• Skip to primary navigation
  • Skip to content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Swansea Museum

  • Cymraeg
    • English
  • Email
  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter
  • Hafan
  • Ymweld ag Amgueddfa Abertawe
    • Trefnwch eich ymweliad am ddim
    • Cychod a Llongau ar Ddangos
    • Canolfan Gasgliadau Amgueddfa Abertawe
    • Sied Dramiau
    • Cysylltu â Staff
    • Ffrindiau Amgueddfa Abertawe
  • Ein Casgliad
    • Arweiniad Digidol Am Ddim
    • Eich Paentiadau
    • Arteffactau Eifftaidd
    • Gwrthrychau Morwrol
    • Darganfyddiadau o Abertawe a Chastell-nedd
    • Abertawe yn ystod y Rhyfel
    • Rhoi eitem i Amgueddfa Abertawe
  • Abertawe – Braslun o’i Hanes
    • Archaeoleg
    • Diwydiant
    • Y Môr
    • Trên y Mwmbwls
    • Hen dai a lleoedd
  • Digwyddiadau
    • Arddangosfeydd
    • Digwyddiadau a Gweithgareddau
    • Arddangosfeydd y Gorffennol
  • Siop yr amgueddfa
  • Dysgu
    • Ymweliadau Ysgol
    • Allgymorth Cymunedol
  • Blog
You are here: Home / Archives for Hollie Gaze

Hollie Gaze

Chwefror 23, 2024 by Hollie Gaze

Y Parch. Emma Rosalind Lee

gan Phil Treseder
Swyddog Dysgu a Chyfranogi Amgueddfa Abertawe

Ym mis Ionawr 2024, rhyddhawyd ffilm o’r enw ‘One Life’. Mae’r ffilm yn seiliedig ar hanes bywyd go iawn Syr Nicholas Winton sy’n cael ei bortreadu yn y ffilm gan Sir Anthony Hopkins.

Mae’r ffilm yn canolbwyntio ar lyfr lloffion a luniwyd gan y Pwyllgor ar gyfer Ffoaduriaid Ifanc o Tsiecoslofacia ym 1939 a roddwyd i Nicholas Winton. Roedd y grŵp wedi cefnogi Nicholas Winton wrth iddo drefnu trenau Kindertransport llawn ffoaduriaid ifanc allan o Tsiecoslofacia ym 1939 i ddianc rhag y Natsïaid.

Mae’r llyfr lloffion bellach yn Yad Vashem – Amgueddfa’r Holocost yn Jeriwsalem.

Yn y ffilm, mae Nicholas Winton yn pori’r llyfr lloffion ac yn stopio ar erthygl o’r enw ‘What they have done to the Czechs’.  Yn y llyfr lloffion go iawn, ar ochr chwith yr erthygl hon mae toriad o bapur newydd South Wales Evening Post. Mae’n cynnwys llythyr at y Golygydd sydd wedi’i ddyddio 20 Ebrill 1939, gyda’r teitl ‘Refugee Children;an appeal’.  Mae’r llythyr o’r Parch. Rosalind Lee, Tŷ Cefn Bryn, Pen-maen ger Abertawe.

Ganwyd y Parch. Rosalind Lee yn Edgbaston, Birmingham ond yn hwyrach fyddai’n ymgartrefu yn Abertawe yn Nhŷ Cefn Bryn, Pen-maen, gyda’i brawd a oedd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’r tŷ yn bodoli o hyd ac mae ganddo olygfa arbennig o Fae y Tri Chlogwyn. Roedd y ddau yn gwneud llawer o waith gyda Chymdeithas Gŵyr. Prynodd y Parch. Lee sawl llain o dir ar benrhyn Gŵyr er mwyn atal unrhyw ddatblygiadau arnynt ac yna rhoddwyd y tir i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Daeth yn nyrs ‘VAD’ (Uned Wirfoddol a Gynorthwyir) yn ystod y Rhyfel Mawr ac yna daeth yn Weinidog gyda’r Eglwys Undodaidd ym 1919. Roedd yn aelod o bwyllgor cyntaf Cynghrair Prydain o Fenywod Undodaidd o 1908 a daeth yn Ysgrifennydd Cenedlaethol y pwyllgor ym 1929. Yn hwyrach, cafodd ei hethol yn Llywydd y Cynulliad Cyffredinol Undodaidd ym 1940.

Bu’r Parch. Lee yn gwasanaethu fel Gweinidog yn Nhreorci, Caerlŷr, Hackney a Stourbridge ac fel gweinidog ardal ar gyfer de Cymru.

Ym mis Hydref 1939 aeth i Brag i sefydlu a chynnal ‘Swyddfa Cyfeillion Ffoaduriaid’ gyda Gweinidog Undodaidd arall, John McLachlan. Gweithiwyd yn agos gyda Doreen Warriner, a hi yw’r unig un allan o’r tri sy’n ymddangos yn y ffilm.

Mae rhestr gyfan o’r 669 o blant a gafodd eu hachub, sy’n Iddewig yn bennaf, ar-lein. Yn anffodus, ataliwyd y trên olaf, a oedd â 250 o blant arno, rhag gadael ar 1 Medi 1939 oherwydd dechrau’r rhyfel ac o ganlyniad i hynny cafodd y rhan fwyaf o’r plant hynny eu llofruddio.

Nid oedd Llywodraeth Prydain wedi caniatáu trosglwyddo’r plant hyn heb warantwr ar waith a fyddai’n gofalu am y plant ac yn talu’r costau.

Mae’r rhestr o blant yn cynnwys gwybodaeth am enwau, dyddiadau geni a chyfeiriadau yn y DU a manylion y gwarantwr. O’r rhestr, gallwn weld bod y Parch. Lee yn warantwr neu’n gyd-warantwr ar gyfer llawer o blant.

Nid oedd pob un ohonynt yn Abertawe, llwyddodd i ddod o hyd i gartrefi i rai ohonynt gyda’i theulu a’i ffrindiau. Dyma rai o’r plant a achubwyd:

Ivo Englander, ganwyd ym 1924.

Eduard Kestenbaum, ganwyd ym 1930.

Ervin Kestenbaum, ganwyd ym 1926.

Renee Kestenbaum, ganwyd ym 1928.

Katarina Kestenbaum, ganwyd ym 1931.

Ni fyddai’r plant uchod yn dychwelyd i Tsiecoslofacia. Yn dilyn y rhyfel, fyddai’r ddwy chwaer Kestenbaum, Renee a Katarina, yn allfudo i’r Unol Daleithiau. Yn hwyrach, fyddai’r brodyr, Eduard ac Ervin, yn gwneud cais am ddinasyddiaeth Brydeinig ym 1947 ac arhosodd y ddau yn y DU. Ar yr un pryd, newidiwyd cyfenw’r ddau i Berry.

Mae’n ymddangos bod Eduard wedi symud i Birmingham o bosib, er bod Ervin wedi aros yn Abertawe.

Wrth chwilio’r rhestr o ddioddefwyr yr Holocost o Dsiecoslofacia am Kestenbaum, cynhyrchwyd dau enw’n unig a gallai’r rhain wedi bod yn rhieni iddynt. Llofruddiwyd Frantisek, a anwyd ym 1898, ar 13 Awst 1942 yn Majdenek. Ganwyd Hana (er, ar y cofnodion mae’r sillafu ychydig yn wahanol, mae’n bosib bod hyn yn gamgymeriad gan yr SS) ym 1897, a chafodd ei llofruddio ar ddyddiad anhysbys mewn lleoliad anhysbys.

Mae’n ymddangos bod y cyfenw, Englander, yn eithaf cyffredin, felly nad oeddem yn gallu dod o hyd i rieni Ivo, ond mae’n eithaf diogel i dybio eu bod nhw hefyd wedi cael eu llofruddio.

Os nad oeddent wedi goroesi’r rhyfel, byddai eu calonnau wedi torri wrth iddynt ddysgu nad oedd eu mab wedi goroesi. Gan mai ef oedd yr hynaf o’r 5 plentyn, daeth Ivo’n gymwys i gofrestru ar gyfer Awyrlu Tsiecoslofacia a oedd yn gweithredu ym Mhrydain, ac fe ymunodd.

Cafodd ei ladd ar 1 Ionawr 1945 wrth iddo ddychwelyd o’i batrôl gyda’r Awdurdod Arfordirol. Yn ystod tywydd garw, disgynnodd ei awyren Liberator yn ochr ogleddol Ynys Hoy, Orkney

Trosglwyddwyd ei gorff i’r tir mawr, a chafodd ei gladdu ym mynwent Tain, Ucheldiroedd yr Alban. 

Filed Under: Blog (Cy) Tagged With: Nicholas Winton, One life, refugee

Tachwedd 29, 2022 by Hollie Gaze

Nghwpan y Byd 1958

Gan Danielle Jenkinson
Swyddog Dogfennaeth

I ddathlu bod Cymru’n cystadlu yng Nghwpan y Byd FIFA 2022, rydym yn mynd i fwrw golwg yn ôl ar yr unig dro arall i Gymru wneud hynny, a siarad am rai o chwaraewyr Cymru o Abertawe a gynrychiolodd eu gwlad, neu a fu bron â gwneud hynny.

Ym 1958, roedd Cymru’n gyfranogwyr annisgwyl yng Nghwpan y Byd yn Sweden. Ar ôl methu ag ennill lle drwy adran Ewropeaidd y gemau, dyfarnwyd ail gyfle i Gymru gystadlu, y tro hwn fel cynrychiolwyr Asia-Affrica. Oherwydd tensiynau gwleidyddol yn ymwneud â Phalesteina a Llain Gaza, gwrthododd timau Arabaidd chwarae yn erbyn Israel am le yn y bencampwriaeth. Penderfynodd FIFA drefnu gêm ar gyfer yr ail oreuon o ranbarthau eraill er mwyn iddynt symud ymlaen drwy gemau rhagbrofol Asia-Affrica. Cymru oedd y tîm a dynnwyd o’r het; enillon nhw’r ddwy gêm yn erbyn Israel, ac felly aethant ymlaen i Sweden.

Effemera Nghwpan y Byd 1958

Ar 18 Ebrill, 1958, cyfarfu dewiswyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn yr Amwythig i benderfynu ar garfan Cwpan y Byd. Roedd saith o’r chwaraewyr yn ddewisiadau amlwg: Jack Kelsey yn y gôl, Mel Hopkins fel cefnwr chwith, y capten Dave Bowen fel hanerwr chwith, Ivor Allchurch fel mewnwr chwith, Cliff Jones fel asgellwr chwith, Terry Medwin, a allai chwarae fel asgellwr de, mewnwr chwith a chanolwr blaen pe byddai angen, a John Charles, y canolwr blaen a oedd yn chwarae dros Juventus.  Roedd Kesley, Allchurch, Jones, Medwin a Charles, o Abertawe.

Ganed Jack Kelsey yn Llansamlet a chwaraeodd dros Arsenal. Ef oedd un o gôl-geidwaid gorau Prydain, a hefyd y byd.

Ystyriwyd Ivor Allchurch, a lysenwyd ‘Y Bachgen Euraidd’ – yn rhannol oherwydd ei wallt melyn tonnog – yn un o chwaraewyr o safon fyd-eang, prin, Cymru. Ymunodd Allchurch â’r Elyrch ym 1947 ar ôl iddo gael ei weld yn chwarae pêl-droed ieuenctid pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Plas-marl. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y gynghrair ym 1949 a’r flwyddyn ganlynol roedd yn chwarae dros ei wlad. Oherwydd ei benderfyniad i aros yn Adran 2 gyda’r Elyrch, cafodd lysenw arall, ‘Y seren na lwyddodd yn llwyr’, gan fod llawer yn teimlo’i fod yn gwastraffu’i ddoniau yn y Vetch.

Ganed Cliff Jones i deulu pêl-droed enwog, gan fod ei Dad a’i ewythr wedi chwarae dros Gymru. Magwyd ‘Cliffie’ yn ardal Sandfields, a chwaraeodd yn y gynghrair am y tro cyntaf dros Dref Abertawe ym 1952 pan oedd yn 17 oed. Fodd bynnag, cyrhaeddodd Jones Sweden fel yr asgellwr drutaf ym Mhrydain, gan iddo ymuno â Tottenham y flwyddyn honno am £35,000, y swm mwyaf erioed.

Roedd Ted Medwin yn fab i swyddog carchar, ac fe’i ganwyd gyferbyn â’r Vetch. Pan ymunodd â’i glwb lleol, fe’i disgrifiwyd fel “y bachgen o’r carchar drws nesaf”. Roedd yn olygus, daeth yn boblogaidd gyda’r cefnogwyr a daeth yn fachgen ‘pinyp’ Tref Abertawe yn fuan. Pan ofynnwyd iddo pam ei fod yn meddwl bod cynifer o garfan Cymru yn dod o Abertawe, atebodd Medwin:

“Dwi’n meddwl yr oedd a wnelo hyn gryn dipyn â chael traeth … wrth dyfu i fyny yn Abertawe ar ôl y rhyfel doedd dim llawer i’w wneud os oeddech chi’n ifanc, felly roedd y rhan fwyaf ohonon ni’n chwarae pêl-droed drwy’r dydd ar y traethau. Mewn ffordd, roedd gennym ni ein Copacabana ein hunain.” (Risoli, 1998, t.27)

John Charles oedd y chwaraewr enwocaf ac uchaf ei barch yn y garfan, ac mae’n parhau i fod yn un o’r pêl-droedwyr gorau erioed i ddod o Gymru. Ar ôl gadael yr ysgol ym 1946, ymunodd â Thref Abertawe. Fodd bynnag, cyn iddo allu gwneud ei ymddangosiad hŷn cyntaf yn y Vetch, fe’i gwerthwyd i Leeds United ym 1949. Ym 1957, gan gredu mai ef oedd y canolwr a’r canolwr blaen gorau’r byd, fe’i prynwyd gan Juventus am £67,000, swm a dorrodd bob record. Yn ystod ei dymor cyntaf yn yr Eidal, profodd Charles i fod yn chwaraewr penigamp. Roedd y chwaraewr chwe throedfedd o daldra, a lysenwyd ‘il Buono Gigante’ (y Cawr Addfwyn), wedi gorffen y Serie A fel prif sgoriwr y gynghrair, gyda 28 gôl. Helpodd hyn Juventus i ennill y bencampwriaeth am y tro cyntaf ers chwe blynedd, a llofnododd yntau gytundeb arall â’r clwb am £150,000. Gosododd hyn ef yn y llyfrau hanes fel pêl-droediwr mwyaf gwerthfawr y byd.

Er ei bod hi’n ddewis amlwg i roi John Charles yn y garfan ar gyfer Sweden, roedd hefyd yn golygu cymryd siawns. Juventus oedd yn gyfrifol am ei gyfraniad yng Nghwpan y Byd, a phan ddewiswyd y tîm, nid oedd y clwb wedi rhoi ei ganiatâd eto. Arweiniodd hyn at lawer o drafodaethau gyda’r clwb o ran rhyddhau Charles i chwarae dros Gymru, rhywbeth yr oedd Juventus yn gyndyn o’i wneud. Roedd yn rhoi ei chwaraewr mwyaf gwerthfawr mewn perygl o gael ei anafu mewn gemau na fydden nhw fel clwb yn elwa ohonynt, a thros wlad nad oedd disgwyl iddi wneud yn dda yn y twrnamaint.

Ar y diwrnod hwnnw yn Amwythig, penderfynodd y dewiswyr ar 17 o’r 18 chwaraewr. Roedd gweddill y garfan yn erbyn Sweden yn cynnwys Mel Charles, Stuart Williams, Derrick Sullivan, Trevor Edwards, Colin Webster, Vic Crowe, Roy Vernon, Ken Jones, Ken Leek a Colin Baker. Yn anffodus, ni ddewiswyd brawd Ivor Allchurch, Len Allchurch. Er ei fod yng nghysgod ei frawd hŷn, roedd y chwaraewr Tref Abertawe yn bêl-droediwr da yn ei rinwedd ei hun. Chwaraeodd Mel gyda John yn Leeds ym 1952, ond nid oedd yn teimlo’n gyfforddus yn Swydd Efrog a dychwelodd i Dref Abertawe i chwarae yn eu tîm cyntaf.

Roedd y drafodaeth am y deunawfed dyn yn un torcalonnus. Roedd hi rhwng asgellwr Manchester United, Ken Morgans, a oroesodd drychineb awyr Munich, a Ron Hewitt o Ddinas Caerdydd; dewisodd y dewiswyr Hewitt yn y pen draw. Roeddent wedi bwriadu gwylio Morgans yn rownd derfynol Cwpan yr FA, ond pan gyhoeddwyd nad oedd y chwaraewr 18 oed yn ddigon iach, yn gorfforol nac yn feddyliol, i chwarae; collodd ei gyfle i gynrychioli Cymru.

Morgans, a anwyd yn Abertawe, oedd yr ieuengaf o’r ‘Busby Babes’, grŵp o bêl-droedwyr ifanc a oedd wedi symud ymlaen gyda’i gilydd o dîm ieuenctid Manchester United i’r tîm cyntaf dan reolaeth Matt Busby. Bu farw nifer o’r chwaraewyr ifanc yn nhrychineb awyr Munich ym 1958; Morgans oedd y person olaf i gael ei ddarganfod yn fyw ymysg y malurion. Awgrymodd meddygon y dylai gymryd blwyddyn o seibiant o bêl-droed, ond oherwydd prinder chwaraewyr yn y tîm cyntaf, roedd yn ôl yn chwarae dros United saith wythnos yn ddiweddarach. Mewn cyfweliad, rhannodd ei brofiad o’r cyfnod hwnnw:

“Roeddwn i’n teimlo’n ofnadwy. Roeddwn wedi colli lawer o bwysau. Es i o 11 stôn i 9 stôn. Doeddwn i ddim yn ffit, ond gan nad oedd digon o chwaraewyr roedd yn rhaid i fi chwarae … roeddwn i wedi colli’r cyflymder hwnnw o gwpl o lathenni. O’n i wedi’i golli. Ro’wn i’n gyflym iawn. Gallai cefnwr fod bum llathen o ‘mlaen a byddwn i’n dal i’w faeddu. Ond ar ôl Munich, doeddwn i ddim yn gallu gwneud hynny mwyach. Mewn ffordd, doeddwn i ddim yn synnu fy mod wedi fy ngadael mas o garfan Cwpan y Byd … dwi’n siŵr bod y ddamwain wedi effeithio arna i. Roeddwn i’n cael pennau tost am gwpwl o flynyddoedd. Roeddwn i’n arfer cael hunllefau am y ddamwain a’r chwaraewyr a laddwyd.” (Risoli, 1998, t.32)

Dylid crybwyll hefyd y chwaraewyr a anwyd yn Abertawe, Ray Daniel a Trevor Ford, a ystyriwyd yn ddau o bêl-droedwyr gorau Cymru ar ôl y rhyfel. Fodd bynnag, am resymau gwahanol iawn, diystyriodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru y ddau rhag cynrychioli’u gwlad.

Roedd Daniel yn amddiffynnwr uchel ei barch, ond cafodd ei wahardd rhag chwarae yng Nghwpan y Byd oherwydd iddo gael ei glywed yn diddanu’r tîm gyda chaneuon o’r sioe gerdd Guys and Dolls. Canodd o’r rhestr draciau wrth deithio ar goets y tîm ar ôl iddynt chwarae un o’u gemau rhagbrofol ar gyfer y twrnamaint. Gwylltiodd hyn Herbert Powell, ysgrifennydd crefyddol Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a gredai mai emynau’n unig ddylai gael eu canu gan aelodau’r tîm.

Ym 1956, cyhoeddodd Trevor Ford ei hunangofiant, I Lead The Attack. Roedd yn ddatgeliad ar y taliadau anghyfreithlon gan ei hen glwb, Sunderland, i’w chwaraewyr, gan gynnwys Ford ei hun. Cyfaddefodd y saethwr iddo dderbyn £100 ‘o dan y cownter’ i ymuno â Sunderland o Aston Villla. Gwaharddodd yr FA Ford o bêl-droed y gynghrair am dri thymor. Aeth yn alltud yn yr Iseldiroedd, lle chwaraeodd i PSV Eindhoven.

Yn dechnegol, gallai Ford fod wedi chwarae i Gymru o hyd, ond ni fyddai’r dewiswyr yn goddef rhywun a oedd wedi cyfaddef ei fod wedi derbyn taliadau anghyfreithlon. Ac eto, drwy ei anwybyddu, gwnaeth y detholwyr gamgymeriad. Hebddo, roedd carfan Cymru yn brin o ganolwyr blaen, a byddai’n costio’n ddrud i Gymru. Synnodd Cymru’r byd wrth symud ymlaen o Grŵp 3 ar ôl cael gêm gyfartal gyda Hwngari 1-1, Mecsico 1-1, a Sweden 0-0, ac yna curo Hwngari 2-1 yn rownd derfynol y gemau ail gyfle. Wrth wneud hynny, fe gyrhaeddon nhw’r rownd gogynderfynol, gan wynebu Brasil a phêl-droediwr 17 oed o’r enw Pelé.

Byddai’n rhaid iddynt wynebu’r Brasiliad heb eu swynogl, John Charles. Roedd wedi dioddef heriau cryf iawn gan dîm corfforol Hwngaraidd yn rownd gyntaf y gemau ail gyfle, ac roedd bellach wedi’i anafu. Prin oedd y dewisiadau i gymryd lle Charles, a bu’n rhaid i Colin Webster gymryd y safle ond nid achosodd lawer o drafferth i amddiffyn Brasil yn y gêm dyngedfennol honno. Fodd bynnag, cymerodd bron dri chwarter y gêm i Brasil dorri drwy amddiffyn Cymru, wrth i fflic Pelé fynd ag ef heibio i Mel Charles, a sgoriodd unig gôl y gêm, gan roi terfyn ar freuddwyd Cymru o fynd ymhellach yn y gystadleuaeth.

Os hoffech chi ddarllen rhagor am brofiadau tîm Cymru yn ystod Cwpan y Byd 1958, darllenwch When Pelé Broke Our Hearts Wales & the 1958 World Cup (1998 gan Mario Risoli. Caerdydd: Ashley Drake Publishing), y cyfeiriwyd at rywfaint ohono yma. Mae llawer mwy o ffeithiau diddorol nad oedd modd eu cynnwys yn y blog hwn, ac mae’n llyfr gwych.

Filed Under: blog

  • « Previous Page
  • Page 1
  • Page 2

Primary Sidebar

Search

Blog

  • Ysbienddrych efydd
  • Wythnos y Ffoaduriaid
  • Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
  • Crys-t Oxfam
  • Pennau Byfflo a Bual

Footer

Connect with Us

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter

Return to top of page

Copyright © 2025 · Swansea Museum, City and County of Swansea

  • Cymraeg
  • English