• Skip to primary navigation
  • Skip to content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Swansea Museum

  • Cymraeg
    • English
  • Email
  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter
  • Hafan
  • Ymweld ag Amgueddfa Abertawe
    • Trefnwch eich ymweliad am ddim
    • Cychod a Llongau ar Ddangos
    • Canolfan Gasgliadau Amgueddfa Abertawe
    • Sied Dramiau
    • Cysylltu â Staff
    • Ffrindiau Amgueddfa Abertawe
  • Ein Casgliad
    • Arweiniad Digidol Am Ddim
    • Eich Paentiadau
    • Arteffactau Eifftaidd
    • Gwrthrychau Morwrol
    • Darganfyddiadau o Abertawe a Chastell-nedd
    • Abertawe yn ystod y Rhyfel
    • Rhoi eitem i Amgueddfa Abertawe
  • Abertawe – Braslun o’i Hanes
    • Archaeoleg
    • Diwydiant
    • Y Môr
    • Trên y Mwmbwls
    • Hen dai a lleoedd
  • Digwyddiadau
    • Arddangosfeydd
    • Digwyddiadau a Gweithgareddau
    • Arddangosfeydd y Gorffennol
  • Siop yr amgueddfa
  • Dysgu
    • Ymweliadau Ysgol
    • Allgymorth Cymunedol
  • Blog
You are here: Home / Archives for donation

donation

Gorffennaf 7, 2025 by Hollie Gaze

Ysbienddrych efydd

Gan Hollie Gaze
Swyddog Gwasanaethau Ymwelwyr Amgueddfa Abertawe

Rhodd Newydd

Mae hanes trasig i’r ysbienddrych efydd hwn. Roedd yr ysbienddrych ar fwrdd yr SS Amazon a suddodd ar hyd traeth Margam ger Port Talbot ar 1 Medi 1908.

Roedd yr SS Amazon yn llong haearn â phedwar hwylbren; llong hwylio a adeiladwyd gan Barclay, Curle & Co yn Greenock ym 1886. Ar fore 31 Awst, cafodd yr SS Amazon ei halio o borthladd Port Talbot gyda’r bwriad o hwylio tua phorthladd Iquique gyda 2,000 tunnell o lo. Porthladd yn Chile yw Iquique sy’n adnabyddus am allforio solpitar, mwyn a ddefnyddir mewn powdr gwn a gwrtaith. Byddai llongau’n hwylio i Iquique gyda mewnforion, fel glo, ac yn dychwelyd gyda’r solpitar.

Roedd awel ysgafn wrth i’r Amazon gael ei halio’n araf i’r Mwmbwls, lle’r oedd yr awel yn troi’n gyflym yn storm. Rhoddwyd gorchymyn gan y Capten, Andrew Garrik, i ollwng yr angor. Gwnaed y penderfyniad i aros i’r gwynt ostegu gan nad oeddent yn gallu troi pen y llong i’r gwynt, felly gadawodd y tynfad y llong ac aeth yn ôl i’r porthladd. Wrth iddi nosi, daeth yn glir na fyddai’r gwynt yn gostegu, ac roedd mewn gwirionedd yn cryfhau. Gollyngwyd angor arall. Erbyn y bore, drylliwyd pob gobaith y byddai’r tywydd yn clirio. Roedd y gwynt mor gryf ni allai’r angorau gadw’r llong yn llonydd, ac roedden nhw bellach yn llusgo ar draws wely’r môr.

Roedd ystlys yr Amazon yn wynebu’r gwynt, felly pan dorrodd yr angorau, chwythwyd y llong i’r dde, ac nid oedd modd rheoli ei llwybr. Roedd y llong a’i chriw mewn sefyllfa enbydus, felly gorchmynnodd y capten iddynt wisgo’u gwregysau achub a dringo’r rigin i osgoi cael eu sgubo i’r môr. Chwifion nhw eu lluman coch â’i ben i waered – arwydd o long mewn trafferthion. Parhaodd y gwynt i’w gwthio i’r de, heibio i draeth Port Talbot nes iddo fynd ar lawr ar draeth Margam. Roedd yr Amazon wedi cael ei chwythu i’r de am ryw 7 milltir.

Unwaith iddi daro’r traeth, fe’i curwyd gan donnau, gan achosi i’r capten gael ei sgubo yn erbyn y caban bwrdd. Cafodd ei daro’n anymwybodol ond fe’i clymwyd i’r hwylbren gan saer y llong. Ceision nhw ollwng bad y llong, ond fe’i dinistriwyd yn y dymestl. Cafodd cogydd y llong ei sgubo i’r môr ac anogodd hyn y criw, a oedd yn dal i fod ar fwrdd y llong, i ddringo i fyny’r rigin er mwyn diogelwch.

Roedd hi bellach yn fore, a dechreuodd pobl ymgasglu ar hyd y lan i weld beth oedd yn digwydd. Roedden nhw mor agos fel y gallent glywed lleisiau gofidus y morwyr, ond roedd y tywod yn beryglus. Oherwydd y tonnau a’r tywod meddal ni allent wneud fawr ddim heblaw gwylio’r olygfa’n datblygu o’u blaenau, a hwythau’n gwbl ddiymadferth. Ceision nhw saethu llinell roced at y llong, ond ni lwyddodd i’w chyrraedd. Nid oedd bad achub y Mwmbwls, Charlie Medland, yn gallu cyrraedd o fewn milltir i’r llong oherwydd y dŵr bas. Dechreuodd yr Amazon suddo i mewn i’r tywod symudol ac roedd y tonnau’n awr yn boddi’r llong. Torrodd tri o’r pedwar hwylbren, gan daflu morwyr i’r môr. Neidiodd eraill i’r dŵr, gan obeithio cyrraedd y lan. Torrodd y prif hwylbren yn y diwedd, gan anfon gweddill y morwyr i mewn i’r môr. Clywyd bloeddiadau’r morwyr gan bobl a oedd yn aros ar y lan ac roedd llawer o’r gwylwyr mewn anobaith llwyr.

O’r diwedd, roedd y llanw  wedi treio digon i bobl ymdrechu i gyrraedd gweddillion yr Amazon gyda llawer yn peryglu eu bywydau i achub y morwyr a oedd yn dal yn y dŵr. Neidiodd un dyn, Charles Russell, i mewn i’r dŵr a nofio allan i gyrraedd Christopher Sullivan a oedd yn dal i gydio’n dynn wrth weddillion yr hwylbren. Anafwyd Russell yn wael, ond llwyddodd i achub bywyd Sullivan. Anelodd eraill yn gyflym am yr Amazon, gan ddod o hyd i forwr arall a oedd yn sownd yn y malurion, wedi’i anafu ond yn fyw. Nofiodd Henry Care allan gyda rhaff a llwyddodd i achub dau forwr arall. Hyd yn oed ar ôl ymdrechion dewr morwyr a gwylwyr, dim ond 8 o’r 28 o ddynion ar fwrdd yr Amazon a achubwyd o’r malurion.

Canfuwyd yr ysbienddrych hwn yn y tywod ger gweddillion yr Amazon. Mae e’n eithaf cyffredin, er ei fod bellach wedi’i afliwio’n wael gan fod dŵr y môr wedi bwyta i mewn i’r efydd ac wedi niwlo’r lensys gwydr. Bydd yr ysbienddrych, sydd bellach yng nghasgliad yr amgueddfa, yn ffordd o gofio am dynged drasig yr SS Amazon, ac 20 o’i chriw.

Filed Under: blog, Blog, collections, maritime Tagged With: donation, maritime, shipwreck

Primary Sidebar

Search

Blog

  • Ysbienddrych efydd
  • Wythnos y Ffoaduriaid
  • Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
  • Crys-t Oxfam
  • Pennau Byfflo a Bual

Footer

Connect with Us

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter

Return to top of page

Copyright © 2025 · Swansea Museum, City and County of Swansea

  • Cymraeg
  • English