• Skip to primary navigation
  • Skip to content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Swansea Museum

  • Cymraeg
    • English
  • Email
  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter
  • Hafan
  • Ymweld ag Amgueddfa Abertawe
    • Trefnwch eich ymweliad am ddim
    • Cychod a Llongau ar Ddangos
    • Canolfan Gasgliadau Amgueddfa Abertawe
    • Sied Dramiau
    • Cysylltu â Staff
    • Ffrindiau Amgueddfa Abertawe
  • Ein Casgliad
    • Arweiniad Digidol Am Ddim
    • Eich Paentiadau
    • Arteffactau Eifftaidd
    • Gwrthrychau Morwrol
    • Darganfyddiadau o Abertawe a Chastell-nedd
    • Abertawe yn ystod y Rhyfel
    • Rhoi eitem i Amgueddfa Abertawe
  • Abertawe – Braslun o’i Hanes
    • Archaeoleg
    • Diwydiant
    • Y Môr
    • Trên y Mwmbwls
    • Hen dai a lleoedd
  • Digwyddiadau
    • Arddangosfeydd
    • Digwyddiadau a Gweithgareddau
    • Arddangosfeydd y Gorffennol
  • Siop yr amgueddfa
  • Dysgu
    • Ymweliadau Ysgol
    • Allgymorth Cymunedol
  • Blog
You are here: Home / Ein Casgliad / Abertawe yn ystod y Rhyfel / Lloches Anderson

Lloches Anderson

Wartime SwanseaDyluniwyd y math hwn o loches cyrch awyr gan David Anderson, B. L. Hurst a Syr Henry Jupp yn seiliedig ar y prototeip o 1938 a grëwyd gan William Paterson ac Oscar Carl Kerrison.

Roedd y lloches ddur rhychiog alfanedig, a ddyluniwyd i’w hadeiladu mewn twll pedair troedfedd o ddyfnder yn yr ardd, yn cynnwys 14 o baneli wedi’u bolltio ynghyd: 6 phanel crwm ar y rhan uchaf, 3 darn syth ar bob ochr ac un panel syth ym mhob pen, yr oedd un ohonynt yn cynnwys drws.

Ar ôl ei hadeiladu, roedd y lloches yn  6 ′ o uchder x 4′ 6″ o led x 6′ 6″ o hyd ac roedd lle i 4 i 6 pherson ynddi. I gwblhau’r gwaith adeiladu, y bwriad oedd y byddai 15″ o bridd yn cael ei daenu dros do’r lloches.   Codwyd dros 2 filiwn o lochesi yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

I’r rhai ag incwm isel, fe’u rhoddwyd iddynt am ddim ond cododd y Llywodraeth dâl o £7 amdanynt i bobl ag incwm uwch.

Enwyd y llochesi ar ôl yr Ysgrifennydd Cartref, Syr John Anderson, a oedd yn gyfrifol am amddiffyn sifil ym 1938.

Cedwir yr eitem hon yng Nghanolfan Gasgliadau Amgueddfa Abertawe yng Nglandŵr, yn y storfeydd.

Primary Sidebar

Search

Blog

  • Wythnos y Ffoaduriaid
  • Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
  • Crys-t Oxfam
  • Pennau Byfflo a Bual
  • Rhodd newydd

Footer

Connect with Us

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter

Return to top of page

Copyright © 2025 · Swansea Museum, City and County of Swansea

  • Cymraeg
  • English