• Skip to primary navigation
  • Skip to content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Swansea Museum

  • Cymraeg
    • English
  • Email
  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter
  • Hafan
  • Ymweld ag Amgueddfa Abertawe
    • Trefnwch eich ymweliad am ddim
    • Cychod a Llongau ar Ddangos
    • Canolfan Gasgliadau Amgueddfa Abertawe
    • Sied Dramiau
    • Cysylltu â Staff
    • Ffrindiau Amgueddfa Abertawe
  • Ein Casgliad
    • Arweiniad Digidol Am Ddim
    • Eich Paentiadau
    • Arteffactau Eifftaidd
    • Gwrthrychau Morwrol
    • Darganfyddiadau o Abertawe a Chastell-nedd
    • Abertawe yn ystod y Rhyfel
    • Rhoi eitem i Amgueddfa Abertawe
  • Abertawe – Braslun o’i Hanes
    • Archaeoleg
    • Diwydiant
    • Y Môr
    • Trên y Mwmbwls
    • Hen dai a lleoedd
  • Digwyddiadau
    • Arddangosfeydd
    • Digwyddiadau a Gweithgareddau
    • Arddangosfeydd y Gorffennol
  • Siop yr amgueddfa
  • Dysgu
    • Ymweliadau Ysgol
    • Allgymorth Cymunedol
  • Blog
You are here: Home / Archives for Hollie Gaze

Hollie Gaze

Gorffennaf 7, 2025 by Hollie Gaze

Ysbienddrych efydd

Gan Hollie Gaze
Swyddog Gwasanaethau Ymwelwyr Amgueddfa Abertawe

Rhodd Newydd

Mae hanes trasig i’r ysbienddrych efydd hwn. Roedd yr ysbienddrych ar fwrdd yr SS Amazon a suddodd ar hyd traeth Margam ger Port Talbot ar 1 Medi 1908.

Roedd yr SS Amazon yn llong haearn â phedwar hwylbren; llong hwylio a adeiladwyd gan Barclay, Curle & Co yn Greenock ym 1886. Ar fore 31 Awst, cafodd yr SS Amazon ei halio o borthladd Port Talbot gyda’r bwriad o hwylio tua phorthladd Iquique gyda 2,000 tunnell o lo. Porthladd yn Chile yw Iquique sy’n adnabyddus am allforio solpitar, mwyn a ddefnyddir mewn powdr gwn a gwrtaith. Byddai llongau’n hwylio i Iquique gyda mewnforion, fel glo, ac yn dychwelyd gyda’r solpitar.

Roedd awel ysgafn wrth i’r Amazon gael ei halio’n araf i’r Mwmbwls, lle’r oedd yr awel yn troi’n gyflym yn storm. Rhoddwyd gorchymyn gan y Capten, Andrew Garrik, i ollwng yr angor. Gwnaed y penderfyniad i aros i’r gwynt ostegu gan nad oeddent yn gallu troi pen y llong i’r gwynt, felly gadawodd y tynfad y llong ac aeth yn ôl i’r porthladd. Wrth iddi nosi, daeth yn glir na fyddai’r gwynt yn gostegu, ac roedd mewn gwirionedd yn cryfhau. Gollyngwyd angor arall. Erbyn y bore, drylliwyd pob gobaith y byddai’r tywydd yn clirio. Roedd y gwynt mor gryf ni allai’r angorau gadw’r llong yn llonydd, ac roedden nhw bellach yn llusgo ar draws wely’r môr.

Roedd ystlys yr Amazon yn wynebu’r gwynt, felly pan dorrodd yr angorau, chwythwyd y llong i’r dde, ac nid oedd modd rheoli ei llwybr. Roedd y llong a’i chriw mewn sefyllfa enbydus, felly gorchmynnodd y capten iddynt wisgo’u gwregysau achub a dringo’r rigin i osgoi cael eu sgubo i’r môr. Chwifion nhw eu lluman coch â’i ben i waered – arwydd o long mewn trafferthion. Parhaodd y gwynt i’w gwthio i’r de, heibio i draeth Port Talbot nes iddo fynd ar lawr ar draeth Margam. Roedd yr Amazon wedi cael ei chwythu i’r de am ryw 7 milltir.

Unwaith iddi daro’r traeth, fe’i curwyd gan donnau, gan achosi i’r capten gael ei sgubo yn erbyn y caban bwrdd. Cafodd ei daro’n anymwybodol ond fe’i clymwyd i’r hwylbren gan saer y llong. Ceision nhw ollwng bad y llong, ond fe’i dinistriwyd yn y dymestl. Cafodd cogydd y llong ei sgubo i’r môr ac anogodd hyn y criw, a oedd yn dal i fod ar fwrdd y llong, i ddringo i fyny’r rigin er mwyn diogelwch.

Roedd hi bellach yn fore, a dechreuodd pobl ymgasglu ar hyd y lan i weld beth oedd yn digwydd. Roedden nhw mor agos fel y gallent glywed lleisiau gofidus y morwyr, ond roedd y tywod yn beryglus. Oherwydd y tonnau a’r tywod meddal ni allent wneud fawr ddim heblaw gwylio’r olygfa’n datblygu o’u blaenau, a hwythau’n gwbl ddiymadferth. Ceision nhw saethu llinell roced at y llong, ond ni lwyddodd i’w chyrraedd. Nid oedd bad achub y Mwmbwls, Charlie Medland, yn gallu cyrraedd o fewn milltir i’r llong oherwydd y dŵr bas. Dechreuodd yr Amazon suddo i mewn i’r tywod symudol ac roedd y tonnau’n awr yn boddi’r llong. Torrodd tri o’r pedwar hwylbren, gan daflu morwyr i’r môr. Neidiodd eraill i’r dŵr, gan obeithio cyrraedd y lan. Torrodd y prif hwylbren yn y diwedd, gan anfon gweddill y morwyr i mewn i’r môr. Clywyd bloeddiadau’r morwyr gan bobl a oedd yn aros ar y lan ac roedd llawer o’r gwylwyr mewn anobaith llwyr.

O’r diwedd, roedd y llanw  wedi treio digon i bobl ymdrechu i gyrraedd gweddillion yr Amazon gyda llawer yn peryglu eu bywydau i achub y morwyr a oedd yn dal yn y dŵr. Neidiodd un dyn, Charles Russell, i mewn i’r dŵr a nofio allan i gyrraedd Christopher Sullivan a oedd yn dal i gydio’n dynn wrth weddillion yr hwylbren. Anafwyd Russell yn wael, ond llwyddodd i achub bywyd Sullivan. Anelodd eraill yn gyflym am yr Amazon, gan ddod o hyd i forwr arall a oedd yn sownd yn y malurion, wedi’i anafu ond yn fyw. Nofiodd Henry Care allan gyda rhaff a llwyddodd i achub dau forwr arall. Hyd yn oed ar ôl ymdrechion dewr morwyr a gwylwyr, dim ond 8 o’r 28 o ddynion ar fwrdd yr Amazon a achubwyd o’r malurion.

Canfuwyd yr ysbienddrych hwn yn y tywod ger gweddillion yr Amazon. Mae e’n eithaf cyffredin, er ei fod bellach wedi’i afliwio’n wael gan fod dŵr y môr wedi bwyta i mewn i’r efydd ac wedi niwlo’r lensys gwydr. Bydd yr ysbienddrych, sydd bellach yng nghasgliad yr amgueddfa, yn ffordd o gofio am dynged drasig yr SS Amazon, ac 20 o’i chriw.

Filed Under: blog, Blog, collections, maritime Tagged With: donation, maritime, shipwreck

Mai 20, 2025 by Hollie Gaze

Wythnos y Ffoaduriaid

Gan Phil Treseder
Swyddog Dysgu a Chyfranogi Amgueddfa Abertawe

Ar 30 Mawrth 2021, daeth Ei Ardderchogrwydd, Libor Secka, y Llysgennad Tsiecaidd, i’r DU i wylio gêm bêl-droed ragbrofol Cymru yn erbyn y Weriniaeth Tsiec ar gyfer Cwpan y Byd 2022.

Tra oedd yng Nghymru manteisiodd ar y cyfle i ymweld â sawl mynwent i dalu teyrnged i gydwladwyr a ffoaduriaid i Brydain a dalodd y pris eithaf wrth wasanaethu yn yr Awyrlu Brenhinol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Roedd yr ymweliad yn cynnwys mynwent eglwys St Hiliary yng Nghilâ. Mae nifer o bersonél yr Awyrlu Brenhinol wedi’u claddu yno o wahanol wledydd gan gynnwys UDA, De Affrica, Canada a dau o’r Weriniaeth Tsiec.

Roedd Rudolf Rohacek a Josef Janeba ill dau’n rhan o Sgwadron 312 a leolwyd yng Nghomin Fairwood yn ystod 1942.

Ganwyd Rohacek ym 1914 yn Marianske Hory. Ar ôl cwymp Tsiecoslofacia, ymunodd â Llu Awyr Gwlad Pwyl, yna’r Llu Awyr Ffrainc ac yn olaf yr Awyrlu Brenhinol.  Fe’i lladdwyd ar 27 Ebrill 1942 pan syrthiodd ei awyren Spitfire i’r ddaear yn agos iawn i Orsaf Rheilffordd Axbridge yng Ngwlad yr Haf. Achos mwyaf tebygol y ddamwain oedd methiant y cyfarpar ocsigen.

Ganwyd Janeba ym 1915 yn Kralove. Fe’i lladdwyd ar 2 Mai 1942 pan darodd awyren Spitfire arall yn erbyn cynffon ei Spitfire ef a’i dorri wrth iddo esgyn. Llwyddodd i neidio allan ond nid oedd wedi esgyn yn ddigon uchel i’r parasiwt weithio. Syrthiodd y Spitfire i fuarth fferm Cil-frwch, yn agos i South Gower Road.  Cadwodd Janeba ddyddiadur, ac ysgrifennwyd y cofnod olaf gan ei gyfaill a’i gyd-beilot, Vojtech Smolik.

“Bu farw mewn damwain awyren ar 2 Mai 1942. Defnyddiodd ei barasiwt, ond digwyddodd y ddamwain ar uchder isel iawn felly ni allai’r parasiwt ei achub.  Ef oedd fy ffrind gorau. Fe’i hanrhydeddaf wrth gofio amdano.”

Llun o feddau Josef Janeba a Rudolf Rohacek

Talodd y Llysgennad Tsiecaidd deyrnged hefyd i rai o’r meirwon o Sgwadron Tsiecaidd arall sef 311, sgwadron bomio a leolwyd yn Sir Benfro am gyfnod ac a secondiwyd i’r Rheolaeth Arfordirol. Daeth un o aelodau’r sgwadron, Vaclav Bozdech, yn ffoadur ddwywaith. Yn dilyn cwymp Tsiecoslofacia ymunodd â Llu Awyr Ffrainc. Wrth wasanaethu yno, mabwysiadodd gi bach y rhoddodd yr enw Antis arno, a phan gwympodd Ffrainc, dihangodd gyda’r ci ac ymunodd â Sgwadron 311, lle daeth y ci yn fasgot y sgwadron. Aeth Antis ar yr ymgyrchoedd ymladd, a oedd yn anarferol i fasgot. Wrth ddychwelyd adref, bu’n rhai i Bozdech ddianc eto, y tro hwn rhag y comiwnyddion a daeth yn ffoadur am yr eildro. Fe’i hachubwyd gan Antis, a rybuddiodd ef gyntaf am batrôl o warchodlu ffiniau ac yn ddiweddarach drwy ddal un ohonynt ar lawr, gan ganiatáu iddynt ddianc a mynd yn ôl i  Brydain. Ym 1949 derbyniodd Antis Fedal Dickin (medal i anifeiliaid sy’n gyfwerth â Chroes Fictoria). Ym mis Rhagfyr 2024, gwerthwyd y fedal mewn ocsiwn am £50,000, ynghyd â chomisiwn.

Filed Under: Blog, blog, Blog (Cy), Stories, World War 2

Mawrth 4, 2025 by Hollie Gaze

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Gan Phil Treseder
Swyddog Dysgu a Chyfranogi Amgueddfa Abertawe

Ym mis Rhagfyr 2024, cyrhaeddodd tîm rhyngwladol menywod Cymru rowndiau terfynol prif bencampwriaeth am y tro cyntaf. Nid yw pêl-droed i fenywod wedi cael rhwydd hynt. Ar ôl iddi gael hwb yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd ei phoblogrwydd cynyddol yn destun pryder i Gymdeithas Bêl-droed Lloegr, a’i gwaharddodd i bob pwrpas ym 1921 drwy fygwth diarddel clybiau a roddodd ganiatâd i dimau menywod ddefnyddio meysydd a chyfleusterau.

Mae pêl-droed menywod yn dyddio yn ôl yn gynharach na’r Rhyfel Byd Cyntaf ac ar adegau bu cryn wrthwynebiad iddi. Daeth tîm teithiol o’r enw British Ladies’ Football Club i Abertawe ym mis Gorffennaf 1896. Cynhaliwyd gêm yn erbyn tîm dynion (yn ôl pob golwg, y gêm gyntaf o’r fath yn Abertawe erioed), a gorffennodd y sgôr yn gyfartal, 4-4. Fodd bynnag, nid oedd y dorf yn fawr ac ni dderbyniwyd digon o arian i dalu am docynnau teithio aelodau’r tîm i Gaerdydd, eu cyrchfan nesaf.

Llwyddodd y tîm i gyrraedd Caerdydd yn y diwedd, ond cyhoeddwyd y sylwadau canlynol yn y South Wales Daily Post ar 7 Awst.

“So, the British Ladies’ Football Club managed after all to get out of the awkward predicament in which they found themselves on Tuesday and bade Swansea farewell for ever on Thursday. No one could but help sympathise with the poor girls in their sad plight, but at the same time I hope their severe lesson will drive home the conviction that football is not a game for women no more than darning stockings is an occupation for mortals of the masculine gender. The ordinary species of the new woman is almost intolerable, but when females turn out in bloomers on the football field the whole business becomes positively disgusting, and if a slice of bad luck, such as that experienced by the British lady footballers at Swansea, will have the effect of crushing out the practice I shall rejoice exceedingly over it. By-and-by there will be no holding these masculine females”.

Un o’r timau hysbys cynharaf yn Abertawe oedd Baldwins United, a ffurfiwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.  Roedd aelodau’r tîm yn fenywod a oedd yn gweithio yn y ffatri ffrwydron genedlaethol.

Y fenyw a drefnodd y tîm oedd Nancie Griffith Jones, a oedd yn gweithio fel swyddog lles yn y ffatri. Roedd yn hoff iawn o chwaraeon, gan gynnwys pêl-droed, hoci a pholo dŵr. Yn nes ymlaen yn ei bywyd, dyfarnwyd OBE iddi am ei gwasanaethau i’r sector addysg. Byddai hefyd yn treulio’r Ail Ryfel Byd fel un o garcharorion Japan gan ei bod yn cynnal ysgol yn Singapore ar ddechrau’r rhyfel yn y Môr Tawel.

Mae SM MI 6877.2 yn ffotograff o’r tîm a dynnwyd ar faes San Helen cyn neu ar ôl gêm, yn ôl pob tebyg yn erbyn Casnewydd ym mis Ebrill 1918 i godi arian am y gronfa carcharorion rhyfel. Mae Nancie yn eistedd yn y pedwerydd safle o’r chwith yn y rheng flaen.

Llun o dîm y ffatri ffrwydron genedlaethol (Baldwins) a dynnwyd o flaen yr hen bafiliwn ar faes San Helen.

Rhoddir cyfenwau aelodau’r tîm ynghyd â llythyren gyntaf. Fodd bynnag, mae rhai o adroddiadau’r papurau newydd yn rhoi enw cyntaf. Felly, mae’n bosib dyfalu enw llawn a chyfeiriad ambell aelod o’r tîm.

Os yw rhywun yn adnabod rhywun fel hynafiad neu’n gwybod am unrhyw un arall yn y tîm ac yn gallu rhoi rhagor o wybodaeth, a wnewch chi gysylltu ag Amgueddfa Abertawe drwy e-bostio phil.treseder@abertawe.gov.uk

Yr enwau posib a roddir ochr yn ochr â Nancie Griffith Jones yw:

N Dalhgrin
L Quick (capten)
D Wise
D Thomas
E Griffiths
A Davies
G Gower
A Guy
K Roper
M Forrester
Mewn gêm ddiweddarach, crybwyllir E Mountfield.

Mae rhai posibiliadau’n cynnwys:

Enwir y capten yn Lizzie mewn adroddiad papur newydd. O bosib, dyma Lilian Elizabeth Quick, a anwyd ym 1895 yn Wolverhampton ac a oedd yn byw yn Margaret Terrace, St Thomas ym 1911. Os felly, priododd Evan Gordon Davies ym 1924.

Enwir K Roper yn Katie yn y papur newydd. Ganwyd Catherine Roper oddeutu 1900 ac roedd yn byw yn 3 Wandsworth Street gyda’i brawd a’i ewythr.

Filed Under: blog, Blog, collection, Football, Sports, World War 1 Tagged With: football, wales, womens, ww1

Medi 26, 2024 by Hollie Gaze

Crys-t Oxfam

Rhodd Newydd

Ym mis Hydref ym 1969, daeth grŵp o bobl ifanc at ei gilydd am ganol nos ym Mharc Singleton. Roeddent yn cymryd rhan mewn taith gerdded elusennol i Borthcawl a fyddai’n cymryd hyd at 8 awr iddynt ei chwblhau. Roedd rhoddwr y crys-t hwn, ynghyd â gweddill y grŵp, yn cerdded i godi arian ar gyfer Oxfam, sef elusen sy’n ymladd yn erbyn tlodi ar draws y byd. Ar flaen y crys mae’r logo ‘Oxfam Walk 69’ ac ar y cefn mae’r slogan y gellir ei gamddeall yn hawdd, ‘Help Stamp out Oxfam’.

Roedd taith gerdded elusennol Abertawe’n rhan o fudiad cerdded ieuenctid cenedlaethol a ddigwyddodd ar draws Prydain. Un o’r teithiau cerdded mwyaf adnabyddus oedd taith gerdded yr haf i Stadiwm Wembley. Dechreuodd 50,000 o bobl ifanc o 12 man gwahanol i wneud taith gerdded elusennol i’r stadiwm, gan gerdded hyd at 30 milltir. Roedd yn ddiwrnod braf ac roedd nifer o’r bobl ifanc yn anghyfarwydd â cherdded pellteroedd hir, felly roedd criw Ambiwlans Sant Ioan yn brysur yn trin blinder gwres a thraed anafedig. Croesawyd y rheini a gyrhaeddodd y stadiwm gyda chyngerdd a oedd yn cynnwys y bandiau Love Affair a Dire Straits.

Mae’r crys-t hwn yn cynrychioli cenhedlaeth newydd a oedd wedi sylweddoli bod gwella’r byd yn dechrau gydag un cam.

A miloedd o gamau eraill ar ôl hynny.

Filed Under: blog, collection Tagged With: blog, oxfam

Gorffennaf 17, 2024 by Hollie Gaze

Pennau Byfflo a Bual

Pennau byfflo a bual cyn y gwaith cadwraeth

Yn ein Horiel Astudiaethau Natur, roedd dau ben o deulu’r Bufilod wedi’u gosod ar y wal yr oedd angen gofal a gwaith cadwraeth arnynt. Roedd amser wedi effeithio ar y pennau tacsidermi felly daeth Laura o LR Conservation i Amgueddfa Abertawe i ddarparu’r arbenigedd i’w cadw a’u glanhau.

Mae un ohonynt yn ben Bual Gawr Indiaidd. Dyma’r rhywogaeth fwyaf o’r Bufilod sy’n goroesi a gallant ladd teigrod pan gânt eu herian. Daeth ein pen bual ni o Kolhapur yng ngogledd India ac fe’i rhoddwyd i’r amgueddfa ym 1960. Roedd difrod difrifol i un o gyrn pen y bual, ac roedd angen ei ailosod yn ofalus. Roedd ei lygaid gwydr wedi diflannu ers blynyddoedd lawer.

Corn a chlust a oedd wedi’u difrodi cyn y gwaith cadwraeth – bual
Corn a chlust wedi’u hatgyweirio a llygaid gwydr newydd – bual

Byfflo Dŵr yw’r pen arall o deulu’r Bufilod a ddaeth o Kolhapur ar yr un pryd â’r bual. Mae dau fath gwahanol o Fyfflo Dŵr: y gors a’r afon. Nid ydym yn sicr o hyd ynghylch y math o fyfflo dŵr sydd gennym ni. Y ffordd arferol o wahaniaethu rhyngddynt yw maint eu corff  ond nid oes modd gwneud hyn gyda phen yn unig. Roedd rhannau o ben ein byfflo wedi crebachu lle’r oedd y llanwad a ddefnyddiwyd gan y tacsidermydd gwreiddiol wedi sychu. Yn ogystal â gwaith atgyweirio, roedd angen glanhau a chaboli’r pennau i’w cadw.

Craciau a llwch cyn y gwaith cadwraeth – byfflo
Ar ôl atgyweirio’r craciau a glanhau – byfflo

Oherwydd arbenigedd y gwarchodwr, mae’r ddau ben yn lân, mae eu llygaid yn ddisglair a’u cyrn yn loyw. Unwaith y caiff y mowntiau eu gwneud, caiff y ddau ben eu rhoi yn ôl yn yr Oriel Astudiaethau Natur.

Filed Under: bison, blog, buffalo, conservation, natural history

Mai 20, 2024 by Hollie Gaze

Rhodd newydd

Pot pupur o’r Air Ryfel Byd

Weithiau, gall fod stori ddiddorol y tu ôl i’r rhoddion mwyaf difalch. Mae’r amgueddfa wedi cael rhodd yn ddiweddar gan deulu lleol sef tun metel yn llawn pupur du. Mae’r tu allan yn edrych ychydig yn rhydlyd, ac mae’r tu mewn yn cynnwys bag cyffredin o bupur. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cedwid y pot pupur hwn yn lloches cyrch awyr y teulu. Fodd bynnag, nid oedd yn cael ei ddefnyddio fel sesnin ar gyfer eu dognau. Roedd mam-gu’r sawl a roddodd y pot yn ei gadw yno fel eu llinell amddiffyn olaf rhag ofn y byddai’r Almaenwyr yn llifo i’r wlad. Roedd e’n barod ganddi i’w daflu yn eu hwynebau i’w dallu fel y gallai’r teulu ddianc yn gyflym.

Mae’r rhodd hon yn rhan o gasgliad o dair eitem sy’n ymwneud â’r Ail Ryfel Byd yn Abertawe. Mae’r ddwy eitem arall sy’n rhan o’r rhodd hon yn ffotograffau o berthnasau’r rhoddwr a fu’n gweithio fel nyrs a gyrrwr ambiwlans yn ystod y rhyfel.

SM2024.1.3

Filed Under: blog, collection, Stories, World War 2

  • Page 1
  • Page 2
  • Next Page »

Primary Sidebar

Search

Blog

  • Ysbienddrych efydd
  • Wythnos y Ffoaduriaid
  • Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
  • Crys-t Oxfam
  • Pennau Byfflo a Bual

Footer

Connect with Us

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter

Return to top of page

Copyright © 2025 · Swansea Museum, City and County of Swansea

  • Cymraeg
  • English