• Skip to primary navigation
  • Skip to content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Swansea Museum

  • Cymraeg
    • English
  • Email
  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter
  • Hafan
  • Ymweld ag Amgueddfa Abertawe
    • Trefnwch eich ymweliad am ddim
    • Cychod a Llongau ar Ddangos
    • Canolfan Gasgliadau Amgueddfa Abertawe
    • Sied Dramiau
    • Cysylltu â Staff
    • Ffrindiau Amgueddfa Abertawe
  • Ein Casgliad
    • Arweiniad Digidol Am Ddim
    • Eich Paentiadau
    • Arteffactau Eifftaidd
    • Gwrthrychau Morwrol
    • Darganfyddiadau o Abertawe a Chastell-nedd
    • Abertawe yn ystod y Rhyfel
    • Rhoi eitem i Amgueddfa Abertawe
  • Abertawe – Braslun o’i Hanes
    • Archaeoleg
    • Diwydiant
    • Y Môr
    • Trên y Mwmbwls
    • Hen dai a lleoedd
  • Digwyddiadau
    • Arddangosfeydd
    • Digwyddiadau a Gweithgareddau
    • Arddangosfeydd y Gorffennol
  • Siop yr amgueddfa
  • Dysgu
    • Ymweliadau Ysgol
    • Allgymorth Cymunedol
  • Blog
You are here: Home / Siop yr amgueddfa

Siop yr amgueddfa


Mae siop anrhegion yr amgueddfa’n cynnig detholiad o eitemau sy’n ymwneud â chasgliad yr amgueddfa. Mae gennym ffigurynnau o dduwiau a brenhinoedd sydd wedi’u hysbrydoli gan ein casgliad Eifftoleg, a gallwch hyd yn oed prynu tegan meddal hipopotamws o afon Nîl i fynd ag ef adref gyda chi.

Mae gan Amgueddfa Abertawe gasgliad astudiaeth natur anhygoel. Gallwch chi hefyd ddechrau eich casgliad eich hun o gerrig caboledig a ffosilau neu brynu tegan deinosor ar gyfer paleontolegwyr ifanc.

Mae siop yr amgueddfa bellach yn gwerthu teganau pren a thraddodiadol, gan gynnwys gemau a hyd yn oed trên gyda chwiban!

Teganau Newydd

Mae stoc o deganau traddodiadol newydd yn siop yr amgueddfa sy’n cynnwys gemau pren a hyd yn oed trên gyda chwiban! Maen nhw’n berffaith i blant sy’n chwilio am ddiddordeb newydd neu sy’n mwynhau teganau’r gorffennol.

Dewch i gael cip ar ein ‘Cwtsh Llyfrau’ lle mae gennym ddetholiad eang o lyfrau sy’n ymwneud â hanes lleol a rhai unigryw gan awduron o Abertawe.  Mae’r rhain yn anrhegion perffaith i bobl sy’n dwlu ar hanes lleol.

Christmas Special

Mae anturiaethau Jac Abertawe yn parhau gyda’r ychwanegiad Nadoligaidd arbennig hwn. Mae’r stori hyfryd hon, a chanddi ddarluniadau gwych, yn berffaith ar gyfer stori amser gwely ar noson Nadolig.

£9.95

Brutalism

Mae Brutal Wales yn gasgliad hynod ddiddorol o ffotograffau sy’n dangos adeiladau diaddurn (brutalist) yng Nghymru. Mae’n cynnwys Canolfan Ddinesig Abertawe ac is-orsaf drydanol llai hysbys.

£30

Llyfr newydd trawiadol

Yn dilyn arddangosfa gymeradwy iawn o ffotograffau a phaentiadau George Little, mae’r llyfr newydd hwn gan Peter Wakelin yn llawn lluniau o Abertawe yn y 50au a’r 60au. Bydd yn siŵr o foddio ffotograffwyr, artistiaid a’r rheini sy’n dwlu ar hanes.

£20 yn unig

Detholiad o gerddi

Mae detholiad o farddoniaeth y bardd o benrhyn Gŵyr, John Palmer, bellach ar gael yn Amgueddfa Abertawe. Yn berffaith i’w darllen wrth swatio’n glyd ar bwys tân (neu reiddiadur) cynnes. Mae pum cyfrol i ddewis ohonynt ac ar gyfer pob cyfrol rydych yn ei phrynu, mae rhodd yn cael ei roi i elusen Matthew’s House.

Celf y clawr gan yr artist John Upton.

Dim ond £6 yr un

Pris gostyngedig er mwyn dathlu’r arddangosfa

Os nad ydych chi wedi gweld ein harddangosfa ddiweddaraf, ‘Abertawe’r Ugeinfed Ganrif’ eto, nawr yw’r amser. Rydym wedi gostwng pris y llyfr hwn o ffotograffau gwych gan Colin Riddle yn arbennig ar gyfer yr arddangosfa, felly cofiwch brynu copi tro nesaf rydych chi’n ymweld!

£10 yn unig

Yr anrheg berffaith i’r rhieni sy’n dwlu ar gŵn

Byddwn yn gwerthu teganau traddodiadol yn y siop yn arbennig ar gyfer y gwyliau, Os ydych yn chwilio am anrheg unigryw, o robotiaid i harmonicâu, dewch lawr i’r amgueddfa y mis Rhagfyr hwn!

£9.95

Primary Sidebar

Search

Blog

  • Wythnos y Ffoaduriaid
  • Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
  • Crys-t Oxfam
  • Pennau Byfflo a Bual
  • Rhodd newydd

Footer

Connect with Us

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter

Return to top of page

Copyright © 2025 · Swansea Museum, City and County of Swansea

  • Cymraeg
  • English