Hefyd, rheolir y Sied Dramiau ar Sgwâr Dylan Thomas, yn y Marina, gan Amgueddfa Abertawe ac mae fel arfer ar agor ar wyliau banc ac ar gyfer digwyddiadau arbennig (ffoniwch yr amgueddfa ar 01792 653763 i wirio dyddiau ac amseroedd agor).
Gwelwch eitemau cofiadwy, megis tramiau stryd Abertawe a thrên byd-enwog y Mwmbwls a oedd yn arfer teithio o gwmpas ymyl Bae Abertawe o ganol tref Abertawe i Bier y Mwmbwls.
Mae eitemau o ddiddordeb yn cynnwys:
Tram stryd deulawr Abertawe
Adluniad o dram y Mwmbwls a oedd yn cael ei dynnu gan geffylau ym 1804, y gwasanaeth rheilffordd cyntaf yn y byd i deithwyr
Y rhan olaf sy’n weddill o dram y Mwmbwls a oedd yn cael ei ddefnyddio yn y 1960au – gallwch ddringo i mewn a mynd i’r llawr uchaf.
Mae mynediad am ddim ac mae’r llawr gwaelod yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Yn anffodus, nid yw’r mesanîn a’r tramiau.
I gael mwy o wybodaeth am reilffordd gyntaf y byd i deithwyr, ewch i dudalen Trên y Mwmbwls.