• Skip to primary navigation
  • Skip to content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Swansea Museum

  • Cymraeg
    • English
  • Email
  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter
  • Hafan
  • Ymweld ag Amgueddfa Abertawe
    • Trefnwch eich ymweliad am ddim
    • Cychod a Llongau ar Ddangos
    • Canolfan Gasgliadau Amgueddfa Abertawe
    • Sied Dramiau
    • Cysylltu â Staff
    • Ffrindiau Amgueddfa Abertawe
  • Ein Casgliad
    • Arweiniad Digidol Am Ddim
    • Eich Paentiadau
    • Arteffactau Eifftaidd
    • Gwrthrychau Morwrol
    • Darganfyddiadau o Abertawe a Chastell-nedd
    • Abertawe yn ystod y Rhyfel
    • Rhoi eitem i Amgueddfa Abertawe
  • Abertawe – Braslun o’i Hanes
    • Archaeoleg
    • Diwydiant
    • Y Môr
    • Trên y Mwmbwls
    • Hen dai a lleoedd
  • Digwyddiadau
    • Arddangosfeydd
    • Digwyddiadau a Gweithgareddau
    • Arddangosfeydd y Gorffennol
  • Siop yr amgueddfa
  • Dysgu
    • Ymweliadau Ysgol
    • Allgymorth Cymunedol
  • Blog
You are here: Home / Allgymorth Cymunedol

Allgymorth Cymunedol

Sgyrsiau’r Amgueddfa i Grwpiau Cymunedol

Mae staff Amgueddfa Abertawe’n rhoi sgyrsiau darluniedig am bynciau sydd o ddiddordeb lleol i grwpiau cymunedol yn Abertawe, yn ystod y dydd neu’r hwyr.


Cysylltwch â Phil Treseder i drefnu sgwrs:
01792 653763
or Ebostio Phil

*Yn newydd ar gyfer 2022*

Parhau i Gasglu

Ym 1991, cymerwyd yr amgueddfa drosodd gan Ddinas a Sir Abertawe. Fodd bynnag rydym yn dal i gasglu gwrthrychau heddiw.  Mae’r sgwrs hon yn cwmpasu’r pethau rydym yn eu casglu, rhai gwrthrychau eiconig diweddar a sut mae amgueddfa fodern yn gweithredu.

*Yn newydd ar gyfer 2022*

Hanes Abertawe drwy 20 o Wrthrychau

Hanes Abertawe o 300 OC hyd at yr 20fed ganrif, wedi’i ddangos drwy 20 o wrthrychau sy’n rhan o gasgliad yr amgueddfa.

*Yn newydd ar gyfer 2022*

YMCA Abertawe

Dyma un o elusennau hynaf Abertawe sydd wedi goroesi – fe’i sefydlwyd ym 1868 ac mae’n darparu enghraifft hynod ddiddorol o hanes cymdeithasol Abertawe dros y 150 o flynyddoedd diwethaf.

Hanes a Thrysorau Amgueddfa Abertawe

Amgueddfa Abertawe yw’r amgueddfa hynaf yng Nghymru. Mae’r sgwrs yn cwmpasu hanes hynod ddiddorol yr amgueddfa a gwrthrychau enwog yn y casgliad.

Copropolis – Diwydiant yng Nghwm Tawe Isaf

Ar ddiwedd y 18fed ganrif, ystyriwyd mai twristiaeth oedd dyfodol Abertawe. Abertawe fyddai ‘Brighton Cymru’. Yn hytrach, cawsom lysenw arall, ‘Copropolis.’ Mae’r sgwrs hon yn cwmpasu hanes y Chwyldro Diwydiannol yn Abertawe.

Rheilffordd y Mwmbwls

Y rheilffordd hynaf yn y byd i deithwyr.

Morwyr yr Horn Abertawe – Casgliad a Hanes Morol

Ni ddaw’r term ‘Swansea Jack’ o’r ci enwog. Mae’n gysylltiedig â hanes morol cyfoethog Abertawe a sgiliau’r llongwyr a ddeuai â’r mwyn copr o amgylch yr Horn, o Chile.

Blitz Abertawe – Abertawe yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Pam y targedwyd Abertawe? Sut roedd Abertawe’n edrych cyn y blitz, y canlyniadau a’r ailadeiladu.

Mae pob sgwrs yn amodol ar argaeledd.
Ni chodir tâl am y gwasanaeth hwn er rydym yn croesawu unrhyw roddion tuag at gronfeydd prynu’r Amgueddfa.
Gwnewch sieciau’n daladwy i Dinas a Sir Abertawe.

Primary Sidebar

Search

Blog

  • Wythnos y Ffoaduriaid
  • Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
  • Crys-t Oxfam
  • Pennau Byfflo a Bual
  • Rhodd newydd

Footer

Connect with Us

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter

Return to top of page

Copyright © 2025 · Swansea Museum, City and County of Swansea

  • Cymraeg
  • English