*Coronafeirws – Diweddariad i’n cwsmeriaid*
Yn unol â chyngor y llywodraeth, bydd Cyngor Abertawe’n atal llawer o wasanaethau nad ydynt yn hanfodol i helpu’r gymuned i ymladd yn erbyn coronafeirws. Mae’r rhain yn cynnwys y lleoedd hynny lle mae’r cyhoedd yn dod at ei gilydd megis amgueddfeydd ac orielau. O ganlyniad, mae Amgueddfa Abertawe ar gau dros dro.
Mwy o wybodaeth
‘Calon Onest, Calon Lân’
Bywyd a Gwaith Daniel James
Ganwyd Daniel James ar 23 Ionawr 1848, yn un o bum plentyn a anwyd yn Nhreboeth i Daniel a Mary. Dangosodd Cyfrifiad 1861 ei fod yn gweithio yng Nglandŵr pan oedd yn 13 oed a pharhaodd i weithio fel gweithiwr llaw trwy gydol ei fywyd, gan ddarparu ar gyfer ei deulu’n rheolaidd.
Mewn cyferbyniad â’i waith fel gweithiwr llaw, dangosodd ei ochr artistig yn ei feistrolaeth
o gymhlethdodau barddoniaeth Gymraeg. Ysgrifennodd dan y ffugenw Dafydd Mynydd-bach i ddechrau, ond mae’n fwy adnabyddus fel Gwyrosydd, ei enw barddol. Cyhoeddwyd tri llyfr o’i farddoniaeth rhwng 1885 a 1898 ac un o’r cerddi enwocaf a ddaeth o’r llyfrau hyn yw Calon Lân. Mae nifer o ffynonellau’n honni ei tharddiad a gosodwyd y geiriau ar fwy nag un sgôr gerddorol. Caiff ei chysylltu â’r cerddoriaeth a gyfansoddwyd gan John Hughes (1872-1914).
Mae Calon Lân wedi dal prawf amser, a chaiff ei chanu’n aml yn ystod digwyddiadau chwaraeon a chrefyddol yng Nghymru ac ar draws y byd.
Mae’r arddangosfa hon yn dathlu bywyd a gwaith Daniel James ar ganmlwyddiant ei farwolaeth.
50 mlynedd o gerddoriaeth
(Y diwrnod olaf i weld yr arddangosfa hon yw dydd Sul, Mawrth 8fed)
Fel rhan o ddathliadau’r hanner canmlwyddiant, mae’r rhaglen CYFUNO ac Amgueddfa Abertawe’n gweithio gyda’r gymuned leol i greu arddangosfa unigryw sy’n archwilio cerddoriaeth yr 50 mlynedd diwethaf yn y ddinas. Cewch ddysgu am etifeddiaeth gerddorol Abertawe ers 1969, gan gynnwys lleoliadau, pobl bwysig, cyngherddau trawiadol a cherddorion lleol a’r rhai a fu’n ymweld â’r ddinas.
Oes gennych chi unrhyw ffotograffau, ffilmiau neu bethau cofiadwy o’r 50 mlynedd diwethaf sy’n berthnasol i fyd cerddoriaeth? Os oes, hoffem glywed gennych!! Rydym yn chwilio am ffilmiau lleol nas gwelwyd o’r blaen, rhestrau caneuon, taflenni, cylchgronau, arteffactau a ffotograffau, etc., rydych o bosib wedi’u cadw. Byddwn yn gweithio gydag Amgueddfa Abertawe a churaduron profiadol i arddangos a gwarchod unrhyw eitemau gwerthfawr.
Ymunwch â ni o ddydd Sadwrn 21 Medi.