Mae’r Hydef Yma
Yn ystod hanner tymor yr hydref, bydd mwy o weithgareddau i chi eu mwynhau yn yr amgueddfa. O 25 Hydref i 3 Tachwedd, ymunwch â ni i gael rhywfaint o hwyl fwganllyd! Gallwch gymryd rhan yng Ngŵyl Amgueddfeydd Cymru a chael llyfryn am ddim sy’n llawn gemau, posau a helfa ysbrydion difyr. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymuno â’n gweithdy creu ystlum ar Nos Galan Gaeaf – does dim rhaid gwisgo lan, ond byddem yn gwerthfawrogi hynny!
Gweithdy Ystlumod Ysblennydd
Dydd Iau 31 Hydref
10am i 1pm, am ddim, i bob oed.
Dewch i greu ystlum cyfeillgar i fynd ag ef adref yn ein gweithdy Nos Galan Gaeaf am ddim. Does dim angen cadw lle, galwch heibio!
Llyfryn gweithgareddau am ddim
Cynhelir Gŵyl Amgueddfeydd Cymru o 26 Hydref i 2 Tachwedd. Bydd llyfryn bwganllyd arbennig ar gael i chi ei fwynhau, yn llawn gemau a phosau!
Yn olaf, cofiwch godi ambell drît difyr cyn i chi adael!
Gweithdy Creu Torch
Dydd Sul 1 Rhagfyr
10:30am i 1:30pm
£25
Bydd y Nadolig yma cyn pen fawr o dro. Cofrestrwch ar gyfer ein gweithdy gwneud torch er mwyn creu eich addurn Nadoligaidd. Hyn a hyn o leoedd sydd ar gael, felly galwch heibio’r amgueddfa neu ffoniwch ni ar 01792 653763.
Rhaid talu wrth gadw lle.
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i dderbyn newyddion am y digwyddiad i’ch mewnflwch.
Ydych chi wedi rhoi cynnig ar ein llwybr llygod?
Mae 22 o lygod yn cuddio o amgylch ein hamgueddfa. Mae’n her fawr i ddod o hyd i bob un ohonynt – a fyddwch chi’n heliwr llygod medrus?
Sicrhewch eich bod chi’n cael cip ar Sefydliad Brenhinol De Cymru, sy’n darparu rhaglen reolaidd o ddarlithoedd ar amrywiaeth eang o bynciau.
Mae Sefydliad Brenhinol De Cymru, neu RISW, yn gyfeillion i’r amgueddfa.
Diolch am gymryd rhan!
Adrodd Eu Stori
Diolch i bawb sy’n parhau i gymryd rhan yn ein stori Dihangfa Wyllt sy’n adrodd ein Horiel Astudiaethau Natur. Cawsom gyfraniadau gwych. Dyma rai o’n ffefrynnau hyd yn hyn!
Yr her gomics 4 panel: