• Skip to primary navigation
  • Skip to content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Swansea Museum

  • Cymraeg
    • English
  • Email
  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter
  • Hafan
  • Ymweld ag Amgueddfa Abertawe
    • Trefnwch eich ymweliad am ddim
    • Cychod a Llongau ar Ddangos
    • Canolfan Gasgliadau Amgueddfa Abertawe
    • Sied Dramiau
    • Cysylltu â Staff
    • Ffrindiau Amgueddfa Abertawe
  • Ein Casgliad
    • Arweiniad Digidol Am Ddim
    • Eich Paentiadau
    • Arteffactau Eifftaidd
    • Gwrthrychau Morwrol
    • Darganfyddiadau o Abertawe a Chastell-nedd
    • Abertawe yn ystod y Rhyfel
    • Rhoi eitem i Amgueddfa Abertawe
  • Abertawe – Braslun o’i Hanes
    • Archaeoleg
    • Diwydiant
    • Y Môr
    • Trên y Mwmbwls
    • Hen dai a lleoedd
  • Digwyddiadau
    • Arddangosfeydd
    • Digwyddiadau a Gweithgareddau
    • Arddangosfeydd y Gorffennol
  • Siop yr amgueddfa
  • Dysgu
    • Ymweliadau Ysgol
    • Allgymorth Cymunedol
  • Blog
You are here: Home / CCUHP – ei hanes hyll

CCUHP – ei hanes hyll

Cyflwyniad

Mae llawer o ysgolion bellach yn ysgolion sy’n parchu hawliau a gobeithio y bydd y rhan fwyaf o blant yn ymwybodol o CCUHP.  Ond sut y cyrhaeddon ni’r man hwn heddiw wrth gydnabod hawliau plant?  Bydd y sesiwn yn mynd â phlant yn ôl 200 mlynedd pan roedd plentyndod i’r rhan fwyaf o blant yn stori wahanol iawn o’i gymharu â heddiw.  Bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar gyd-destun lleol yn hanesyddol ond bydd hefyd yn ystyried y sefyllfa genedlaethol a rhyngwladol dros gyfnod o 200 mlynedd. 

Bydd y sesiwn yn edrych ar fywyd yn yr ysgol, mewn ffatrïoedd a’r pyllau glo a bydd yn cynnwys cyflwyniad PowerPoint a’r gweithgareddau fydd yn edrych ar ei hanes hyll.

Cynulleidfa 

Oedran targed Blwyddyn 4-6

Hyd y sesiwn – 2 awr 

Bydd y sesiwn yn cynnwys cyflwyniad a gweithgareddau, a fydd yn cwmpasu: 

  • Y cyd-destun hanesyddol ar hawliau plant a sut datblygon nhw, ynghyd â rhai cymariaethau â datblygiad hawliau merched a hawliau anifeiliaid. 
  • Rhyngweithio â gwrthrychau hanesyddol 
  • Tystiolaeth ddogfennol hanesyddol 
  • Tystiolaeth plant fu’n gweithio yn y pyllau a’r ffatrïoedd 
  • Adroddiadau papurau newydd o’r cyfnod 

Maes Dysgu:

Dyniaethau

Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig: 

Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio’n annog chwilfrydedd ynghylch y byd, ei orffennol, y presennol a’r dyfodol. 

Mae digwyddiadau a phrofiadau pobl yn gymhleth ac maent yn cael eu hystyried, eu dehongli a’u portreadu mewn ffyrdd gwahanol. 

Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, a chânt eu siapio gan weithredoedd a chredoau dynol. 

Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn ymgysylltu â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu bodau dynol, ac maent yn gallu ymateb mewn ffordd ystyriol a moesegol 

Sgiliau trawsgwricwlaidd 

Llythrennedd 

Datblygu llefaredd trwy drafod, chwarae rôl, holi a chyflwyniadau. 

Cael mynediad at ystod o destunau o amrywiaeth o leoedd ac amseroedd a’u harchwilio er mwyn dadansoddi tystiolaeth. 

Rhifedd 

Ymgysylltu â chysyniadau fel ymwybyddiaeth gronolegol a graddfa. 

 Cam Cynnydd 2

Cam Cynnydd 3

Primary Sidebar

Search

Blog

  • Wythnos y Ffoaduriaid
  • Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
  • Crys-t Oxfam
  • Pennau Byfflo a Bual
  • Rhodd newydd

Footer

Connect with Us

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter

Return to top of page

Copyright © 2025 · Swansea Museum, City and County of Swansea

  • Cymraeg
  • English