• Skip to primary navigation
  • Skip to content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Swansea Museum

  • Cymraeg
    • English
  • Email
  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter
  • Hafan
  • Ymweld ag Amgueddfa Abertawe
    • Trefnwch eich ymweliad am ddim
    • Cychod a Llongau ar Ddangos
    • Canolfan Gasgliadau Amgueddfa Abertawe
    • Sied Dramiau
    • Cysylltu â Staff
    • Ffrindiau Amgueddfa Abertawe
  • Ein Casgliad
    • Arweiniad Digidol Am Ddim
    • Eich Paentiadau
    • Arteffactau Eifftaidd
    • Gwrthrychau Morwrol
    • Darganfyddiadau o Abertawe a Chastell-nedd
    • Abertawe yn ystod y Rhyfel
    • Rhoi eitem i Amgueddfa Abertawe
  • Abertawe – Braslun o’i Hanes
    • Archaeoleg
    • Diwydiant
    • Y Môr
    • Trên y Mwmbwls
    • Hen dai a lleoedd
  • Digwyddiadau
    • Arddangosfeydd
    • Digwyddiadau a Gweithgareddau
    • Arddangosfeydd y Gorffennol
  • Siop yr amgueddfa
  • Dysgu
    • Ymweliadau Ysgol
    • Allgymorth Cymunedol
  • Blog
You are here: Home / Ein Casgliad / Darganfyddiadau o Abertawe a Chastell-nedd / Corgi Lotus Esprit

Corgi Lotus Esprit

Mettoy plans

Mettoy prototypeCynlluniau a phrototeipiau yw’r rhain o gar model Lotus James Bond o’r ffilm ‘The Spy Who Loved Me’ ym 1977 o Ffatri Mettoy, Abertawe. Sylwer bod gennym y teflynnau bychain coch, sef y pethau cyntaf yr oedd plant yn eu colli ar ddydd Nadolig!

Sefydlwyd cwmni Mettoy (Metal Toy) ym 1933 gan yr alltud Almaenwr Philip Ullman yn Northampton, Lloegr. Roedd am farchnata amrywiaeth o gerbydau tegan fel cystadleuaeth i gerbydau Dinky Toysmodel Meccano, a oedd wedi bod yn flaenllaw yn y farchnad Brydeinig am flynyddoedd lawer.

Cyflwynwyd Corgi Toys yn y DU ym mis Gorffennaf 1956 ac fe’u cynhyrchwyd yn Fforestfach, Abertawe am saith mlynedd ar hugain cyn i’r cwmni ddiddymu ei hun (pan oedd y cynhyrchu ar ei anterth ym 1962, roedd dros 1000 o weithwyr yn y ffatri yn Fforestfach).

Allforiwyd yr amrywiaeth ar draws y byd a gwerthwyd nifer helaeth ohonynt. Roedd rhai o’r modelau mwyaf adnabyddus a mwyaf poblogaidd yn geir a ddaeth i enwogrwydd drwy ffilmiau a rhaglenni teledu megis y Batmobile, Chitty Chitty Bang Bang ac Aston Martin DB5 James Bond – y car tegan mwyaf poblogaidd a gynhyrchwyd erioed.

Female workers at the Mettoy factory in the 1950s.

Gweithwyr benywaidd yn ffatri Mettoy yn y 1950au.

 

Primary Sidebar

Search

Blog

  • Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
  • Crys-t Oxfam
  • Pennau Byfflo a Bual
  • Rhodd newydd
  • Y Parch. Emma Rosalind Lee

Footer

Connect with Us

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter

Return to top of page

Copyright © 2025 · Swansea Museum, City and County of Swansea

  • Cymraeg
  • English