*Coronafeirws – Diweddariad i’n cwsmeriaid*
Yn unol â chyngor y llywodraeth, bydd Cyngor Abertawe’n atal llawer o wasanaethau nad ydynt yn hanfodol i helpu’r gymuned i ymladd yn erbyn coronafeirws. Mae’r rhain yn cynnwys y lleoedd hynny lle mae’r cyhoedd yn dod at ei gilydd megis amgueddfeydd ac orielau. O ganlyniad, mae Amgueddfa Abertawe ar gau dros dro.
Mwy o wybodaeth
Datgloi Abertawe – Cystadleuaeth Ffotograffiaeth
Rydym yn cynnal cystadleuaeth ffotograffiaeth i weld sut mae bywyd wedi bod yn Abertawe yn ystod y cyfyngiadau symud a nawr wrth i’r cyfyngiadau ddechrau llacio. Hoffem i chi gymryd rhan trwy gyflwyno delwedd sy’n cyfleu eich profiadau chi orau (ac efallai ennill gwobr hefyd!)

Gallai fod yn llun rydych wedi’i dynnu yn ystod y cyfyngiadau symud, neu gallai fod yn rhywbeth newydd. Gall eich delwedd gynrychioli eich bywyd gartref, neu gallai fod yn llun o rywbeth rydych wedi sylwi arno wrth i chi fynd o le i le yn ystod eich ymarfer corff dyddiol. Os ydych yn weithiwr allweddol, gallai fod yn llun o’ch siwrne i’r gwaith neu eich gweithle hyd yn oed.
Dyma gyfle i chi godi eich camera a chadw cofnod o’r eiliadau sy’n dangos sut y mae bywyd wedi newid – neu i edrych yn ôl ar y lluniau rydych chi wedi eu tynnu dros y misoedd diwethaf i weld yr hyn rydych eisoes wedi’i gofnodi.

Categorïau’r gystadleuaeth
Mae ein cystadleuaeth ar agor i bobl o bob oed ac mae tri chategori gwahanol:
· 16 oed ac iau
· 17-25 oed
· Dros 25 oed
Bydd enillydd y gystadleuaeth ’16 oed ac iau’ yn derbyn bag o roddion yr amgueddfa o’n siop roddion. Bydd enillwyr y categorïau ’17-25 oed’ a ‘Dros 25 oed yn derbyn detholiad o lyfrau a ddewiswyd yn arbennig o gornel lyfrau’r Amgueddfa.
Hefyd, bydd y ddelwedd fuddugol a’r naw nesaf at y gorau ym mhob categori yn cael eu cynnwys fel rhan o ‘Gasgliad Capsiwl Covid’ ar gyfer casgliadau Amgueddfeydd Abertawe. Byddant yn helpu cenedlaethau’r dyfodol i weld, deall a myfyrio ar sut beth oedd bywyd i bobl Abertawe yn ystod y cyfnod hwn o’n bywydau.
Caiff delweddau’r enillwyr a’r rhai nesaf at y gorau eu harddangos mewn arddangosfa dros dro yn ein Horiel Hir hefyd (dyddiadau i’w cadarnhau)
Bydd ein beirniaid yn cynnwys pobl o’r gymuned a fydd yn ein helpu i ddewis yr enillwyr.
Sut ydw i’n cyflwyno fy nelwedd?
· Dylech anfon eich delweddau ar ffurf jpeg neu TIFF
· Dylai fod yn 300dpi ac oddeutu 4000/5000 o bicseli. Os nad oes gennych gamera digidol, peidiwch â phoeni, mae’r rhan fwyaf o ffonau clyfar a thabledi’n gallu tynnu llun sy’n bodloni’r fanyleb hon hefyd!
· Gall eich delwedd fod mewn unrhyw fformat – bywyd llonydd, dogfennol, haniaethol neu arall.
· Rhaid cyflwyno’r ddelwedd ar y cyd â theitl, disgrifiad byr (uchafswm o 50 o eiriau), gyda’ch enw llawn a’ch categori oedran (16 oed ac iau, 17 – 25 oed neu dros 25 oed)
· Os ydych yn cyflwyno delwedd syn cynnwys person neu bobl, dylech gynnwys ffurflen ganiatâd wedi’i llofnodi – gallwch lawrlwytho un isod
· Anfonwch eich delwedd (a ffurflen ganiatâd os yw’n briodol) i swansea.museum@swansea.gov.uk
· Nodwch Gystadleuaeth Datgloi Abertawe fel teitl i’ch neges
· Os yw eich delwedd yn ffeil fawr, anfonwch eich delwedd atom gan ddefnyddio wetransfer
Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yw 6pm nos Fercher 30 Medi 2020. Pob lwc!
· Lawrlwytho ffurflen ganiatâd