• Skip to primary navigation
  • Skip to content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Swansea Museum

  • Cymraeg
    • English
  • Email
  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter
  • Hafan
  • Ymweld ag Amgueddfa Abertawe
    • Trefnwch eich ymweliad am ddim
    • Cychod a Llongau ar Ddangos
    • Canolfan Gasgliadau Amgueddfa Abertawe
    • Sied Dramiau
    • Cysylltu â Staff
    • Ffrindiau Amgueddfa Abertawe
  • Ein Casgliad
    • Arweiniad Digidol Am Ddim
    • Eich Paentiadau
    • Arteffactau Eifftaidd
    • Gwrthrychau Morwrol
    • Darganfyddiadau o Abertawe a Chastell-nedd
    • Abertawe yn ystod y Rhyfel
    • Rhoi eitem i Amgueddfa Abertawe
  • Abertawe – Braslun o’i Hanes
    • Archaeoleg
    • Diwydiant
    • Y Môr
    • Trên y Mwmbwls
    • Hen dai a lleoedd
  • Digwyddiadau
    • Arddangosfeydd
    • Digwyddiadau a Gweithgareddau
    • Arddangosfeydd y Gorffennol
  • Siop yr amgueddfa
  • Dysgu
    • Ymweliadau Ysgol
    • Allgymorth Cymunedol
  • Blog
You are here: Home / Y Blitz

Y Blitz

“…dim ond rwbel oedd yno. Allwn i ddim dod o hyd i neb. Roedd y dref i gyd yn wastad.” Dyma oedd ymateb gwraig un o ddynion tân Abertawe yn dilyn y Blitz Tair Noson, 19-21 Chwefror 1941.

Er bod pobl Abertawe wedi dioddef o ganlyniad i ymosodiadau’r Luftwaffe cyn hyn, roedd y bomio parhaus am dros 72 awr yn unigryw y tu allan i Lundain.  Yn rhyfedd ddigon, roedd rhai o adeiladau hynaf Abertawe megis y castell, Amgueddfa Abertawe ac Oriel Gelf Glynn Vivian wedi goroesi, ond difethwyd canol masnachol y dref a chafodd siop fawr Ben Evans, a oedd wedi cyflenwi pawb â phopeth am fwy na hanner canrif, ei dinistrio’n llwyr.

Gollyngodd y Luftwaffe 1,273 o fomiau ffrwydron ffyrnig a 56,000 o fomiau tân a chwalodd ardal o 41 o erwau, gan ddefnyddio mapiau targed wedi’u seilio ar ffotograffau a dynnwyd yn ystod archwiliadau o’r awyr. Dinistriwyd 857 o adeiladau, a difrodwyd 11,000 o adeiladau eraill. Lladdwyd 230 o bobl ac anafwyd 409.

Doedd dim sail i’r gred bod Cymru’n rhy bell i’r gorllewin i fod o ddiddordeb i fomwyr o’r Almaen; “…pan ddaeth y rhyfel i ben, roedd ‘ugly, lovely town’ Dylan Thomas yn llanast llwyr”. (John Davies, hanesydd)

Mwy o wybodaeth…

Darllenwch fwy am Abertawe yn ystod yr Ail Ryfel Byd…

Primary Sidebar

Search

Blog

  • Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
  • Crys-t Oxfam
  • Pennau Byfflo a Bual
  • Rhodd newydd
  • Y Parch. Emma Rosalind Lee

Footer

Connect with Us

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter

Return to top of page

Copyright © 2025 · Swansea Museum, City and County of Swansea

  • Cymraeg
  • English