• Skip to primary navigation
  • Skip to content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Swansea Museum

  • Cymraeg
    • English
  • Email
  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter
  • Hafan
  • Ymweld ag Amgueddfa Abertawe
    • Trefnwch eich ymweliad am ddim
    • Cychod a Llongau ar Ddangos
    • Canolfan Gasgliadau Amgueddfa Abertawe
    • Sied Dramiau
    • Cysylltu â Staff
    • Ffrindiau Amgueddfa Abertawe
  • Ein Casgliad
    • Arweiniad Digidol Am Ddim
    • Eich Paentiadau
    • Arteffactau Eifftaidd
    • Gwrthrychau Morwrol
    • Darganfyddiadau o Abertawe a Chastell-nedd
    • Abertawe yn ystod y Rhyfel
    • Rhoi eitem i Amgueddfa Abertawe
  • Abertawe – Braslun o’i Hanes
    • Archaeoleg
    • Diwydiant
    • Y Môr
    • Trên y Mwmbwls
    • Hen dai a lleoedd
  • Digwyddiadau
    • Arddangosfeydd
    • Digwyddiadau a Gweithgareddau
    • Arddangosfeydd y Gorffennol
  • Siop yr amgueddfa
  • Dysgu
    • Ymweliadau Ysgol
    • Allgymorth Cymunedol
  • Blog
You are here: Home / Abertawe – Braslun o’i Hanes / Archaeoleg / Abertawe’r Oesoedd Canol

Abertawe’r Oesoedd Canol

Yn yr Oesoedd Canol, amgylchynai Abertawe’r castell ar dair ochr ac, ar y bedwaredd ochr i’r dwyrain, gogwyddai’r tir i gyfeiriad Afon Tawe a’r cei.

Adeiladwyd yr hen gastell gwreiddiol gan y Norman, Henry de Beaumont, Iarll Warwick, a oedd wedi goresgyn Gŵyr. Nid oes olion gweladwy ar ôl o’r castell hwn heddiw; wedi ei adeiladu ym 1106, roedd wedi’i ddinistrio gan y Cymry erbyn 1217.  Adeiladwyd y castell newydd, y mae ei olion yn gyfarwydd i ni heddiw, gan William de Braose II, Arglwydd Gŵyr, ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg.

Tafarn y Cross Keys yw’r unig adeilad canoloesol sy’n goroesi yn Abertawe, neu’n fanwl gywir, mae cefn yr adeilad hwn, sydd wedi’i adfer yn helaeth, yn ymgorffori olion Ysbyty Dewi Fendigaid.Wedi’i adeiladu gan Henry de Gower, Esgob Tyddewi ym 1332, roedd yr elusendy hwn ar gyfer ‘cefnogi caplaniaid a lleygwyr tlawd eraill a oedd wedi colli eu hiechyd’.

Mae tair ffenestr wreiddiol o’r 14eg ganrif i’w gweld o hyd wrth gefn y tŷ tafarn heddiw.

Mwy o wybodaeth…

Darllenwch fwy am archaeoleg yn Abertawe…Archaeolegwyr, Hynafiaethwyr ac Eifftolegwyr

Primary Sidebar

Search

Blog

  • Wythnos y Ffoaduriaid
  • Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
  • Crys-t Oxfam
  • Pennau Byfflo a Bual
  • Rhodd newydd

Footer

Connect with Us

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter

Return to top of page

Copyright © 2025 · Swansea Museum, City and County of Swansea

  • Cymraeg
  • English