• Skip to primary navigation
  • Skip to content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Swansea Museum

  • Cymraeg
    • English
  • Email
  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter
  • Hafan
  • Ymweld ag Amgueddfa Abertawe
    • Trefnwch eich ymweliad am ddim
    • Cychod a Llongau ar Ddangos
    • Canolfan Gasgliadau Amgueddfa Abertawe
    • Sied Dramiau
    • Cysylltu â Staff
    • Ffrindiau Amgueddfa Abertawe
  • Ein Casgliad
    • Arweiniad Digidol Am Ddim
    • Eich Paentiadau
    • Arteffactau Eifftaidd
    • Gwrthrychau Morwrol
    • Darganfyddiadau o Abertawe a Chastell-nedd
    • Abertawe yn ystod y Rhyfel
    • Rhoi eitem i Amgueddfa Abertawe
  • Abertawe – Braslun o’i Hanes
    • Archaeoleg
    • Diwydiant
    • Y Môr
    • Trên y Mwmbwls
    • Hen dai a lleoedd
  • Digwyddiadau
    • Arddangosfeydd
    • Digwyddiadau a Gweithgareddau
    • Arddangosfeydd y Gorffennol
  • Siop yr amgueddfa
  • Dysgu
    • Ymweliadau Ysgol
    • Allgymorth Cymunedol
  • Blog
You are here: Home / Ymweld ag Amgueddfa Abertawe

Ymweld ag Amgueddfa Abertawe


Swansea Museum

Amgueddfa Abertawe yw’r amgueddfa hynaf yng Nghymru, ac yn drysordy diddorol o hanes Abertawe. Mae’r casgliadau’n cynnwys pob math o wrthrychau o orffennol Abertawe, Cymru a gweddill y byd.

Ym mhrif adeilad yr amgueddfa, mae gennym bopeth o fymi Eifftaidd i gegin Gymreig wedi’u harddangos mewn chwe oriel. Ceir llawer o arddangosfeydd dros dro hefyd bob blwyddyn.

Trefnu’ch ymweliad

Mynediad Am Ddim

Oriau Agor
Dydd LlunAr Gau (Ar agor ar Ŵyl y Banc)
Dydd Mawrth10am – 4:30pm
Dydd Mercher10am – 4:30pm
Dydd Iau10am – 4:30pm
Dydd Gwener10am – 4:30pm
Dydd Sadwrn10am – 4:30pm
Dydd Sul10am – 4:30pm
Sylwer bod drysau’r amgueddfa’n cau am 4pm ond gall ymwelwyr aros tan 4:30pm.

Arwr Dawel

Cynhelir Awr Dawel Amgueddfa Abertawe rhwng 15:30 a 16:30 bob dydd.  
Bydd pob sgrîn a sŵn wedi’i ddiffodd yn ystod y cyfnod hwn.  

Cyfleusterau

  • Orielau Parhaol ac Arddangosfeydd Dros Dro
  • Gweithgareddau a Digwyddiadau Am Ddim
  • Siop
  • Toiledau
    • Cyfanswm o 3
    • 2 sy’n hygyrch
    • 1 gorsaf newid
    • Darperir yr holl gynhyrchion mislif am ddim gan STOPP
  • Wi-Fi am ddim
  • Ardal bicnic awyr agored
  • Lleoedd parcio ar y safle (gweler y manylion isod)
  • Lifft i bob llawr (gwiriwch ar ddiwrnod eich ymweliad i sicrhau bod y lifft ar gael)

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, ffoniwch 01792653763 neu e-bostiwch yr amgueddfa.

Parcio yn Amgueddfa Abertawe

Yng nghefn yr amgueddfa mae 5 lle parcio ar gyfer ymwelwyr.
Maes parcio â giât yw hwn ac mae ar agor rhwng 10am a 4pm. (am ddim)

Mae pedwar i bump lle parcio ar draws y ffordd o flaen yr amgueddfa gyda chyfyngiad parcio dim dychwelyd ar ôl 2 awr. (am ddim)

Ar ochr yr amgueddfa, ychydig y tu allan i’n maes parcio yn y cefn, mae dau neu dri lle parcio i’r anabl (am ddim)

Mae’r maes parcio agosaf i’r gogledd-orllewin o’r amgueddfa, ar draws yr A4067 ar York Street – maes parcio NCP City Gates. (248 lle parcio)

Mae’r maes parcio agosaf nesaf i’r dwyrain o’r amgueddfa – maes parcio East Burrows Road.  (230 lle parcio, er mae llai o leoedd ar gael ar hyn o bryd oherwydd gwaith adeiladu parhaus)

Mynediad i’r anabl

Mae llawr gwastad i gefn ac ochr prif fynedfa’r amgueddfa gyda lleoedd parcio i’r anabl yng nghefn yr adeilad, felly’n caniatáu mynediad llawn i bob llawr ac oriel yn y lifft.

Swansea-Museum-_-AccessAble GuideDownload

Dod o Hyd i Ni

Ar y bws: Y safle bws agosaf i Amgueddfa Abertawe yw ‘Sainsbury’s Quay Parade’, sydd oddeutu 3 munud i ffwrdd ar droed.

Ar y trên: Mae Amgueddfa Abertawe oddeutu 15 munud i ffwrdd ar droed o orsaf drenau Abertawe.
Cerddwch tuag at Westy’r Grand a dilynwch y Stryd Fawr (B4489) yr holl ffordd ar hyd Wind Street tuag at gyffordd yr A4067. Croeswch ffordd ddeuol yr A4067 a throwch i’r dde. Bydd Amgueddfa Abertawe’n syth o’ch blaen.

Cysylltwch â ni

Amgueddfa Abertawe
Heol Victoria
Yr Ardal Forol
Abertawe
SA1 1SN

Ffôn : 01792 653763

Ebost: Amgueddfa.Abertawe@abertawe.gov.uk

Dilynwch ni:

  • X
  • Facebook
  • Pinterest
  • Instagram


Primary Sidebar

Search

Blog

  • Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
  • Crys-t Oxfam
  • Pennau Byfflo a Bual
  • Rhodd newydd
  • Y Parch. Emma Rosalind Lee

Footer

Connect with Us

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter

Return to top of page

Copyright © 2025 · Swansea Museum, City and County of Swansea

  • Cymraeg
  • English