• Skip to primary navigation
  • Skip to content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Swansea Museum

  • Cymraeg
    • English
  • Email
  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter
  • Hafan
  • Ymweld ag Amgueddfa Abertawe
    • Trefnwch eich ymweliad am ddim
    • Cychod a Llongau ar Ddangos
    • Canolfan Gasgliadau Amgueddfa Abertawe
    • Sied Dramiau
    • Cysylltu â Staff
    • Ffrindiau Amgueddfa Abertawe
  • Ein Casgliad
    • Arweiniad Digidol Am Ddim
    • Eich Paentiadau
    • Arteffactau Eifftaidd
    • Gwrthrychau Morwrol
    • Darganfyddiadau o Abertawe a Chastell-nedd
    • Abertawe yn ystod y Rhyfel
    • Rhoi eitem i Amgueddfa Abertawe
  • Abertawe – Braslun o’i Hanes
    • Archaeoleg
    • Diwydiant
    • Y Môr
    • Trên y Mwmbwls
    • Hen dai a lleoedd
  • Digwyddiadau
    • Arddangosfeydd
    • Digwyddiadau a Gweithgareddau
    • Arddangosfeydd y Gorffennol
  • Siop yr amgueddfa
  • Dysgu
    • Ymweliadau Ysgol
    • Allgymorth Cymunedol
  • Blog
You are here: Home / Prosiect Goleuo

Prosiect Goleuo

Mae’r holl arddangosfeydd bellach ar agor! Dewch i weld ein goleuadau newydd a rhowch wybod i ni beth yw eich barn!

Diolch i grant gan Lywodraeth Cymru, rydym wedi dechrau’r Prosiect Goleuo. Mae’r prosiect yn darparu goleuadau newydd mawr eu hangen ar gyfer ein Darlithfa a’n Horiel Hanes. Bydd ein trydanwyr yn gweithio ar yr ystafelloedd un ar y tro i leihau aflonyddwch.

Caiff y dudalen hon ei diweddaru wrth i’r prosiect ddatblygu, felly dewch nôl i gael cip ar y datblygiadau diweddaraf.

Diwrnod 1 – Trydanwyr yn cyrraedd yn gynnar

Diwrnod 2 – Gosod tŵr sgaffaldiau

Diwrnod 3 – Trydanwyr ar y tŵr sgaffaldiau’n cychwyn y pelydryn synhwyro mwg. Rhaid i bobl adael yr amgueddfa … ddwywaith. (Ymddiheuriadau ymwelwyr)

Diwrnod 4 – Mae’r goleuadau newydd yn edrych yn dda, dim larymau tân (diolch byth)

Diwrnod 5 – Cynnydd cyffrous, byddaf yn postio lluniau’r wythnos nesaf.

Diwrnod 6 – Dyma lun o’r goleuadau newydd sy’n cael eu gosod yn y Theatr Ddarlithio:

Diwrnod 7 – I osgoi dril tân anfwriadol arall, bu’n rhaid i ni gadw’r larwm tân ar wahân wrth i’r gwaith ar uchder gael ei wneud.   Roedd bipian y panel tân bron â gyrru’r staff yn wallgof. Rydym wedi prynu amddiffynwyr clustiau.

Diwrnod 8 – Mae drilio yn y Theatr Ddarlithio’n sbarduno’r synwyryddion ar y giardiau ar ddrysau’r Oriel Hanes. Mae ein staff blaen tŷ yn gweithio’n galed yn dringo’r grisiau i’w hailagor.

Diwrnod 9 – Mae’r goleuadau’n gweithio, mae’n edrych yn ddisglair!

Diwrnod 10 – Mae’r switsh golau dros dro wedi’i osod (botwm mawr sgwâr yw ef)

Diwrnod 11 – Gwaith weirio terfynol cyn i’r trydanwyr symud ymlaen i’r Oriel Hanes.

Mae’r goleuadau yn y Theatr Ddarlithio bron â bod yn barod, dim ond addasiadau uchder a rhaglennu’r goleuadau sydd i fynd – maen nhw’n mynd i fod yn ffansi! Rwy’n difaru peidio â thynnu llun cyn i’r gwaith ddechrau nawr!

Byddwn yn ôl ar ôl hanner tymor! Diolch i bawb sydd wedi ymweld â ni yn ystod y gwyliau – gobeithio eich bod wedi mwynhau ein gweithgareddau!

Nawr ymlaen i’r Oriel Hanes

Gwnes i gofio tynnu llun ‘cyn’ y tro hwn, fel y gallwch weld mae’n eithaf hen ac nid yw llawer o’r lampau na’r tiwbiau’n gweithio:

Diwrnod 1 – Diwrnod cyntaf ar gyfer prosiect goleuo’r Oriel Hanes. Symudwyd y sgaffaldwaith o’r Theatr Ddarlithio i’r Oriel Hanes. Symudwyd y casys gan ein technegydd i wneud lle ar gyfer y sgaffaldwaith.

Diwrnod 2 – Cael gwared ar gasgliadau sydd mewn perygl a gorchuddion amddiffynnol ar gasys. Adeiladwyd y sgaffaldwaith.

Diwrnod 3 – Mwy o’r sgaffaldwaith wedi’i adeiladu, symud mwy o’n casgliadau, mwy o deithiau i fyny ac i lawr y grisiau. 

Diwrnod 4 – Mae’r goleuadau’n cael eu gosod, mae’r trydanwyr wedi adeiladu llwyfan uwchben ein Cegin Gymreig, ac mae llifolau i arwain y rheini sy’n defnyddio’r lifft i’r allanfa

Diwrnod 5 – Mae’r trydanwyr yn yr atig. Mae’n eithaf uchel i fyny, felly roedd angen ysgol fawr arnynt.

Diwrnod 6 – Mae’r trydanwyr yn yr atig o hyd (eto – doedden nhw ddim yno drwy’r penwythnos). Gosod ceblau yn yr ystafell isod.

Diwrnod 7 – Nawr maen nhw yn y nenfwd ffug uwchben y cyntedd. Roeddwn i wedi fy nhemtio i weld beth sydd yno.

Diwrnod 8 – Maen nhw wedi gosod panel rheoli smart. Dyw’r panel heb gael ei raglennu eto ond dwi eisoes yn chwilfrydig.

Diwrnod 9 – Mae’r trydanwyr wedi gorffen! Mae’n rhaid i ni aros ychydig o wythnosau i’r goleuadau gael eu rhaglennu, ond mae’r gwaith caled wedi’i gwblhau. Nawr mae angen i ni roi trefn ar yr ystafell eto.

Diwrnod 10 – Mae’r Oriel Hanes ar agor eto! Dewch draw i fwynhau’r goleuadau llachar newydd.

Mae’n ymddangos bod goleuadau gwan yn cuddio llu o feiau.

Mae’r holl arddangosfeydd bellach ar agor! Dewch i weld ein goleuadau newydd a rhowch wybod i ni beth yw eich barn!

Primary Sidebar

Search

Blog

  • Ysbienddrych efydd
  • Wythnos y Ffoaduriaid
  • Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
  • Crys-t Oxfam
  • Pennau Byfflo a Bual

Footer

Connect with Us

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter

Return to top of page

Copyright © 2026 · Swansea Museum, City and County of Swansea

  • Cymraeg
  • English