• Skip to primary navigation
  • Skip to content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Swansea Museum

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • Hafan
  • Ymweld ag Amgueddfa Abertawe
    • Cychod a Llongau ar Ddangos
    • Canolfan Gasgliadau Amgueddfa Abertawe
    • Sied Dramiau
    • Cysylltu â Staff
    • Ffrindiau Amgueddfa Abertawe
  • Ein Casgliad
    • Eich Paentiadau
    • Arteffactau Eifftaidd
    • Trafnidiaeth
    • Gwrthrychau Morwrol
    • Darganfyddiadau o Abertawe a Chastell-nedd
    • Abertawe yn ystod y Rhyfel
  • Abertawe – Braslun o’i Hanes
    • Archaeoleg
    • Diwydiant
    • Y Môr
    • Trên y Mwmbwls
    • Hen dai a lleoedd
  • Digwyddiadau
    • Arddangosfeydd
    • Digwyddiadau
    • Arddangosfeydd y Gorffennol
  • Siop yr amgueddfa
  • Addysg 4Site
  • Cymraeg
    • English
You are here: Home / Ymweld ag Amgueddfa Abertawe / Cychod a Llongau ar Ddangos

Cychod a Llongau ar Ddangos

Mae gan yr amgueddfa lawer o gychod yn ei chasgliadau ac mae tri o’r rhain yn arnofio ym Marina Abertawe – goleulong yr Helwick, tynfad o’r enw Canning a llong beilot hyfryd o’r enw Olga.

Gallwch fynd ar y cychod ym misoedd Mehefin, Gorffennaf ac Awst. I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch Amgueddfa Abertawe ar 01792 653763.

Mae’r fynedfa i’r pontŵn ar Sgwâr yr Amgueddfa, yng nghefn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau – gallwch ganfod y pontŵn ar y map yma. Mae’r pontŵn yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, ond yn anffodus nid yw’r cychod yn gwbl hygyrch.

Helwick Lightship - one of Swansea Museum's floating exhibitsYr Helwick 
Treuliodd goleulong 91, a elwir yn ‘Helwick’, lawer o’i bywyd yn rhybuddio llongau am Draethell Helwick ar Fôr Hafren.

Gellir ymweld â’r rhan fwyaf o’r cwch i weld llety’r criw ac edrych ar y peiriandy a’r dec uchaf gyda’i olau hynod bwysig.

 

Tug boat Canning - one of Swansea Museum's floating exhibits

Canning
Adeiladwyd y tynfad ‘Canning’ ym 1954. Mae’n dynfad stêm sy’n llosgi olew ac roedd yn gweithio o Ddociau Abertawe o 1966.

Ar ôl iddi ymddeol, daeth yn rhan o gasgliad yr Amgueddfa ym 1975. Ni ellir mynd ar y Canning, ond gellir ei gweld yn glir o’r pontŵn ac ymyl y doc.

 


Swansea Museum's Pilot Cutter, Olga
Olga

Mae ‘Olga’ yn long beilot Môr Hafren a adeiladwyd ym 1909.

Defnyddiwyd y math hwn o long gyflym i fynd â pheilotiaid i longau mwy i’w tywys drwy ddyfroedd anodd Môr Hafren.

Primary Sidebar

Search

Oriau agor (y prif adeilad)
Ar agor dydd Mawrth – dydd Sul
Ar gau bob dydd Llun ar wahân i Wyliau Banc 10.00am – 4.30pm (mynediad olaf 4.15pm)

Mynediad am ddim

Swansea – A Photographer’s Dream
In ‘Swansea – A photographer’s Dream’ Colin Riddle’s pictures of Swansea in the 1960s represent images of a lost age, and though much of what he photographed still exists for the keen historian to seek out, much has also disappeared.

Buy your copy

Footer

Tweets by swanseamuseum

Return to top of page

Copyright © 2019 · Swansea Museum, City and County of Swansea

I’n helpu i ddarparu’r profiad pori gorau posib, mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Dewch o hyd i wybodaeth am sut gallwch reoli ac analluogi eich cwcis yma.