Arddangosfeydd Cyfredol

Y Prosiect Goleuo
Diolch i grant gan Lywodraeth Cymru, rydym wedi dechrau’r Prosiect Goleuo. Mae’r prosiect yn darparu goleuadau newydd mawr eu hangen ar gyfer ein Darlithfa a’n Horiel Hanes. Bydd ein trydanwyr yn gweithio ar yr ystafelloedd un ar y tro i leihau aflonyddwch.
Mae ein Darlithfa ar gau ar hyn o bryd
‘Bad Girls & Bad Boys’
Inspired by the books of Elizabeth Belcham, this exhibition will tell the story of Swansea criminals and the crimes that made them famous. With a focus on Victorian Swansea, explore the stories of the men and women and you can judge if they deserved their fate.
Exhibition opening this spring.

Cofio Menywod y Cocos
Mae arddangosfa wedi’i chreu i ddathlu hanes diwydiant cocos Pen-clawdd. Mae’r arddangosfa’n cynnwys ffotograffau, printiadau a phaentiadau ar fenthyg gan ddisgynyddion teuluoedd sefydledig y diwydiant. Ni welwyd llawer o’r eitemau hyn gan y cyhoedd o’r blaen. Bydd ffilm ddogfen fer yn ychwanegiad hyfryd i’r arddangosfa arbennig hon.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld â ni i gael blas ar gysylltiad Abertawe â’r creadur dwygragennog hwn.



Amgueddfa Gyntaf Cymru
Sefydlwyd Sefydliad Brenhinol De Cymru neu RISW ym 1835. Agorodd yr aelodau sefydlu amgueddfa fawr gyntaf Cymru ym 1841. Amgueddfa Abertawe yw hon bellach, sy’n parhau i fod yn ganolfan diwylliant ffyniannus.

Mae llyfr a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn gosod ei stori yn ei chyd-destun, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae arbenigwyr blaenllaw yn disgrifio ffurfiant casgliadau niferus ac amrywiol yr Amgueddfa. Mae’r rhain yn cynnwys daeareg, hanes natur, botaneg, archeoleg, Eifftoleg, ffotograffiaeth, y celfyddydau addurnol, cofnodion hanesyddol, darnau arian, mapiau a gwisgoedd.
Mae’r amgueddfa wedi cael ei gweithredu gan Gyngor Abertawe ers dechrau’r 1990au. Fodd bynnag, mae’r RISW yn dal i fod yn grŵp gweithgar ac yn gefnogwyr cryf i’r amgueddfa fel grŵp ei ffrindiau. Mae’r arddangosfa hon yn dathlu eu llyfr newydd a’n treftadaeth ryfeddol. Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys eitemau allweddol o gasgliadau’r amgueddfa, sydd wedi’u hamlygu yn y llyfr. Mae rhai o’r gwrthrychau yn cael eu harddangos am y tro cyntaf.



Hanes Naturiol Iawn

Mae gan bobl ddiddordeb diamheuol mewn natur. Dangosir hyn yn glir drwy amrediad ein casgliad hanes natur. O blanhigion wedi’u sychu i chwistlod wedi’u gwasgu, mae gan yr amgueddfa gyfoeth o fflora a ffawna. Er nad oes angen casglu a chadw sbesimenau astudiaethau natur fel hyn mwyach, mae llawer i’w ddysgu o hyd am yr hyn a ysgogodd yr arfer gwreiddiol.
Arddangosfeydd sydd ar ddod
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i dderbyn newyddion am y digwyddiad i’ch mewnflwch.

