• Skip to primary navigation
  • Skip to content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Swansea Museum

  • Cymraeg
    • English
  • Email
  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter
  • Hafan
  • Ymweld ag Amgueddfa Abertawe
    • Trefnwch eich ymweliad am ddim
    • Cychod a Llongau ar Ddangos
    • Canolfan Gasgliadau Amgueddfa Abertawe
    • Sied Dramiau
    • Cysylltu â Staff
    • Ffrindiau Amgueddfa Abertawe
  • Ein Casgliad
    • Arweiniad Digidol Am Ddim
    • Eich Paentiadau
    • Arteffactau Eifftaidd
    • Gwrthrychau Morwrol
    • Darganfyddiadau o Abertawe a Chastell-nedd
    • Abertawe yn ystod y Rhyfel
    • Rhoi eitem i Amgueddfa Abertawe
  • Abertawe – Braslun o’i Hanes
    • Archaeoleg
    • Diwydiant
    • Y Môr
    • Trên y Mwmbwls
    • Hen dai a lleoedd
  • Digwyddiadau
    • Arddangosfeydd
    • Digwyddiadau a Gweithgareddau
    • Arddangosfeydd y Gorffennol
  • Siop yr amgueddfa
  • Dysgu
    • Ymweliadau Ysgol
    • Allgymorth Cymunedol
  • Blog
You are here: Home / Archives for karl.morgan

karl.morgan

Ebrill 5, 2022 by karl.morgan

Dyddiadur Carcharor Rhyfel

Casgliad Amgueddfa Abertawe

Llyfr ymarfer a ddefnyddiwyd fel dyddiadur, gorchuddion papur glas, papur llinellau gwyn. Dyddiadur y dyn o Abertawe, John Healy, tra bu’n garcharor rhyfel yn yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae label blaen y clawr yn darllen ‘Sgt John Healy, 1837362 POW Barth Stalag Luft 1 7610 Germany’.  Roedd yr Awyr-ringyll John Healy (1922-2018) yn yr Awyrlu Brenhinol o 27 Rhagfyr 1943 i 5 Mawrth 1947. Ymunodd John â’r gwasanaeth fel gynnwr cefn gan hedfan awyrennau bomio  Lancaster gyda Sgwadron 90 yr Awyrlu Brenhinol Fe’i saethwyd i lawr ym mis Ionawr 1945, ei gipio yn Mutterstadt, yr Almaen a’i gaethiwo yn Stalagluft 1, gwersyll carcharorion rhyfel yn Barth, Gogledd yr Almaen tan fis Mai 1945 pan gafodd ei ryddhau ar ôl i’w warchodwyr Almaenig ffoi. Yn y dyddiadur a gadwodd pan oedd yn y gwersyll, ysgrifennodd am brydau yr oedd yn gobeithio’u cael pan gâi ei ryddhau. Ysgrifennodd John yn ei ddyddiadur rai o’r prydau yr oedd yn dyheu amdanynt pan fyddai’n dychwelyd adref-  ffagots a phys- lympiau o gaws gyda digon o fara a menyn a phaned o de! Ar glawr y llyfr mae’r geiriau YMCA Sweden.

Tra bod YMCA Abertawe yn weithgar gartref fel yr amlygwyd ym Mlog 7, roeddent hefyd yn cefnogi milwyr ar flaen y gad. Anfonwyd llawer o unedau symudol dramor i gefnogi milwyr. I ddechrau, collwyd llawer ohonynt yn Ffrainc yn gynnar yn y rhyfel gyda’r enciliad o Dunkirk. Yn ddiweddarach, anfonwyd uned symudol arall y talwyd amdani gan YMCA Abertawe i Ogledd Affrica.

Roedd gwasanaethau eraill ar gyfer milwyr tramor yn cynnwys trefnu danfon anrhegion i anwyliaid neu drefnu blodau er enghraifft ar gyfer pen-blwydd priodas, a’r cyfan yn cael ei wneud gan Gymdeithas Gynorthwyol y Merched Abertawe.

Mae adroddiad blynyddol Gymdeithas Gynorthwyol y Merched ar gyfer 1944 yn rhoi blas o’u gweithgareddau.

“Roedd bron y cyfan o’r gwaith yn waith rhyfel. Hyd at ddiwedd 1944, gwnaethom ddyletswydd ar 6 chaban bwyd sefydlog a 5 caban bwyd symudol. Oherwydd symudiad milwyr mae Twyni Crymlyn bellach ar gau.

Cynllun Rhoddion i’r Cartref – 100 tusw o flodau wedi’u danfon ynghyd â cheisiadau eraill fel doli, tedi bêr, recordiau gramoffon a thocynnau ar gyfer y pantomeim.

Diddanu milwyr clwyfedig yn y YMCA canolog a £800 a godwyd ac a anfonwyd i Gaerdydd ar gyfer gwaith tramor.

Roedd yn waith caled iawn ond rwy’n gwybod ein bod wedi cael llawer o bleser o wybod ein bod wedi rhoi rhywfaint o help a chysur i’r rheini yn y gwasanaethau sy’n barod i aberthu popeth i ni”

Rôl bwysig arall a gyflawnwyd gan y YMCA yn rhyngwladol oedd lles Carcharorion Rhyfel (POW) a gadwyd yn garcharorion yn yr Almaen a lleoliadau eraill. Darparwyd dyddiadur John Healey gan y YMCA yn Sweden. Roedd y gwaith a wnaed yn debyg i’r Groes Goch. Roedd Sweden yn wlad niwtral yn ystod yr Ail Ryfel Byd, felly byddai YMCA Sweden wedi cael caniatâd i gefnogi carcharorion rhyfel Prydain mewn gwersylloedd.

Llyfr cofnodion ar gyfer Cymdeithas Gynorthwyol y Merched ym mis Rhagfyr 1945 sy’n cofnodi bod mab Mrs Elliot Seager, yr adroddwyd ei fod goll, mewn gwirionedd mewn gwersyll carcharorion rhyfel yn yr Almaen, ac roedd newyddion amdano wedi dod drwy’r YMCA.

Yn dilyn diwedd y rhyfel, newidiodd y gwaith yn gyflym i’r ailadeiladu. Rhoddwyd rhodd er enghraifft tuag at ailadeiladu YMCA Rangoon yn Byrma.

Roedd cymodiad hefyd yn rhan o’r agenda, ac erbyn 1948 roedd grŵp o staff YMCA newydd o’r Almaen yn YMCA Abertawe ar daith astudio.

Bu Mr D L Davies a oedd yn rhedeg y cabanau bwyd (gweler blog 7) yn ymwneud yn ddiweddarach ag ailsefydlu ffoaduriaid. Gan weithredu ar ran Cyngor y Byd y YMCA yng Ngenefa, trefnodd i 5,000 o ffoaduriaid gael eu lleoli yng Nghanada. 

Nid yr YMCA, wrth gwrs, oedd yr unig gorff a oedd yn codi arian ac yn cefnogi milwyr rheng flaen drwy gabanau bwyd symudol. Ar ôl y rhyfel ymwelodd Mr Davies hefyd â phencadlys y Cadfridog Montgomery yn Fontainbleau. Y tu allan i’r pencadlys roedd caban bwyd symudol a oedd yn dal i gael ei ddefnyddio ac a roddwyd gan bobl Casllwchwr. Mae’n debyg bod y staff wrth eu bodd yn dysgu o’r diwedd sut i ynganu enw’r ardal, a darganfod lle’r oedd Casllwchwr wedi’i leoli mewn gwirionedd.

Filed Under: Blog (Cy)

Ebrill 5, 2022 by karl.morgan

Llun – Blitz Abertawe

Casgliad Amgueddfa Abertawe

Ffotograff, du a gwyn. Ffotograff o ddiffoddwyr tân yn defnyddio pibellau dŵr i geisio diffodd tân a achoswyd gan fomiau tân Almaenig a syrthiodd ar siop Ben Evans yn Abertawe yn ystod Blitz Tair Noson 1941. Mae’r olygfa yn y llun yn dangos diffoddwyr tân yn dofi’r tân o Sgwâr y Castell. Yr adeiladau uchel yn y cefndir yw Burtons, David Evans a Castle Cafe Kardomah, y cafodd pob un ohonynt eu difrodi gan fomiau a’u dymchwel wedi hynny gan fod yr adeiladau’n beryglus. Mae ‘caban te’ y YMCA i’w weld ar waelod y llun ac mae’n debyg bod y caban bwyd symudol hwn yn darparu bwyd i weithwyr.

Er bod cryn dipyn o aelodau’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd llawer o aelodau hŷn a Chymdeithas Gynorthwyol y Merched YMCA Abertawe yn gwasanaethu gartref. Roedd arian yn cael ei godi i gefnogi milwyr a oedd ar flaen y gad nid gyda chytiau sefydlog fel yn y Rhyfel Byd Cyntaf ond gyda faniau teithiol a oedd yn gweini lluniaeth ac yn cynnig deunydd darllen a deunydd ysgrifennu llythyrau i’w hanfon adref.

Wrth i’r flwyddyn 1939 fynd yn ei blaen a bod rhyfel yn ymddangos yn fwy tebygol, roedd Cyngor Cenedlaethol YMCA Cymru yn brysur yn gosod pebyll ar gyfer hamdden a lluniaeth mewn gwersylloedd hyfforddi amrywiol ledled Cymru. Yn dilyn y datganiad o ryfel ym mis Medi, roedd llawer o brif swyddogion yn gofyn am gymorth y YMCA a sefydlwyd dau ar bymtheg arall yn ystod yr wythnosau cyntaf yn dilyn y datganiad o ryfel. Sefydlwyd Pwyllgor Argyfwng Rhyfel a chafodd pob pwyllgor sefydlog arall ei atal. Erbyn 1940 roedd yn amlwg y byddai angen adeiladau parhaol yn lle’r adeiladau dros dro ar gost gyfartalog amcangyfrifedig o dair i bedair mil o bunnoedd yr un.

Roedd hefyd yn amlwg y byddai angen lluniaeth a llety ar gyfer milwyr teithiol yn y prif orsafoedd rheilffordd amddiffyn a chabanau bwyd symudol ar gyfer y rheini mewn unedau mwy diarffordd fel balŵns amddiffyn a magnelfeydd gwrthawyrennol.

Byddai’r cabanau bwyd symudol hefyd yn cael eu defnyddio i gefnogi trefi yr ymosodwyd arnynt gan awyrennau bomio. Yn ystod y blitz tair noson ar Abertawe, cefnogwyd cabanau bwyd symudol y YMCA gan sawl un arall gan gynnwys un o Borthcawl a chwech o Gaerdydd a oedd wedi cyrraedd erbyn 2.45am yn y bore.

Roedd adroddiad y Rheolwr Rhagofalon Cyrch Awyr i’r cyngor ar y Blitz – 19 Mawrth 1941 yn dweud:

“Mae’r cabanau bwyd symudol hefyd yn dod i mewn, gan fy mod wedi dweud wrthych am helpu… llwyddodd trefnydd y WVS i ddefnyddio’r gegin yn Neuadd y Dref lle paratowyd a llwythwyd llawer o fwyd i’r cabanau bwyd symudol ar er mwyn dosbarthu bwyd o amgylch y Fwrdeistref, a gwnaeth y YMCA gymwynas debyg”.

Mewn sawl llun o Abertawe yn y blitz ym mis Chwefror, gallwch weld caban bwyd y YMCA yn y llun.

Roedd gan YMCA Abertawe sawl caban symudol i wasanaethu milwyr ar falŵns amddiffyn gwrthawyrennol, magnelfeydd gwrthawyrennol a gwersylloedd milwrol a oedd wedi’u gwasgaru o amgylch Abertawe.

Gwirfoddolodd Aelod o bwyllgor YMCA Abertawe, Mr D L Davies, i oruchwylio holl gabanau bwyd y YMCA yn ardal Abertawe, byddai hyn yn cynnwys y rheini a ddarparwyd gan Abertawe a thrwy’r corff ymbarél cenedlaethol.  Roedd Mr Davies yn berchen ar siop ddillad ar Gower St (Ffordd y Brenin erbyn hyn) a gafodd ei ddinistrio yn y Blitz.

Yn Abertawe, yn ogystal â’r cabanau bwyd symudol, roedd cabanau bwyd a chyfleusterau hamdden yn Fairwood, Twyni Crymlyn, Gorsaf y Stryd Fawr a’r Mwmbwls a chaban bwyd a llety yn y prif adeilad, clwb y lluoedd arfog ar Alexandria Road a Chlwb Swyddogion ar Gore Terrace. Gwnaed y rhan fwyaf o’r gwaith cynnal a’r gweithgarwch gan Gymdeithas Gynorthwyol y Merched a oedd hefyd yn darparu gwasanaethau eraill gan gynnwys cwrdd â phob trên a gyrhaeddodd gyda milwyr clwyfedig yn Abertawe a rhoi parsel i bob un.

Roedd angen codi arian hefyd ar gyfer cyfleusterau a chabanau bwyd symudol ar y gwahanol ffryntiau. Cyfrannodd Abertawe yr ail gyfanswm uchaf yng Nghymru, sef swm o £5,000. Roedd y rhan fwyaf o’r gwaith yn cael ei wneud gan
Gymdeithas Gynorthwyol y Merched.

Ar 3 Mehefin 1940, rhoddodd L S Jenkins adroddiad ar waith yr wythnos diwethaf pan gafodd nifer o ffoaduriaid luniaeth ac yna’n hwyr un noson daeth llond trên o ddynion o Fyddinoedd Ymgyrchol Prydain i mewn i’r orsaf, yn flinedig ac yn lluddedig, yn syth o Dunkirk. Yn y cyfarfod nesaf, adroddwyd bod 1,778 o gwpaneidiau o de wedi’u gweini rhwng 16 a 22 Mehefin. Gweinwyd y nifer mwyaf o gwpaneidiau o de, sef 462, ar 13 Mehefin. Roedd trefniadau hefyd wedi’u gwneud yn Ysgoldy Ebenezer lle’r oedd wyth gwely bellach ar gyfer milwyr nad oeddent yn gallu adael oherwydd trenau hwyr.

Yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Gynorthwyol y Merched ar gyfer 1940, dywedodd Miss Dillwyn Llewelyn y llywydd,

“Ers ein cyfarfod blynyddol diwethaf, mae cwmpas Cymdeithas Gynorthwyol y Merched wedi’i ehangu’n fawr wrth wneud gwaith ffreutur ac mae’r ymdrechion hyn wedi bod yn fodd i gynyddu ein haelodaeth yn sylweddol, diolch i’r menywod niferus sydd wedi dod ymlaen i roi eu gwasanaethau’n ddi-baid i waith yr YMCA yn y swydd hon. Efallai y bydd o ddiddordeb i rai ohonoch wybod fod gennym y fraint o fod y Gymdeithas Gynorthwyol y Merched y YMCA hynaf yn y wlad ac yn ffodus, mae  gennym sawl aelod a wnaeth waith rhyfel tebyg 25 mlynedd yn ôl sy’n dal i fod yn weithgar heddiw”

Amlinellodd adroddiad y Cadeirydd yn nes ymlaen y gwaith a wnaed gyda’r cabanau bwyd ac yna aiff ymlaen i ddweud:

“Ar ddechrau mis Medi, mae pob un ohonoch yn gwybod beth ddigwyddodd yn yr orsaf, roedd ein caban bwyd ar gau am 12 diwrnod ond nid anghofiwn y merched hynny a oedd ar ddyletswydd ar noson 1 Medi ac a ddioddefodd galedi’r cyrch awyr hwnnw a’r merched a ddaeth yno i gyflawni eu dyletswyddau am 7.30am y bore canlynol”.

Roedd cadeirydd Cymdeithas Gynorthwyol y Merched mewn gwirionedd yn dweud rhy ychydig am eu gwaith, a oedd yn nodweddiadol ar y pryd. Ar 1 Medi 1940 cafwyd y cyrch mawr cyntaf ar Abertawe a chafodd Gorsaf y Stryd Fawr ei tharo.

Roedd y menywod ar ddyletswydd y noson honno yn ffodus i beidio â chael eu lladd na’u hanafu’n ddifrifol.

Filed Under: Blog (Cy)

Ebrill 5, 2022 by karl.morgan

Llu G, “Gorchmynion Ymgyrch Neptune”.

“Ymgyrch Neptune” oedd yr enw côd ar gyfer yr ymgyrch forol ar gyfer D Day, dan Ymgyrch “Overlord”. 

Mae’r cannoedd o dudalennau gorchmynion i gyd wedi’u marcio â “tra chyfrinachol”.  Mewn print du mawr ar y clawr blaen mae’n datgan;

“To be taken on charge in accordance with article 39 of C.B. form U.2D and destroyed by fire on completion of the operation.”

Fel y gallwch ddychmygu, ufuddhawyd i’r gorchmynion hynny i’r llythyren fel arfer, ac felly mae hwn yn oroeswr prin. Roeddent yn perthyn i Kenneth Hartree Davies, a ymunodd â’r Llynges ym 1942 yn YMCA Abertawe. Ym 1944 fe’i dyrchafwyd i reng Is-gapten ac fe’i penodwyd i’r cwch glanio tanciau ‘Copra’ mewn pryd ar gyfer glaniadau D. Day, y cymerodd ran ynddynt dan yr enw “Ymgyrch Neptune”.

Goroesodd y gorchmynion ymgyrchol gan fod y cwch glanio tanciau wedi datblygu problemau gyda’i fotor ar D Day ac fe’i gorfodwyd i ddychwelyd i’r porthladd. Trosglwyddodd Kenneth ei danciau i’r lan o’r diwedd 6 diwrnod ar ôl D Day.

Gall effaith rhyfel ar unigolyn barhau am oes, hyd yn oed os nad yw’n cael ei anafu’n gorfforol. Enghraifft o hyn yw SM 2018.14.1, pecyn adfer gwallt trydan o ddiwedd y 1940au.

Roedd yr adferydd gwallt trydan hwn yn perthyn i Mr Walter Stockdale. Bu’n gwasanaethu yng Nghorfflu’r Arloeswyr yn yr Ail Ryfel Byd ac roedd yn un o’r milwyr a aeth i mewn i wersyll crynhoi Belsen. Collodd ei wallt oherwydd sioc yr hyn a welodd ac yn ddiweddarach prynodd y cit adfer gwallt i helpu gyda hyn.

Filed Under: Blog (Cy)

Ebrill 5, 2022 by karl.morgan

Bathodyn Aelodaeth y Clwb Pysgod Aur

Ffabrig. Bathodyn clwb pysgod aur ffabrig du yn dangos pysgodyn aur ag adain wen yn hedfan

dros ddwy linell las donnog.

Mae’r Clwb Pysgod Aur yn glwb eithaf unigryw. Mae’r cymhwyster aelodaeth ar y sail eich bod wedi gorfod glanio’ch awyren ar y môr ar ryw adeg ac wedi goroesi i adrodd yr hanes. Roedd y bathodyn ynghyd â cherdyn aelodaeth yn perthyn i’r Awyr-ringyll Marcus Arthur Harris a aned yn Nhreboeth, Abertawe ym 1913 ac a ymunodd â’r Awyrlu Brenhinol ym 1940, yn 27 oed. Dechreuodd ei yrfa hedfan yng nghanolbarth Cymru, yn halio targedau ar gyfer hyfforddiant gynwyr gwrthawyrennol. Rhaid bod criwiau gynnau yr oedd gynnau gwrthawyrennol yn newydd iddynt, wedi wynebu risg sylweddol. Rhwng mis Mehefin a mis Tachwedd 1944, hedfanodd sawl cyrch dros Ewrop fel Gweithredwr Radio a Gynnwr Awyr mewn awyrennau bomio trwm yr Handley Page Halifax Mk.II a III gyda sgwadron 158. Rhwng mis Chwefror a mis Tachwedd 1945 trosglwyddodd i Sgwadron 96 a hedfanodd gydag awyrennau bomio Halifax yn ymgyrch Burma.  Daw’r bathodyn hefyd gyda’i gerdyn aelodaeth sy’n cofnodi iddo gael ei orfodi i lanio ar y môr a defnyddio’i dingi argyfwng ar 8 Mawrth 1944.

Filed Under: Blog (Cy)

Ebrill 5, 2022 by karl.morgan

Dogfen Gwasanaeth Milwrol

Casgliad Amgueddfa Abertawe

Dogfen, Deddf Gwasanaeth Milwrol (y Lluoedd Arfog) 1939. Dogfennau personol Mr Thomas William Howells. Llythyr oddi wrth y Weinyddiaeth Lafur a Gwasanaeth Milwrol Roedd yn ofynnol i’w gyflwyno ar gyfer archwiliad meddygol, 24 Tachwedd 1939 Adeiladau’r YMCA, St Helen’s Road, Abertawe.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd yr adeilad ei gymryd drosodd yn gyfan gwbl i’w ddefnyddio fel ysbyty.  Yn yr Ail Ryfel Byd, roedd llawer o’r adeilad hefyd yn cael ei ddefnyddio gan y fyddin a’r Weinyddiaeth Lafur.

Roedd swyddfeydd recriwtio yn yr adeilad ar gyfer y gwahanol luoedd arfog. Wrth dderbyn eich papurau galw i’r fyddin, roedd angen mynd i YMCA Abertawe er mwyn cael eich archwiliad meddygol a’ch prosesu. Byddai cenhedlaeth gyfan o ddynion ifanc yn Abertawe wedi ymweld â’r adeilad ar gyfer eu harchwiliad meddygol gan gynnwys y prawf ‘gollwng a pheswch’. Mewn gwirionedd, hyd yn oed ar ôl y rhyfel roedd yr adeilad yn dal i gael ei ddefnyddio ar gyfer prosesu galwadau ac archwiliadau meddygol ar gyfer Gwasanaeth Milwrol tan oddeutu 1948.

Mae Amgueddfa Abertawe yn parhau i gasglu gwrthrychau i gofnodi hanes a threftadaeth Abertawe a’i phobl. Mae’r polisi casglu’n eithaf llym, rhaid i’r gwrthrych fod yn gysylltiedig ag Abertawe ac mae ganddo stori i’w hadrodd os yn bosib. Mae’r Ail Ryfel Byd yn parhau i fod yn gyfnod o ddiddordeb mawr. Mae gan yr amgueddfa gasgliad sylweddol o wrthrychau o’r Ail Ryfel Byd ac yn aml iawn dechreuodd stori’r gwrthrych hwnnw yn y YMCA.

Filed Under: Blog (Cy)

Ebrill 5, 2022 by karl.morgan

Cerdyn Dawns sy’n perthyn i Ethel Howard

Casgliad Amgueddfa Abertawe

Cerdyn dawns, inc ar gerdyn. Cerdyn dawns ar gyfer y Didoliad Cymorth Gwirfoddol Dawns 88 Morgannwg yn ysbyty’r YMCA ar 25 Mawrth, 1919. Y tu mewn iddo rhestrir caneuon a dawnsfeydd a cheir rhestr lle gall gŵyr bonheddig ysgrifennu eu henwau i hawlio Ethel Howard am ddawns. Mae llinyn glas golau ynghlwm wrth waelod y cerdyn gyda phensil gwyrdd bychan iawn ar y pen. Byddai’r llinyn hefyd wedi caniatáu i’r cerdyn hongian o arddwrn y wraig wrth iddi ddawnsio. Mae ymyl addurnol i’r cerdyn.

Mae Casgliad Amgueddfa Abertawe yn cynnwys sawl cerdyn dawns. Mae’r enghraifft hon, SM 1985.157.21, ar gyfer dawns a gynhaliwyd ar 25 Mawrth 1919 yn Ysbyty’r Groes Goch y YMCA, Didoliad Cymorth Gwirfoddol Rhif 88 Morgannwg. Cynhaliwyd y ddawns wythnos yn unig cyn i’r adeilad gael ei drosglwyddo’n ôl i’r YMCA.

Dim ond ym mis Hydref 1913 yr oedd adeilad newydd y YMCA ar Ffordd y Brenin wedi agor ac o fewn blwyddyn roedd y Groes Goch yn ei feddiannu i’w ddefnyddio fel ysbyty. Wrth i anafusion gynyddu, cymerwyd yr adeilad cyfan drosodd ganddynt yn y pen draw a symudodd yr YMCA i St Andrews ar St Helen’s Road, Mosg Abertawe bellach.

Cyn bo hir byddai cardiau dawns yn mynd allan o ffasiwn ond yn ei hanfod roedd yn rhestr o’r alawon dawns gwahanol a fyddai’n cael eu chwarae y noson honno, gyda phensil ynghlwm. Yna gallai gŵyr bonheddig fynd at y fenyw, gofyn am ddawns benodol a byddai’r fenyw’n gallu cofio drwy ysgrifennu ei enw ochr yn ochr â’r ddawns y gofynnwyd amdani.

Dechreuodd cardiau dawns yn y 18fed ganrif a daethant yn gyffredin yn y 19eg ganrif ar ôl iddynt ddod yn ffasiynol yn Fienna. Yn fuan ar ôl yr enghraifft benodol hon, daethant fwy neu lai’n rhan o hanes. Erbyn yr Ail Ryfel Byd, roedd Llu Awyr Byddin yr Unol Daleithiau wedi cymryd y term cerdyn dawns ac wedi’i ddefnyddio yn lle ar gyfer cerdyn ysgrifenedig a fanylai ar gynlluniau eu hymgyrchoedd bomio.

Cynhaliwyd y ddawns yn Ysbyty’r YMCA ym mis Mawrth 1919 ac roedd Miss Howard yn boblogaidd. Mae’r rhestr ddawns y tu mewn yn llawn.

Roedd trychineb y Rhyfel Mawr wedi arwain at newidiadau i gymdeithas yn y 1920au gyda phobl yn fwy awyddus i fyw bywyd. Newidiodd ffasiwn a daeth dawnsfeydd newydd fel y Charleston yn boblogaidd. Bu’n rhaid i YMCA Abertawe, lle cynhaliwyd y ddawns yn 1919 ond dan nawdd y Groes Goch, geisio addasu i’r byd newydd hwn ond bu’n dipyn o ymdrech. Flwyddyn yn ddiweddarach, roedd Cymdeithas Gynorthwyol y Merched yn ceisio trefnu digwyddiadau cymdeithasol a dawnsio fel rhan o’u hymdrechion ariannu ar gyfer y YMCA.

Mae cofnodion y Pwyllgor Gwaith (Bwrdd Rheoli’r YMCA) dyddiedig 18 Hydref 1920 yn rhoi cipolwg hynod ddiddorol ar y frwydr honno. Roedd Cymdeithas Gynorthwyol y Merched ar gyfer y YMCA (grŵp cefnogaeth ar gyfer codi arian i’r elusen yn bennaf) wedi gofyn am ganiatâd i gynnal nosweithiau cymdeithasol yn ystod y gaeaf er mwyn codi arian.  Mae’r cofnodion wedi’u hysgrifennu â llaw ond mae’n amlwg bod hyn wedi achosi cryn ddadl yn y cyfarfod ac mae’n amlwg bod y sawl a oedd yn cymryd y cofnodion wedi rhoi’r gorau iddi ac wedi teipio’r adran yn ddiweddarach, a gludo’r lleoliad terfynol y cytunwyd arni.  Mae’n werth ailadrodd y cofnod yn llawn:

“Bod cais Cymdeithas Gynorthwyol y Merched am ganiatâd i gynnal nosweithiau cymdeithasol yn ystod y gaeaf yn cael ei ganiatáu’n galonnog ar yr amodau canlynol:

  1. Ni fydd yr amser cau yn hwyrach na 10.30pm.
  2. Ni chaniateir chwarae cardiau.
  3. O ran dawnsio, mae’r pwyllgor gwaith hwn yn sylweddoli bod gwasanaeth rhyfel y YMCA wedi agor llwybrau gwasanaeth cymdeithasol newydd ac ehangach ac mae’n dymuno ateb pob galw cyfiawn a rhesymol am hamdden a difyrrwch ar ran ei aelodau, ond mae’n rhwym yn y cyswllt hwn i ohirio rhoi ei farn ynghylch dymunoldeb caniatáu dawnsfeydd ar y safle.
  4. Fodd bynnag, mae’r pwyllgor gwaith yn barod, fel arbrawf ar gyfer ei arweiniad yn y dyfodol, i gymeradwyo’r cais uchod, ar yr amod, os bydd dawnsio’n digwydd, y bydd o natur anffurfiol ac na chaiff ei hysbysebu a’i wneud yn nodwedd arbennig o’r cynulliadau, ac ymhellach, mae’r pwyllgor gwaith yn disgwyl i Gymdeithas Gynorthwyol y Merched arfer y fath oruchwyliaeth wrth gynnal y partïon cymdeithasol hyn a fydd yn atal unrhyw beth rhag codi a fydd mewn unrhyw ffordd yn adlewyrchu’n wael ar waith ysbrydol y gymdeithas neu’n niweidiol iddo.  Gan mai gwaith o’r fath yw ei phrif nod a’i diben”.

Felly caniatawyd dawnsfeydd ar yr amod na fyddent yn cael eu hysbysebu fel dawnsfeydd. Cyfaddawd Prydeinig iawn yn wir.

Fodd bynnag, pan ddarllenwch y cofnodion drwy’r 1920au a’r 1930au, mae’r mater yn parhau i fod yn faes dadleuol, a gododd nifer o weithiau.

Maes dadleuol arall fyddai gyriannau chwist, a fyddai hefyd yn y pen draw yn ffordd o godi arian i’r sefydliad.

Filed Under: Blog (Cy)

  • « Previous Page
  • Page 1
  • Page 2
  • Page 3
  • Next Page »

Primary Sidebar

Search

Blog

  • Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
  • Crys-t Oxfam
  • Pennau Byfflo a Bual
  • Rhodd newydd
  • Y Parch. Emma Rosalind Lee

Footer

Connect with Us

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter

Return to top of page

Copyright © 2025 · Swansea Museum, City and County of Swansea

  • Cymraeg
  • English