Ydych chi’n falch nad oeddech yn byw yn oes Fictoria?

Mae ein harddangosfa ddiweddaraf, Merched Drwg a Bechgyn Drwg Abertawe, yn archwilio straeon troseddwyr Fictoraidd. Ond sut oedd bywydau plant dosbarth gweithiol yn oes Fictoria? Archwiliwch ein horielau i gael gwybod am fywydau plant a oedd yn gweithio a’r cyfreithiau a oedd yn ceisio eu hamddiffyn.

Portreadu
Dydd Iau 28 Mai
10am i 1pm
Dewch i greu’r portread perffaith gyda help gan artist ein gweithdy. Cewch gyfle i ddarlunio ac addurno hunanbortread neu bortread o rywun rydych chi’n ei adnabod, neu gallwch ddefnyddio eich dychymyg i greu portread unigryw.
Sesiwn galw heibio am ddim i bob oed
Bydd ein hystafell chwarae ar agor ar gyfer gemau ac ymlacio bob dydd ac eithrio diwrnod y gweithdy ar 28 Mai. Cyn i chi adael, cofiwch gasglu eich pecyn Fictoriaid Dieflig llawn gweithgareddau a chrefftau ar thema oes Fictoria i’w gadw.
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i dderbyn newyddion am y digwyddiad i’ch mewnflwch
Ydych chi wedi rhoi cynnig ar ein llwybr llygod?
Mae 22 o lygod yn cuddio o amgylch ein hamgueddfa. Mae’n her fawr i ddod o hyd i bob un ohonynt – a fyddwch chi’n heliwr llygod medrus?


Sicrhewch eich bod chi’n cael cip ar Sefydliad Brenhinol De Cymru, sy’n darparu rhaglen reolaidd o ddarlithoedd ar amrywiaeth eang o bynciau.
Mae Sefydliad Brenhinol De Cymru, neu RISW, yn gyfeillion i’r amgueddfa.

Diolch am gymryd rhan!
Adrodd Eu Stori
Diolch i bawb sy’n parhau i gymryd rhan yn ein stori Dihangfa Wyllt sy’n adrodd ein Horiel Astudiaethau Natur. Cawsom gyfraniadau gwych. Dyma rai o’n ffefrynnau hyd yn hyn!
Yr her gomics 4 panel:





















