Amgueddfa Abertawe yw’r amgueddfa hynaf yng Nghymru, ac yn drysordy diddorol o hanes Abertawe. Mae’r casgliadau’n cynnwys pob math o wrthrychau o orffennol Abertawe, Cymru a gweddill y byd.
Ym mhrif adeilad yr amgueddfa, mae gennym bopeth o fymi Eifftaidd i gegin Gymreig wedi’u harddangos mewn chwe oriel. Ceir llawer o arddangosfeydd dros dro hefyd bob blwyddyn.
Gallwch ymweld ag Amgueddfa Abertawe mewn pedwar lleoliad – yr amgueddfa ei hun yn Heol Ystumllwynarth, y Sied Dramiau yn Sgwâr Dylan Thomas yn y Marina, Storfa’r Amgueddfa yng Nglandŵr a’r arddangosiadau ar y dŵr yn y doc ger y Sied Dramiau.
Oriau Agor | |
---|---|
Dydd Llun | Ar Gau |
Dydd Mawrth | 10am – 4:30pm |
Dydd Mercher | 10am – 4:30pm |
Dydd Iau | 10am – 4:30pm |
Dydd Gwener | 10am – 4:30pm |
Dydd Sadwrn | 10am – 4:30pm |
Dydd Sul | 10am – 4:30pm |
Amserau Agor yn ystod y Gwyliau
Dydd Sadwrn 23 Rhagfyr | 10am tan 4:30pm |
Dydd Mercher 24 Rhagfyr | 10am tan 12:00pm |
Dydd Llun 25 Rhagfyr | Ar gau |
Dydd Mawrth 26 Rhagfyr | Ar gau |
Dydd Mercher 27 Rhagfyr | Ar gau |
Dydd Iau, 28 Rhagfyr | 10am tan 4:30pm |
Dydd Gwener 29 Rhagfyr | 10am tan 4:30pm |
Dydd Sadwrn 30 Rhagfyr | 10am tan 4:30pm |
Dydd Mercher 31 Rhagfyr | 10am tan 4:30pm |
Dydd Llun 1 Ionawr | Ar gau |
Dydd Mawrth 2 Ionawr | 10am tan 4:30pm |
Parcio yn Amgueddfa Abertawe
O flaen yr amgueddfa mae gennym 4 lle parcio ar gyfer ymwelwyr. (am ddim)
At the back of the muYng nghefn yr amgueddfa mae 5 lle parcio ar gyfer ymwelwyr.
Maes parcio â giât yw hwn ac mae ar agor rhwng 10am a 4pm. (am ddim)
There aMae pedwar i bump lle parcio ar draws y ffordd o flaen yr amgueddfa gyda chyfyngiad parcio dim dychwelyd ar ôl 2 awr. (am ddim)
Ar ochr yr amgueddfa, ychydig y tu allan i’n maes parcio yn y cefn, mae dau neu dri lle parcio i’r anabl (am ddim)
Mae’r maes parcio agosaf i’r gogledd-orllewin o’r amgueddfa, ar draws yr A4067 ar York Street – maes parcio NCP City Gates. (248 lle parcio) (£3.50 am 2 awr)
Mae’r maes parcio agosaf nesaf i’r dwyrain o’r amgueddfa – maes parcio East Burrows Road. (230 lle parcio, er mae llai o leoedd ar gael ar hyn o bryd oherwydd gwaith adeiladu parhaus) (£2.40 am 2 awr)
Mynediad i’r anabl
Mae llawr gwastad i gefn ac ochr prif fynedfa’r amgueddfa gyda lleoedd parcio i’r anabl yng nghefn yr adeilad, felly’n caniatáu mynediad llawn i bob llawr ac oriel yn y lifft.
Cysylltwch â ni
Amgueddfa Abertawe
Heol Victoria
Yr Ardal Forol
Abertawe
SA1 1SN N
Ffôn : 01792 653763
Ffacs: 01792 652585
Ebost: Amgueddfa.Abertawe@abertawe.gov.uk