrlu Tsiecoslofacia a oedd yn gweithredu ym Mhrydain, ac fe ymunodd.

Cafodd ei ladd ar 1 Ionawr 1945 wrth iddo ddychwelyd o’i batrôl gyda’r Awdurdod Arfordirol. Yn ystod tywydd garw, disgynnodd ei awyren Liberator yn ochr ogleddol Ynys Hoy, Orkney

Trosglwyddwyd ei gorff i’r tir mawr, a chafodd ei gladdu ym mynwent Tain, Ucheldiroedd yr Alban. 

Filed Under: Blog (Cy) Tagged With: Nicholas Winton, One life, refugee

Mehefin 29, 2023 by karl.morgan

Good Vibes

Crys T – wedi’i gynhyrchu gan grŵp GoodVibes y YMCA, Abertawe

Dyluniwyd y crys T gan bobl ifanc yn y grŵp GoodVibes ar gyfer gorymdaith Pride Abertawe 2021.

Ar 2 Hydref 1857, cyhoeddodd papur newydd y Cambrian y byddai ‘cyfarfod cyntaf Cymdeithas Dynion Ifanc Eglwys Lloegr yn cael ei gynnal ar 6 Hydref am 6pm yn yr Ysgol Genedlaethol, Stryd Rhydychen’ (sef y maes parcio gyferbyn â Theatr y Grand erbyn hyn), ‘lle byddai Pascoe St Ledger Grenville yn rhoi araith.’

Yr wythnos ganlynol, ar 9 Hydref cyhoeddodd y Cambrian adroddiad am y cyfarfod.

Cadeiriwyd y cyfarfod gan y Parch E B Squire (Ficer y Santes Fair o 1846 i 1876). Meddai Pascoe St Ledger yn ei araith,

“Rhaid i Gymdeithasau fod yn ffordd o ddod â dynion ifanc at ei gilydd, ac yn ffordd o roi mwynhad a chyfleoedd iddynt na allant eu cael gartref – cyfleoedd i ddefnyddio’u doniau a’u galluogi i ffurfio cymdeithasau a chyfeillgarwch a all fod yn werthfawr ac yn bwysig iddynt hyd diwedd eu hoes. Yn y fath achosion, roedd cymdeithas yn fuddiol iawn – mae rhai o gymdeithasau mwyaf nodedig y cyfnod wedi datblygu o gymdeithasau o’r math hwn.”

Nid oes llawer o wybodaeth am y grŵp gwreiddiol a’i weithgareddau. Fodd bynnag, roedd adroddiad ym mhapur newydd y Cambrian ar 4 Ionawr 1861 yn cyhoeddi bod y grŵp yn cael ‘soirée’ yn yr Ystafelloedd Cynnull ar 9 Ionawr, lle,

“Byddai sawl dyn yn ymddangos yn gyhoeddus am y tro cyntaf”.

Yr unig ddigwyddiad modern cyfwerth heddiw yw’r dawnsiau debutante lle mae’r aristocratiaid yn cyflwyno’u merched i’r brenin. Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod hwn, byddai digwyddiadau o’r math hwn yn cael eu cynnal yn aml, ac mae sôn am ddynion a menywod yn cael eu cyflwyno i gymdeithas. Mae’r term modern ‘dod allan’ yn tarddu o’r digwyddiadau hyn.

Sefydlwyd YMCA Abertawe ym 1868 pan newidiodd y grŵp uchod ei enw i ddilyn fformat arferol YMCA.

Ychydig dros gant a hanner o flynyddoedd yn ddiweddarach, yn 2011, sefydlwyd cymdeithas arall, sef GoodVibes, dan nawdd YMCA Abertawe.

Grŵp ieuenctid LHDTC+ cynhwysol yw GoodVibes sy’n cefnogi pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Mae’n darparu lle diogel sy’n lleihau teimladau o unigrwydd a theimlo’n ynysig. Gall pobl ifanc feithrin perthnasoedd gyda chyfoedion o fewn cymuned, fel y gallant berthyn, cyfrannu a ffynnu. Mae’n grŵp lle gall pobl ifanc fod yng nghwmni unigolion o’r un meddwl, mewn amgylchedd sy’n hyrwyddo parchu dewisiadau, dinasyddiaeth a hunaniaeth ddiwylliannol eraill. Mae’n rhoi’r hyder i bobl ifanc archwilio’u hunaniaeth eu hunain yng nghwmni pobl sy’n deall ac yn eu cefnogi.

Mae GoodVibes yn gweithredu ar sylfaen gwerthoedd cryf o gynwysoldeb ac amrywiaeth. Gall pobl ifanc ddod i GoodVibes heb boeni am gael eu beirniadu, eu haflonyddu, eu bwlio na bod yn destun gwahaniaethu a rhagdybiaethau cymdeithasol. Gallant fod y person maent eisiau bod, mewn lle diogel lle gallant archwilio’u hunaniaeth. Mae’n grŵp lle gall pobl ifanc ddod a chyflwyno eu hunain, eu henwau, eu henwau dewisol, eu rhagenwau a’u hoff bethau. A’r hyn maent yn ei gael yn gyfnewid am hynny, gan ei gilydd a gweithwyr ieuenctid, yw cael eu derbyn, yn ddi-gwestiwn.

Mae Amgueddfa Abertawe wedi cynnwys y crys T yn ei chasgliad fel rhan o’i pholisi i amrywio’r arddangosfeydd.

Filed Under: Uncategorized @cy

Ebrill 5, 2022 by karl.morgan

Blogiau YMCA

Phil Treseder yw’r Swyddog Dysgu a Chyfranogiad yn Amgueddfa Abertawe ac mae hefyd yn Ymddiriedolwr YMCA Abertawe.

Ar hyn o bryd mae’n ymchwilio i hanes YMCA Abertawe, ac mae’r blogiau hyn yn tynnu sylw at wrthrychau yng nghasgliad Amgueddfa Abertawe sy’n gysylltiedig â’r YMCA, ynghyd ag ambell un o Archifau Gorllewin Morgannwg

Bydd yr un ar ddeg o flogiau’n gweithredu fel cynllun peilot ar gyfer cyfres bosib o flogiau ar yr YMCA a’r deunydd hanes ac archif sylweddol sy’n perthyn i’r YMCA, ac yn darparu hanes cymdeithasol diddorol o Abertawe. Gobeithio y byddant yn cael eu cyflwyno yn ddiweddarach yn 2022.

Bydd pob blog yn dechrau gyda chyfeiriad at y casgliad a disgrifiad o’r gwrthrych neu’r ddogfen fel y mae’n ymddangos yn yr amgueddfa neu ar y cofnod archif.

Catalog Llyfrgell yr YMCA – 1900

Casgliad Llyfrgell Amgueddfa Abertawe

Mae’r llyfryn A6 bach yn bedair tudalen ar hugain o hyd, gyda thair tudalen arall o hysbysebion. Mae’n rhestru’r 699 o lyfrau a oedd ar gael yn llyfrgell fenthyca YMCA Abertawe yn y flwyddyn 1900.  Ar yr adeg hon, roedd yr YMCA yn Dynevor Place, cyn ei symud i’r YMCA a adeiladwyd at y diben ar Ffordd y Brenin, a agorodd ym mis Hydref 1913. Mae’r catalog wedi’i rannu’n saith adran gan gynnwys diwinyddiaeth, bywgraffiad, hanes, ffuglen, barddoniaeth, morio a theithio ac amrywiol.

Yn y 19eg Ganrif gwelwyd cynnydd sylweddol mewn addysg a dysgu.  Agorodd Llyfrgell Gyhoeddus Abertawe ym 1887 ar Alexandra Road yn dilyn Deffet Francis yn rhoddi casgliad sylweddol o lyfrau.

Cyn hyn, defnyddiwyd llyfrgelloedd tanysgrifio i fenthyca llyfrau.  Ym 1815 roedd chwe llyfrgell danysgrifiad yn Abertawe.

Byddai’r llyfrgell a’r ystafelloedd darllen mwyaf mawreddog yn Abertawe yn agor ym 1841, yn Sefydliad Brenhinol De Cymru (RISW), sef Amgueddfa Abertawe bellach.

Ym 1835 ffurfiwyd Cymdeithas Athronyddol a Llenyddol Abertawe, a enillodd Siarter Frenhinol yn fuan wedi hynny i ddod yn Sefydliad Brenhinol De Cymru. Ym 1841 agorwyd yr adeilad.  Roedd yr ardal i lawr y grisiau yn cynnwys darlithfa, llyfrgell gyfeirio a llyfrgell ac ystafell ddarllen. Swyddfeydd staff yw’r llyfrgell gyfeirio ar hyn o bryd, ac roedd y brif lyfrgell ac ystafell ddarllen yn y brif oriel arddangos bresennol. 

Mae’r ddelwedd hon o brif ystafell ddarllen Sefydliad Brenhinol De Cymru o ddechrau’r 20fed ganrif ac ar hyn o bryd, dyma’r oriel lle caiff y casgliad hanes naturiol ei arddangos.

Byddai llyfrgell ac ystafelloedd darllen gwreiddiol YMCA Abertawe wedi bod yn debyg ond mae’n siŵr eu bod yn llai, yn llai mawreddog ac yn cynnwys llai o lyfrau.  Yn anffodus, nid ydym yn ymwybodol o unrhyw ffotograff sydd wedi goroesi.

Sefydlwyd YMCA Abertawe ym 1868 (neu gellid dadlau ym 1857, i’w drafod mewn blog yn y dyfodol).  Y prif nod ar y pryd fyddai dargyfeirio dynion ifanc i ffwrdd o demtasiynau tref Abertawe, fel tafarnau, theatrau a phuteindai, tuag at Gristnogaeth ac achubiaeth drwy Iesu Grist.  Mae adroddiad yr heddlu ar gyfer Abertawe ym 1888 er enghraifft yn cofnodi bod naw puteindy a chwe deg pump o buteiniaid yn y dref.

Y prif ddull fyddai darparu llyfrgell ac ystafell ddarllen. Heddiw mae’r rhan fwyaf o staff YMCA Abertawe yn weithwyr Ieuenctid a Chymunedol, felly efallai y bydd yn syndod i chi mai’r swydd staff â thâl gyntaf a hysbysebwyd ym Mhapur Newydd y Cambrian oedd llyfrgellydd ym 1872, gyda chyflog o £20 y flwyddyn.

Disgrifir agoriad ffurfiol yr Ystafelloedd Darllen yn fanwl ym mhapur newydd y Cambrian ar 19 Awst 1870.  Yn yr erthygl, nodir eu bod ar gornel Dillwyn Street a Herbert Place.

Mae’r adroddiad yn eu disgrifio fel a ganlyn;

‘Agorwyd yr ystafelloedd darllen a’r clwb newyddion deniadol a chyfforddus iawn a adeiladwyd gan Mr. Henry Jack, perchennog brwdfrydig yr YMCA, yn ffurfiol nos Lun diwethaf.  Mae’r brif ystafell yn gallu lletya tua 200 neu 250 o aelodau mewn argyfwng, ac mae’n foethus yn ogystal â chyfforddus.  Drwy holl led y brif ystafell mae bwrdd darllen mahogani enfawr ac mae’r cadeiriau esmwyth cyfforddus a’r seddi wedi’u gorchuddio â melfed cyfoethog.  Gwnaed y lle tân o farmor caboledig ac mae’r gratiau’n cain o ran dyluniad’.

Roedd yr adroddiad hefyd yn dyfynnu’r Maer John Jones Jenkins, Ysw. yn datgan;

“Nid oedd lle i ddynion ifanc y dref ymgynnull gyda’i gilydd at ddibenion hamdden a gwella meddyliol. Yr unig ystafell a fodolai oedd y Sefydliad Brenhinol (Amgueddfa Abertawe)… ac roedd y ffioedd braidd yn uwch na’r hyn y gallai’r bobl ifanc fforddio ei dalu”.

Mae’r papur newydd yn cofnodi’r papurau newydd a’r cyfnodolion canlynol y tanysgrifiwyd iddynt ar gyfer yr ystafelloedd darllen.  Ymysg y papurau cenedlaethol mae The Times, Standard, Telegraph, Pall Mall, Punch and Judy.  Mae papurau lleol yn cynnwys y Cambrian, Western Mail, Herald a Journal.  Mae’r cyfnodolion yn cynnwys Sunday magazine, Good Words, Christian Observer, Christian World, Leisure Hour, Edinburgh Quarterly review a’r  English Mechanic.

Cyfanswm yr incwm yr oedd ei angen ar gyfer yr ystafelloedd darllen y flwyddyn oedd rhent o £40, £20 mewn trethi, £25 i dalu llyfrgellydd, £15 am y golau, y gwres a’r glanhau a £25 am danysgrifiadau.

Yn anffodus, nid wyf wedi gallu olrhain ffotograff o’r llyfrgell a’r ystafelloedd darllen gwreiddiol.  Roedd nodi’r adeilad yr oedd yr ystafelloedd wedi’u lleoli ynddo yn her ynddo’i hun.  Roedd y cyfeiriad a ddisgrifiwyd neu a roddwyd yn amrywio rhwng Herbert Place, St Helens Road a chyffordd Dillwyn St a St Helens Road. Herbert Place oedd y lôn a oedd yn rhedeg i’r chwith gyntaf oddi ar St Helens Road, ac yn dod i ben y tu ôl i hen adeilad Peter Allen Estate Agents. Yn amlwg, roedd yn y bloc adeiladau sydd gyferbyn ag adeilad presennol yr YMCA.

Fodd bynnag, yn ddiweddar daeth taflen ddwy dudalen o 1968, yn dathlu’i 100fed pen-blwydd, i’r amlwg gyda ffotograff o’r lleoliad.  Roedd adeilad y llyfrgell a’r ystafelloedd darllen gwreiddiol yn uniongyrchol gyferbyn, ac mae yno o hyd.  Roedd ar y llawr uchaf uwchben siopau Subway a Lifestyle Express.

Mae’n ymddangos bod YMCA Abertawe yn y 1870au wedi cael trafferthion i ddechrau. Mae ymchwil yn parhau o hyd, ond mae’n ymddangos nad oedd nodau’r sylfaenwyr yn cyfateb i nodau ac anghenion y dynion ifanc. Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod pwyllgor rheoli newydd wedi datrys y sefyllfa erbyn canol y 1870au.  Erbyn diwedd y degawd roeddent yn chwilio am adeilad newydd a mwy, a daethant o hyd i hen adeilad y Coleg yn Dynevor Place ym 1882.  Roedd gan y safle newydd neuadd, campfa, lolfa ac wrth gwrs y llyfrgell a’r ystafell ddarllen. Adroddir am agoriad ffurfiol yr adeilad newydd gan y maer yn y Cambrian ar 2 Chwefror 1883.

Mewn cylchlythyr YMCA ar gyfer 1884, ‘The Record‘, ceir disgrifiad o’r adeilad newydd fel a ganlyn:

“Mae croeso mawr i ddynion ifanc ymweld â’r YMCA yn Dynevor Place sy’n ffinio â phen taith y tramffordd, Gower Street.  Ar agor rhwng 9.30am a 10.30pm.  Mae’r adeilad cyfforddus yn cynnwys:

Ystafell ddarllen olau, llachar a dymunol, wedi’i llenwi’n dda â phapurau newydd, cylchgronau a chadeiriau cyfforddus. Llyfrgell benthyca, gyda llyfrau ar fywgraffiad, ffuglen, hanes, barddoniaeth, teithio ac astudiaethau’r Beibl.

Ystafell eistedd glyd a chyfforddus gyda phiano, harmoniwm, byrddau ysgrifennu, gwyddbwyll a drafftiau.

Ystafell Bagatelle

Ystafell Ping-pong

Swyddfa’r Ysgrifennydd, lle gellir gweld rhestrau o letyau a fflatiau.  Gellir dod o hyd i lythyrau cyflwyno i bob rhan o’r byd.

Ystafell Baddon yr Aelodau, gyda dŵr poeth ac oer a baddon â chawod.

Campfa fawr â digon o gyfarpar a chawodydd poeth ac oer, baddonau, ystafell wisgo a loceri.

Cynhelir digwyddiadau cymdeithasol, darlithoedd etc. o bryd i’w gilydd.  Dechreuodd cymdeithas lenyddol a dadlau fis diwethaf”.

Byddai’r llyfrgell a’r ystafell ddarllen yn parhau i fod yn nodwedd yn yr adeilad presennol ar Ffordd y Brenin a agorwyd ym 1913.  Mae ymchwil yn parhau i ganfod dyddiad cau’r llyfrgell a’r ystafell ddarllen, ond roedd yn dal i fod yn nodwedd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Filed Under: Blog (Cy)

Mai 20, 2025 by Hollie Gaze

Wythnos y Ffoaduriaid

Gan Phil Treseder
Swyddog Dysgu a Chyfranogi Amgueddfa Abertawe

Ar 30 Mawrth 2021, daeth Ei Ardderchogrwydd, Libor Secka, y Llysgennad Tsiecaidd, i’r DU i wylio gêm bêl-droed ragbrofol Cymru yn erbyn y Weriniaeth Tsiec ar gyfer Cwpan y Byd 2022.

Tra oedd yng Nghymru manteisiodd ar y cyfle i ymweld â sawl mynwent i dalu teyrnged i gydwladwyr a ffoaduriaid i Brydain a dalodd y pris eithaf wrth wasanaethu yn yr Awyrlu Brenhinol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Roedd yr ymweliad yn cynnwys mynwent eglwys St Hiliary yng Nghilâ. Mae nifer o bersonél yr Awyrlu Brenhinol wedi’u claddu yno o wahanol wledydd gan gynnwys UDA, De Affrica, Canada a dau o’r Weriniaeth Tsiec.

Roedd Rudolf Rohacek a Josef Janeba ill dau’n rhan o Sgwadron 312 a leolwyd yng Nghomin Fairwood yn ystod 1942.

Ganwyd Rohacek ym 1914 yn Marianske Hory. Ar ôl cwymp Tsiecoslofacia, ymunodd â Llu Awyr Gwlad Pwyl, yna’r Llu Awyr Ffrainc ac yn olaf yr Awyrlu Brenhinol.  Fe’i lladdwyd ar 27 Ebrill 1942 pan syrthiodd ei awyren Spitfire i’r ddaear yn agos iawn i Orsaf Rheilffordd Axbridge yng Ngwlad yr Haf. Achos mwyaf tebygol y ddamwain oedd methiant y cyfarpar ocsigen.

Ganwyd Janeba ym 1915 yn Kralove. Fe’i lladdwyd ar 2 Mai 1942 pan darodd awyren Spitfire arall yn erbyn cynffon ei Spitfire ef a’i dorri wrth iddo esgyn. Llwyddodd i neidio allan ond nid oedd wedi esgyn yn ddigon uchel i’r parasiwt weithio. Syrthiodd y Spitfire i fuarth fferm Cil-frwch, yn agos i South Gower Road.  Cadwodd Janeba ddyddiadur, ac ysgrifennwyd y cofnod olaf gan ei gyfaill a’i gyd-beilot, Vojtech Smolik.

“Bu farw mewn damwain awyren ar 2 Mai 1942. Defnyddiodd ei barasiwt, ond digwyddodd y ddamwain ar uchder isel iawn felly ni allai’r parasiwt ei achub.  Ef oedd fy ffrind gorau. Fe’i hanrhydeddaf wrth gofio amdano.”

Llun o feddau Josef Janeba a Rudolf Rohacek

Talodd y Llysgennad Tsiecaidd deyrnged hefyd i rai o’r meirwon o Sgwadron Tsiecaidd arall sef 311, sgwadron bomio a leolwyd yn Sir Benfro am gyfnod ac a secondiwyd i’r Rheolaeth Arfordirol. Daeth un o aelodau’r sgwadron, Vaclav Bozdech, yn ffoadur ddwywaith. Yn dilyn cwymp Tsiecoslofacia ymunodd â Llu Awyr Ffrainc. Wrth wasanaethu yno, mabwysiadodd gi bach y rhoddodd yr enw Antis arno, a phan gwympodd Ffrainc, dihangodd gyda’r ci ac ymunodd â Sgwadron 311, lle daeth y ci yn fasgot y sgwadron. Aeth Antis ar yr ymgyrchoedd ymladd, a oedd yn anarferol i fasgot. Wrth ddychwelyd adref, bu’n rhai i Bozdech ddianc eto, y tro hwn rhag y comiwnyddion a daeth yn ffoadur am yr eildro. Fe’i hachubwyd gan Antis, a rybuddiodd ef gyntaf am batrôl o warchodlu ffiniau ac yn ddiweddarach drwy ddal un ohonynt ar lawr, gan ganiatáu iddynt ddianc a mynd yn ôl i  Brydain. Ym 1949 derbyniodd Antis Fedal Dickin (medal i anifeiliaid sy’n gyfwerth â Chroes Fictoria). Ym mis Rhagfyr 2024, gwerthwyd y fedal mewn ocsiwn am £50,000, ynghyd â chomisiwn.

Filed Under: Uncategorized @cy

Mawrth 4, 2025 by Hollie Gaze

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Gan Phil Treseder
Swyddog Dysgu a Chyfranogi Amgueddfa Abertawe

Ym mis Rhagfyr 2024, cyrhaeddodd tîm rhyngwladol menywod Cymru rowndiau terfynol prif bencampwriaeth am y tro cyntaf. Nid yw pêl-droed i fenywod wedi cael rhwydd hynt. Ar ôl iddi gael hwb yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd ei phoblogrwydd cynyddol yn destun pryder i Gymdeithas Bêl-droed Lloegr, a’i gwaharddodd i bob pwrpas ym 1921 drwy fygwth diarddel clybiau a roddodd ganiatâd i dimau menywod ddefnyddio meysydd a chyfleusterau.

Mae pêl-droed menywod yn dyddio yn ôl yn gynharach na’r Rhyfel Byd Cyntaf ac ar adegau bu cryn wrthwynebiad iddi. Daeth tîm teithiol o’r enw British Ladies’ Football Club i Abertawe ym mis Gorffennaf 1896. Cynhaliwyd gêm yn erbyn tîm dynion (yn ôl pob golwg, y gêm gyntaf o’r fath yn Abertawe erioed), a gorffennodd y sgôr yn gyfartal, 4-4. Fodd bynnag, nid oedd y dorf yn fawr ac ni dderbyniwyd digon o arian i dalu am docynnau teithio aelodau’r tîm i Gaerdydd, eu cyrchfan nesaf.

Llwyddodd y tîm i gyrraedd Caerdydd yn y diwedd, ond cyhoeddwyd y sylwadau canlynol yn y South Wales Daily Post ar 7 Awst.

“So, the British Ladies’ Football Club managed after all to get out of the awkward predicament in which they found themselves on Tuesday and bade Swansea farewell for ever on Thursday. No one could but help sympathise with the poor girls in their sad plight, but at the same time I hope their severe lesson will drive home the conviction that football is not a game for women no more than darning stockings is an occupation for mortals of the masculine gender. The ordinary species of the new woman is almost intolerable, but when females turn out in bloomers on the football field the whole business becomes positively disgusting, and if a slice of bad luck, such as that experienced by the British lady footballers at Swansea, will have the effect of crushing out the practice I shall rejoice exceedingly over it. By-and-by there will be no holding these masculine females”.

Un o’r timau hysbys cynharaf yn Abertawe oedd Baldwins United, a ffurfiwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.  Roedd aelodau’r tîm yn fenywod a oedd yn gweithio yn y ffatri ffrwydron genedlaethol.

Y fenyw a drefnodd y tîm oedd Nancie Griffith Jones, a oedd yn gweithio fel swyddog lles yn y ffatri. Roedd yn hoff iawn o chwaraeon, gan gynnwys pêl-droed, hoci a pholo dŵr. Yn nes ymlaen yn ei bywyd, dyfarnwyd OBE iddi am ei gwasanaethau i’r sector addysg. Byddai hefyd yn treulio’r Ail Ryfel Byd fel un o garcharorion Japan gan ei bod yn cynnal ysgol yn Singapore ar ddechrau’r rhyfel yn y Môr Tawel.

Mae SM MI 6877.2 yn ffotograff o’r tîm a dynnwyd ar faes San Helen cyn neu ar ôl gêm, yn ôl pob tebyg yn erbyn Casnewydd ym mis Ebrill 1918 i godi arian am y gronfa carcharorion rhyfel. Mae Nancie yn eistedd yn y pedwerydd safle o’r chwith yn y rheng flaen.

Llun o dîm y ffatri ffrwydron genedlaethol (Baldwins) a dynnwyd o flaen yr hen bafiliwn ar faes San Helen.

Rhoddir cyfenwau aelodau’r tîm ynghyd â llythyren gyntaf. Fodd bynnag, mae rhai o adroddiadau’r papurau newydd yn rhoi enw cyntaf. Felly, mae’n bosib dyfalu enw llawn a chyfeiriad ambell aelod o’r tîm.

Os yw rhywun yn adnabod rhywun fel hynafiad neu’n gwybod am unrhyw un arall yn y tîm ac yn gallu rhoi rhagor o wybodaeth, a wnewch chi gysylltu ag Amgueddfa Abertawe drwy e-bostio phil.treseder@abertawe.gov.uk

Yr enwau posib a roddir ochr yn ochr â Nancie Griffith Jones yw:

N Dalhgrin
L Quick (capten)
D Wise
D Thomas
E Griffiths
A Davies
G Gower
A Guy
K Roper
M Forrester
Mewn gêm ddiweddarach, crybwyllir E Mountfield.

Mae rhai posibiliadau’n cynnwys:

Enwir y capten yn Lizzie mewn adroddiad papur newydd. O bosib, dyma Lilian Elizabeth Quick, a anwyd ym 1895 yn Wolverhampton ac a oedd yn byw yn Margaret Terrace, St Thomas ym 1911. Os felly, priododd Evan Gordon Davies ym 1924.

Enwir K Roper yn Katie yn y papur newydd. Ganwyd Catherine Roper oddeutu 1900 ac roedd yn byw yn 3 Wandsworth Street gyda’i brawd a’i ewythr.

Filed Under: blog, Blog, collection, Football, Sports, World War 1 Tagged With: football, wales, womens, ww1

Medi 26, 2024 by Hollie Gaze

Crys-t Oxfam

Rhodd Newydd

Ym mis Hydref ym 1969, daeth grŵp o bobl ifanc at ei gilydd am ganol nos ym Mharc Singleton. Roeddent yn cymryd rhan mewn taith gerdded elusennol i Borthcawl a fyddai’n cymryd hyd at 8 awr iddynt ei chwblhau. Roedd rhoddwr y crys-t hwn, ynghyd â gweddill y grŵp, yn cerdded i godi arian ar gyfer Oxfam, sef elusen sy’n ymladd yn erbyn tlodi ar draws y byd. Ar flaen y crys mae’r logo ‘Oxfam Walk 69’ ac ar y cefn mae’r slogan y gellir ei gamddeall yn hawdd, ‘Help Stamp out Oxfam’.

Roedd taith gerdded elusennol Abertawe’n rhan o fudiad cerdded ieuenctid cenedlaethol a ddigwyddodd ar draws Prydain. Un o’r teithiau cerdded mwyaf adnabyddus oedd taith gerdded yr haf i Stadiwm Wembley. Dechreuodd 50,000 o bobl ifanc o 12 man gwahanol i wneud taith gerdded elusennol i’r stadiwm, gan gerdded hyd at 30 milltir. Roedd yn ddiwrnod braf ac roedd nifer o’r bobl ifanc yn anghyfarwydd â cherdded pellteroedd hir, felly roedd criw Ambiwlans Sant Ioan yn brysur yn trin blinder gwres a thraed anafedig. Croesawyd y rheini a gyrhaeddodd y stadiwm gyda chyngerdd a oedd yn cynnwys y bandiau Love Affair a Dire Straits.

Mae’r crys-t hwn yn cynrychioli cenhedlaeth newydd a oedd wedi sylweddoli bod gwella’r byd yn dechrau gydag un cam.

A miloedd o gamau eraill ar ôl hynny.

Filed Under: blog, collection Tagged With: blog, oxfam

Gorffennaf 17, 2024 by Hollie Gaze

Pennau Byfflo a Bual

Pennau byfflo a bual cyn y gwaith cadwraeth

Yn ein Horiel Astudiaethau Natur, roedd dau ben o deulu’r Bufilod wedi’u gosod ar y wal yr oedd angen gofal a gwaith cadwraeth arnynt. Roedd amser wedi effeithio ar y pennau tacsidermi felly daeth Laura o LR Conservation i Amgueddfa Abertawe i ddarparu’r arbenigedd i’w cadw a’u glanhau.

Mae un ohonynt yn ben Bual Gawr Indiaidd. Dyma’r rhywogaeth fwyaf o’r Bufilod sy’n goroesi a gallant ladd teigrod pan gânt eu herian. Daeth ein pen bual ni o Kolhapur yng ngogledd India ac fe’i rhoddwyd i’r amgueddfa ym 1960. Roedd difrod difrifol i un o gyrn pen y bual, ac roedd angen ei ailosod yn ofalus. Roedd ei lygaid gwydr wedi diflannu ers blynyddoedd lawer.

Corn a chlust a oedd wedi’u difrodi cyn y gwaith cadwraeth – bual
Corn a chlust wedi’u hatgyweirio a llygaid gwydr newydd – bual

Byfflo Dŵr yw’r pen arall o deulu’r Bufilod a ddaeth o Kolhapur ar yr un pryd â’r bual. Mae dau fath gwahanol o Fyfflo Dŵr: y gors a’r afon. Nid ydym yn sicr o hyd ynghylch y math o fyfflo dŵr sydd gennym ni. Y ffordd arferol o wahaniaethu rhyngddynt yw maint eu corff  ond nid oes modd gwneud hyn gyda phen yn unig. Roedd rhannau o ben ein byfflo wedi crebachu lle’r oedd y llanwad a ddefnyddiwyd gan y tacsidermydd gwreiddiol wedi sychu. Yn ogystal â gwaith atgyweirio, roedd angen glanhau a chaboli’r pennau i’w cadw.

Craciau a llwch cyn y gwaith cadwraeth – byfflo
Ar ôl atgyweirio’r craciau a glanhau – byfflo

Oherwydd arbenigedd y gwarchodwr, mae’r ddau ben yn lân, mae eu llygaid yn ddisglair a’u cyrn yn loyw. Unwaith y caiff y mowntiau eu gwneud, caiff y ddau ben eu rhoi yn ôl yn yr Oriel Astudiaethau Natur.

Filed Under: bison, blog, buffalo, conservation, natural history

Mai 20, 2024 by Hollie Gaze

Rhodd newydd

Pot pupur o’r Air Ryfel Byd

Weithiau, gall fod stori ddiddorol y tu ôl i’r rhoddion mwyaf difalch. Mae’r amgueddfa wedi cael rhodd yn ddiweddar gan deulu lleol sef tun metel yn llawn pupur du. Mae’r tu allan yn edrych ychydig yn rhydlyd, ac mae’r tu mewn yn cynnwys bag cyffredin o bupur. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cedwid y pot pupur hwn yn lloches cyrch awyr y teulu. Fodd bynnag, nid oedd yn cael ei ddefnyddio fel sesnin ar gyfer eu dognau. Roedd mam-gu’r sawl a roddodd y pot yn ei gadw yno fel eu llinell amddiffyn olaf rhag ofn y byddai’r Almaenwyr yn llifo i’r wlad. Roedd e’n barod ganddi i’w daflu yn eu hwynebau i’w dallu fel y gallai’r teulu ddianc yn gyflym.

Mae’r rhodd hon yn rhan o gasgliad o dair eitem sy’n ymwneud â’r Ail Ryfel Byd yn Abertawe. Mae’r ddwy eitem arall sy’n rhan o’r rhodd hon yn ffotograffau o berthnasau’r rhoddwr a fu’n gweithio fel nyrs a gyrrwr ambiwlans yn ystod y rhyfel.

SM2024.1.3

Filed Under: blog, collection, Stories, World War 2

  • Page 1
  • Page 2
  • Page 3
  • …
  • Page 5
  • Next Page »

Primary Sidebar

Search

Blog

  • Wythnos y Ffoaduriaid
  • Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
  • Crys-t Oxfam
  • Pennau Byfflo a Bual
  • Rhodd newydd

Footer

Connect with Us

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter

Return to top of page

Copyright © 2025 · Swansea Museum, City and County of Swansea

  • Cymraeg
  • English