Gan Phil Treseder
Swyddog Dysgu a Chyfranogi Amgueddfa Abertawe
Ar 30 Mawrth 2021, daeth Ei Ardderchogrwydd, Libor Secka, y Llysgennad Tsiecaidd, i’r DU i wylio gêm bêl-droed ragbrofol Cymru yn erbyn y Weriniaeth Tsiec ar gyfer Cwpan y Byd 2022.
Tra oedd yng Nghymru manteisiodd ar y cyfle i ymweld â sawl mynwent i dalu teyrnged i gydwladwyr a ffoaduriaid i Brydain a dalodd y pris eithaf wrth wasanaethu yn yr Awyrlu Brenhinol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Roedd yr ymweliad yn cynnwys mynwent eglwys St Hiliary yng Nghilâ. Mae nifer o bersonél yr Awyrlu Brenhinol wedi’u claddu yno o wahanol wledydd gan gynnwys UDA, De Affrica, Canada a dau o’r Weriniaeth Tsiec.
Roedd Rudolf Rohacek a Josef Janeba ill dau’n rhan o Sgwadron 312 a leolwyd yng Nghomin Fairwood yn ystod 1942.
Ganwyd Rohacek ym 1914 yn Marianske Hory. Ar ôl cwymp Tsiecoslofacia, ymunodd â Llu Awyr Gwlad Pwyl, yna’r Llu Awyr Ffrainc ac yn olaf yr Awyrlu Brenhinol. Fe’i lladdwyd ar 27 Ebrill 1942 pan syrthiodd ei awyren Spitfire i’r ddaear yn agos iawn i Orsaf Rheilffordd Axbridge yng Ngwlad yr Haf. Achos mwyaf tebygol y ddamwain oedd methiant y cyfarpar ocsigen.
Ganwyd Janeba ym 1915 yn Kralove. Fe’i lladdwyd ar 2 Mai 1942 pan darodd awyren Spitfire arall yn erbyn cynffon ei Spitfire ef a’i dorri wrth iddo esgyn. Llwyddodd i neidio allan ond nid oedd wedi esgyn yn ddigon uchel i’r parasiwt weithio. Syrthiodd y Spitfire i fuarth fferm Cil-frwch, yn agos i South Gower Road. Cadwodd Janeba ddyddiadur, ac ysgrifennwyd y cofnod olaf gan ei gyfaill a’i gyd-beilot, Vojtech Smolik.
“Bu farw mewn damwain awyren ar 2 Mai 1942. Defnyddiodd ei barasiwt, ond digwyddodd y ddamwain ar uchder isel iawn felly ni allai’r parasiwt ei achub. Ef oedd fy ffrind gorau. Fe’i hanrhydeddaf wrth gofio amdano.”
Talodd y Llysgennad Tsiecaidd deyrnged hefyd i rai o’r meirwon o Sgwadron Tsiecaidd arall sef 311, sgwadron bomio a leolwyd yn Sir Benfro am gyfnod ac a secondiwyd i’r Rheolaeth Arfordirol. Daeth un o aelodau’r sgwadron, Vaclav Bozdech, yn ffoadur ddwywaith. Yn dilyn cwymp Tsiecoslofacia ymunodd â Llu Awyr Ffrainc. Wrth wasanaethu yno, mabwysiadodd gi bach y rhoddodd yr enw Antis arno, a phan gwympodd Ffrainc, dihangodd gyda’r ci ac ymunodd â Sgwadron 311, lle daeth y ci yn fasgot y sgwadron. Aeth Antis ar yr ymgyrchoedd ymladd, a oedd yn anarferol i fasgot. Wrth ddychwelyd adref, bu’n rhai i Bozdech ddianc eto, y tro hwn rhag y comiwnyddion a daeth yn ffoadur am yr eildro. Fe’i hachubwyd gan Antis, a rybuddiodd ef gyntaf am batrôl o warchodlu ffiniau ac yn ddiweddarach drwy ddal un ohonynt ar lawr, gan ganiatáu iddynt ddianc a mynd yn ôl i Brydain. Ym 1949 derbyniodd Antis Fedal Dickin (medal i anifeiliaid sy’n gyfwerth â Chroes Fictoria). Ym mis Rhagfyr 2024, gwerthwyd y fedal mewn ocsiwn am £50,000, ynghyd â chomisiwn.