• Skip to primary navigation
  • Skip to content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Swansea Museum

  • Cymraeg
    • English
  • Email
  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter
  • Hafan
  • Ymweld ag Amgueddfa Abertawe
    • Trefnwch eich ymweliad am ddim
    • Cychod a Llongau ar Ddangos
    • Canolfan Gasgliadau Amgueddfa Abertawe
    • Sied Dramiau
    • Cysylltu â Staff
    • Ffrindiau Amgueddfa Abertawe
  • Ein Casgliad
    • Arweiniad Digidol Am Ddim
    • Eich Paentiadau
    • Arteffactau Eifftaidd
    • Gwrthrychau Morwrol
    • Darganfyddiadau o Abertawe a Chastell-nedd
    • Abertawe yn ystod y Rhyfel
    • Rhoi eitem i Amgueddfa Abertawe
  • Abertawe – Braslun o’i Hanes
    • Archaeoleg
    • Diwydiant
    • Y Môr
    • Trên y Mwmbwls
    • Hen dai a lleoedd
  • Digwyddiadau
    • Arddangosfeydd
    • Digwyddiadau a Gweithgareddau
    • Arddangosfeydd y Gorffennol
  • Siop yr amgueddfa
  • Dysgu
    • Ymweliadau Ysgol
    • Allgymorth Cymunedol
  • Blog
You are here: Home / Blog

Blog

Tachwedd 10, 2021 by karl.morgan

Hanes Abertawe Mewn 21 Gwrthrych

Ymgais fer yw hon i gwmpasu hanes Abertawe drwy 21 gwrthrych o Gasgliad Amgueddfa Abertawe trwy flogiau byr. Nid tasg hawdd yw hon gan fod tua 50,000 o wrthrychau a ffotograffau unigol ar y gronfa ddata a chyda chryn nifer i’w hychwanegu o hyd, bydd y rhif terfynol yn fwy na 100,000. Bydd pob blog yn dechrau gyda rhagddodiad yn cychwyn gydag SM, wedi’i ddilyn fel arfer gan rif sy’n nodi’r cyfeirnod gwrthrych unigryw ar gyfer pob gwrthrych amgueddfa. Tasg eithaf anodd a fydd, heb amheuaeth, yn creu rhywfaint o ddadl, ond dyma roi cynnig arni.

Gwrthrych 1 – Fossil Tree

Cloddiwyd coeden ffosil, sy’n cael ei harddangos ar hyn o bryd yng ngardd yr amgueddfa, o Gwm Llech, ger Coelbren, Cwm Abertawe ym 1833 gan William E. Logan, daearegwr enwog.

Yn ystod ei waith darganfu ddwy goeden wedi’u ffosileiddio o dan Raeadr Henrhyd. Mae’r sbesimenau trawiadol hyn bellach yn gorwedd y tu allan i Amgueddfa Abertawe. Yn ddiweddarach daeth yn gyfarwyddwr cyntaf Arolwg Daearegol Canada ac enwir mynydd uchaf y wlad honno er anrhydedd iddo.

Mae Adroddiad Cymdeithas Athronyddol a Llenyddol Abertawe 1838, (a ddaeth yn Amgueddfa Abertawe yn ddiweddarach) yn sôn am y rhodd o’r coed ffosil:

“There have been presented to the Society two Fossil Trees of such magnitude, that until the erection of the new building is complete, it will be impossible to exhibit them. One is thirteen and a half feet long and eighteen inches in diameter, and the other four feet long by twenty-four inches in diameter. They have been left in situ: Instead of being thrown down and flattened, as such specimens usually are, they were found standing erect at right angles to the dip of the measures, with their lower extremities planted in a bed of shale immediately above a seam of Coal, which cannot be many from the lowest in the Basin, and penetrating a deposit of sandstone, consisting of several wards or layers. The two trees removed, stood close together as if springing from one root, while those remaining were not more than thirty yards from them and from one another. And as they all started from the same bed of shale, and very little of it has been exposed, it is not extravagant to imagine, that were the sides of the dell which cuts it, cleared away a whole primeval forest of these gigantic Sigillaria, standing as they grew, would be exhibited to the wondering eyes of the beholder”.

‘Ffosil Segillaria, a ddarganfuwyd yng Nghwm Llech, Dyffryn Abertawe, gan Mr Logan’. Wedi’i gadw ar dir y Sefydliad Brenhinol, Abertawe. Mae’r print yn dangos dau foncyff coeden ffosiledig sy’n dal i wreiddio yn y graig, gyda dyn â chaib wrth ei ochr. Cloddiwyd o dan oruchwyliaeth Mr De la Beche.

Mae samplau ffosil neis eraill yn cynnwys SM 1841.3.3, ffosil calamit, coeden sydd bellach wedi diflannu sydd â chysylltiad agos â choeden rhawnwydden a allai dyfu i fwy na 100 troedfedd o daldra. Mae’r mathau hyn o ffosiliau i’w cael yn aml mewn tir sy’n llawn glo. Gellir gweld y ffosil penodol hwn ar fenthyg yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Gosodwyd y gwythiennau glo, coed a ffosiliau glo eraill yn y casgliad yn y cyfnod daearegol Carbonifferaidd diweddar tua 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl pan oedd Cymru yn rhan o goedwig drofannol fawr ger y cyhydedd.

Felly pam dechrau gyda’r ffosiliau hyn? Nid oes gan darddiad Abertawe fel tref yn yr 11eg Ganrif unrhyw beth i’w wneud â daeareg. Mae lleoliad Castell Abertawe yn ymwneud â daearyddiaeth, amddiffynfa ac ailgyflenwi ar y môr os yw dan warchae. Fodd bynnag, mae gan y ddinas fodern yr ydym yn byw ynddi bopeth sy’n ymwneud â daeareg.

Mae’r ddinas rydyn ni’n byw ynddi heddiw, yr hyn ydyw, oherwydd ei bod ar gyrion maes glo.

Filed Under: 253

Hydref 13, 2021 by Ian Rees

Mis Hanes Pobl Dduon: Ralph Waldo Ellison

Ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon, bydd Amgueddfa Abertawe’n edrych yn ôl ar yr Ail Ryfel Byd. Gorsafwyd nifer o Americanwyr yn Abertawe a’r cyffiniau. Byddwn yn ystyried tri Americanwr Du a oedd yn Abertawe am gyfnod byr yn unig ond a fyddai’n dod yn hanesyddol arwyddocaol.

Ralph Waldo Ellison (1913 – 1994)

Ym 1953, enillodd Ralph Ellison Wobr Lyfrau Genedlaethol yr Unol Daleithiau am ffuglen ar gyfer ei nofel, Invisible Man, un o’r testunau allweddol yn niwylliant Affricanaidd Americanaidd.  Mae’r llyfr yn ymwneud ag estroneiddiad bod yn ddyn Du yn America ar ôl y rhyfel.

Cafodd ei eni ym 1913 yn Oklahoma. Ym 1933 fe’i derbyniwyd i’r Sefydliad Tuskegee mawr ei fri, y brifysgol i bobl Dduon a sefydlwyd gan Booker T. Washington, yr enw a roddwyd i’r llong rhyddid yr oedd High Mulzac yn gapten arni.

Ym 1936 symudodd i Efrog Newydd a bu’n byw yn YCMA Harlem ar 135th Street, canolfan y Diwylliant Affricanaidd Americanaidd yn ystod y cyfnod hwn.

Gorsafwyd Ralph Ellison yn Abertawe yn ystod yr Ail Ryfel Byd.  Ac yntau’n gogydd gyda’r llynges fasnachol, bu’n gwasanaethu ar sawl llong rhyddid a oedd yn cyflenwi troedle Normandi a’r frwydr ddilynol dros Ewrop. 

Ysgrifennodd Ellison dair stori fer wedi’u lleoli yn Abertawe yn ystod 1944, sef In a Strange Country, The Red Cross at Morriston Hospital ac A Storm of Blizzard Proportions.  Ni chyhoeddwyd y ddwy olaf fyth ond mae In a Strange Country yn ymddangos yn y llyfr Flying Home and Other Stories, a gyhoeddwyd ym 1998.

Mae rhai academyddion yn credu y gall fod y syniad ar gyfer The Invisible Man  yn tarddu o In a Strange Country. Yn y stori fer (sydd o bosib yn seiliedig ar ddigwyddiad go iawn yn Abertawe), mae’r cymeriad o’r enw Parker, sy’n Ddu, yn dod i’r lan yn Abertawe ac yn fuan ar ôl hynny mae tri milwr gwyn o’r Unol Daleithiau’n ymosod arno.  Mae Parker yn cael ei achub gan bobl leol, sy’n mynd ag ef i glwb lle mae côr yn ymarfer. Mae’r côr yn canu Anthem Genedlaethol Cymru, Anthem Genedlaethol Prydain, yr Internationale a chan fod gwestai Americanaidd yn bresennol, The Star Spangled Banner.

Mae Parker yn llawn gwrthddywediadau emosiynol, yn enwedig pan maent yn canu The Star Spangled Banner – mae e’n ddyn Du sy’n ymladd dros ei wlad ond yn cael ei drin fel dinesydd eilradd, y mae’n debygol na fyddai ganddo hawl i ymweld â chlwb aelodau tebyg yn ôl yn yr Unol Daleithiau.

Mae’r stori fer yn archwilio rhai o’r themâu a’i helpodd i ennill Gwobr Llyfrau Cenedlaethol yr Unol Daleithiau gydag Invisible Man yn ddiweddarach.

Cafodd Ralph Ellison ei dderbyn yn y pen draw i’r Academi Celfyddydau a Llythyrau Americanaidd a derbyniodd ddwy Wobr Lywyddol, un gan Lyndon Johnson ac un gan Ronald Reagan.

Bu farw Ralph Ellison ym 1994 yn 81 oed

I gael rhagor o wybodaeth am Ralph Ellison, mae pennod ragorol yn Black Skin, Blue Books –  African Americans in Wales 1845 – 1945.   Gan Daniel G Williams, Prifysgol Abertawe. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru. 2012

Ôl-nodyn

Wrth chwilio am luniau i’w postio gyda’r blogiau hyn, roeddwn yn ymwybodol bod gan yr amgueddfa ffotograffau a dynnwyd gan Great Western o longau a chyflenwadau’n cyrraedd dociau Abertawe o’r Unol Daleithiau.

Wrth edrych ar y ddau albwm, des i o hyd i luniau o grombil cargo’r Sun Yat Sen. Mae’r testun gyda’r ffotograffau’n esbonio bod y llong i fod i deithio i Lerpwl ond cafodd ei dargyfeirio i Abertawe. Roedd y cargo’n cynnwys 1,520 tunnell o ddur, 278 o gerbydau, 100 o fadau glanio a 4,927 tunnell o danwydd awyrennau mewn barilau. Mae’n ymddangos bod y barilau o danwydd wedi’u difrodi yn ystod yr hediad. Dyna oedd y rheswm dros y dargyfeiriad, sef gwneud trefniadau arbennig ar gyfer ymdrin â’r tanwydd awyrennau yn Abertawe.

Wrth chwilio am Great Western, sylweddolais hefyd fod gan yr amgueddfa lyfr sy’n nodi’r holl laniadau ac ymadawiadau rhwng 1940 a 1945. Roedd y Sun Yat Sen yn rhan o osgorddlynges HX 273 a chyrhaeddodd Abertawe ar 16 Ionawr 1944. Gadawodd ar 5 Chwefror i hwylio i Belfast er mwyn ymuno â gosgorddlynges ON 203, a oedd yn dychwelyd i Efrog Newydd.

Mae ffynonellau blaenorol yn awgrymu bod Ralph Ellison yn hwylio yn nôl ac ymlaen rhwng Abertawe a’r Unol Daleithiau’n rheolaidd. Mae ffynonellau’n nodi ei fod wedi gwasanaethu ar fwy nag un llong rhyddid, ond enwyd ei long gyntaf, y Sun Yat Sen, yn unig. Glaniodd y llong hon yn Abertawe unwaith yn unig. Byddai Ralph Ellison wedi bod yno am un diwrnod ar hugain, ac wrth gwrs, dyma fyddai ei brofiad cyntaf mewn gwlad arall. Fodd bynnag, pe na ddifrodwyd y tanwydd awyrennau, byddai Ralph Ellison wedi glanio yn Lerpwl a byddai wedi aros am gyfnod byrrach o lawer.

Wrth edrych drwy oddeutu 10,000 o gofnodion o longau’n glanio ac yn gadael Dociau Abertawe ym 1944 a 1945, sylwais hefyd ar rai llongau gyda’r enw Parker. Defnyddiodd Ellison yr enw Parker ar gyfer ei gymeriad yn y stori. Cafodd yr USS Parker, distrywlong ar ddyletswydd gosgordd fel rhan o osgorddlynges yr Iwerydd ym 1943 ac ar ddechrau 1944, a llong rhyddid Theodore Parker, eu henwi ar ôl yr ymgyrchydd diddymwyr enwog a ddyfynnwyd gan Abraham Lincoln a Martin Luther King yn hwyrach. Nid oedd y llongau hyn yn rhan o osgorddlyngesau HX 273 neu ON 203. Dim ond dyfalu ydw i, ond tybed a oedd y llongau hyn yn rhan o osdorddlynges arall gyda’r Sun Yat Sen ac mai dyna’r rheswm dros enw’r cymeriad?

Phil Treseder
Swyddog Dysgu a Chyfranogiad

Filed Under: Blog (Cy)

Hydref 13, 2021 by Ian Rees

Mis Hanes Pobl Dduon: Y Parchedig Edward Gonzalez Carroll

Ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon, bydd Amgueddfa Abertawe’n edrych yn ôl ar yr Ail Ryfel Byd. Gorsafwyd nifer o Americanwyr yn Abertawe a’r cyffiniau. Byddwn yn ystyried tri Americanwr Du a oedd yn Abertawe am gyfnod byr yn unig ond a fyddai’n dod yn hanesyddol arwyddocaol.

Y Parchedig Edward Gonzalez Carroll (1910 – 2000)

Roedd y Parchedig Carroll yn raddedig o Brifysgol Columbia ac Ysgol Divinity Iâl.

Cafodd Carrol ei orsafu yn Abertawe gyda Lluoedd Arfog yr Unol Daleithiau yn y cyfnod cyn D-Day.  Roedd Carroll yn Gaplan i’r 95ain Catrawd y Peirianwyr, Catrawd Ddu yn Abertawe a oedd yn rhan o 5ed Brigâd Arbennig y Peirianwyr yr oedd ei phencadlys ym Mhenllergaer. Ni chafodd y Parch Carroll ei alw i wasanaethu, fe’i gwirfoddolodd, yn rhannol oherwydd ei bryderon am wahaniaethu ym Myddin yr Unol Daleithiau.

Roedd Byddin yr UD wedi’i gwahanu hyd at 1948.  Roedd dynion y 95ain Catrawd i gyd yn ddu, gyda 52 o swyddogion yr oeddent i gyd yn wyn ar wahân i Gapten Carroll. Cyn cyrraedd Prydain, cynorthwyon nhw i adeiladu’r Briffordd Alasgaidd a oedd 1600 milltir o hyd ac ar dir anodd. Er ei fod yn swyddog, ni chaniatawyd i Gapten Carroll fwyta yn ystafell fwyta’r swyddogion ac felly roedd yn bwyta ar ei ben ei hun.  Yn dilyn cwynion gan rai o’r milwyr, gorchmynnwyd i weddill y swyddogion ganiatáu i Gapten Carroll fwyta gyda nhw.

Roedd gwahanu yn yr Unol Daleithiau yn gyffredin ar y pryd gyda llawer o fariau, caffis, sinemâu a gwestai’n cadw’r gwynion a’r rheini nad oeddent yn wyn ar wahân. Roedd Byddin yr Unol Daleithiau am i Lywodraeth Prydain wahanu milwyr yr Unol Daleithiau yma, fel y gallai rhai milwyr Du ymweld â thafarndai a chaffis penodol yn unig, ond gwrthododd y llywodraeth gan ddweud bod croeso i bob milwr Americanaidd ym Mhrydain.

Felly, gadawyd i Fyddin yr Unol Daleithiau benderfynu ar ei threfniadau ei hun ar gyfer gwahanu. Mewn rhai ardaloedd yn Lloegr roedd absenoldeb yn cael ei gylchdroi fel na fyddai pobl gwyn a du yn yr un tafarndai lleol ar yr un pryd.  Er gwaethaf fy ymdrechion, nid wyf wedi llwyddo i ddod o hyd i unrhyw drefniadau gwahanu a weithredwyd gan Fyddin yr Unol Daleithiau ar gyfer Abertawe.

Daeth gwahanu yn yr Unol Daleithiau i ben o’r diwedd yn dilyn ymgyrch lwyddiannus hir gan y Mudiad Hawliau Sifil. Arweiniwyd y symudiad hwn yn y 1950/60au gan Martin Luther King, a lofruddiwyd ym 1968.

Cymerodd Martin Luther King rywfaint o ysbrydoliaeth o’r mudiad annibyniaeth yn India a arweiniwyd gan Ghandi, a oedd yn dadlau dros wrthdystiadau di-drais. Cyfarfu’r Parch. Edward Carroll a phregethwr Du arall, Howard Thurman â Ghandi am y tro cyntaf yn India ym 1935, i drafod y Mudiad Hawliau Sifil yn UDA. Noddwyd y daith gan YMCA yr Unol Daleithiau.

Yn hwyrach, byddai Howard Thurman yn dod yn Gaplan ac yn athro Disgyblaeth ac Adnoddau Ysbrydol ym Mhrifysgol Boston, lle’r astudiodd Martin Luther King Jnr.  Daeth Thurman yn ffrind i’r teulu ac anogodd King i fabwysiadu dull di-drais o wrthdystio.

Yn dilyn y rhyfel, bu Carroll yn llywyddu dros rai eglwysi yn Efrog Newydd cyn symud i Baltimore. Arhosodd mewn cysylltiad â’r YMCA, a daeth yn Ysgrifennydd Cyswllt yr YMCA Cenedlaethol i Fyfyrwyr.

Ym 1972 fe’i hetholwyd yn Esgob yr Eglwys Fethodistaidd Unedig a bu farw yn y flwyddyn 2000.

Filed Under: Blog (Cy)

Hydref 13, 2021 by Ian Rees

Mis Hanes Pobl Dduon: Hugh Nathaniel Mulzac (1886 – 1971)

Ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon, bydd Amgueddfa Abertawe’n edrych yn ôl ar yr Ail Ryfel Byd. Gorsafwyd nifer o Americanwyr yn Abertawe a’r cyffiniau. Byddwn yn ystyried tri Americanwr Du a oedd yn Abertawe am gyfnod byr yn unig ond a fyddai’n dod yn hanesyddol arwyddocaol.

Hugh Nathaniel Mulzac (1886 – 1971)

Hugh Mulzac oedd yr Americanwr Affricanaidd cyntaf i dderbyn Tystysgrif Capten yr Unol Daleithiau. Dyma’r cymhwyster sydd ei angen i fod yn gapten llong.

Ganed Hugh Mulzac ar Ynys St Vincent a’r Grenadines, India’r Gorllewin ym 1886.

Yn dilyn yr ysgol uwchradd, dechreuodd weithio ar longau masnachol Prydeinig ac yna fe’i hanfonwyd i’r Coleg Hyfforddi Morwrol yma yn Abertawe, lle enillodd ei dystysgrif Mêt.  Ym 1918 ymfudodd i’r Unol Daleithiau lle cwblhaodd ei gymhwyster fel Capten. I ddechrau, bu’n gwasanaethu fel swyddog ar yr SS Yarmouth, un o longau Black Star Line.

Sefydlwyd Black Star Line gan Marcus Carvey ym 1919. Roedd Marcus Carvey hefyd yn arwain Y Gymdeithas Fyd-eang er budd Dyrchafu Negroaid.  Y nod oedd darparu swyddi nad oeddent yn ecsbloetio’r duon.

Am ryw reswm, cwerylodd Mulzac â Marcus Carvey a gadawodd ym 1922. Oherwydd gwahaniaethu ar sail hil, yr unig waith y gallai ddod o hyd iddo oedd swydd stiward, er gwaethaf ei sgiliau, ei gymwysterau a’i brofiad. Parhaodd y sefyllfa hon am yr ugain mlynedd nesaf.

Fodd bynnag, ym 1942 cynigiwyd rheolaeth y llong rhyddid, SS Booker T. Washington iddo, y llong rhyddid gyntaf i’w henwi ar ôl Americanwr Affricanaidd. Roedd Booker T. Washington yn addysgwr, yn areithydd ac yn gynghorydd nodedig i nifer o Arlywyddion yr UD.

Roedd Mulzac yn ddyn o egwyddor.  Pan gynigiodd Comisiwn Morol yr Unol Daleithiau’r Gapteiniaeth iddo, gwrthododd i ddechrau gan fod y criw yn un lle gwahanwyd y duon a’r gwynion. Dywedodd ar y pryd na fyddai dan unrhyw amgylchiadau’n rheoli “Jim Crow”. (Term bratiaith ar gyfer cyfreithiau gwahanu’r Unol Daleithiau yw “Jim Crow”).   Ildiodd Comisiwn Morol yr Unol Daleithiau, a Mulzac oedd y capten du cyntaf i arwain criw integredig.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cludodd yr SS Booker T. Washington 18,000 o filwyr a chyflenwadau i Ewrop.  Mae’n debygol y byddai Mulzac, ar ryw adeg, wedi ymweld ag Abertawe unwaith eto gan ei bod yn un o’r porthladdoedd allweddol ar gyfer mewnforio cyflenwadau o’r Unol Daleithiau a chyflenwi troedle Normandi.

Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, cafodd Mulzac drafferth unwaith eto yn ceisio sicrhau swydd yn rheoli llong fasnachol breifat. Nid yn unig oherwydd gwahaniaethu ond hefyd yn rhannol oherwydd ei wleidyddiaeth. Ymunodd Mulzac â Phlaid Lafur America, a safodd drosti hefyd – roedd yn blaid yr oedd llawer o Americanwyr yn ei hystyried yn sefydliad comiwnyddol. Yn ystod anterth y Rhyfel Oer a chyfnod McCarthy, cafodd ei gosbrestru. Dirymwyd ei bapurau a’i drwyddedau llongwr hefyd gan Lywodraeth yr UD. Aeth Mulzac â’r Llywodraeth i’r llys ac o’r diwedd cafodd ei drwyddedau’n ôl ym 1960.

Byddai un o’i ferched hefyd yn ymgymryd â gwleidyddiaeth. Una Mulzac oedd sylfaenydd siop lyfrau flaenllaw yn Harlem sy’n gwerthu llyfrau sy’n ymwneud â gwleidyddiaeth a Grym y Duon.

Bu farw Hugh Mulzac yn Efrog Newydd ym 1971, yn 84 oed.

Filed Under: Blog (Cy)

  • « Previous Page
  • Page 1
  • …
  • Page 3
  • Page 4
  • Page 5

Primary Sidebar

Search

Blog

  • Wythnos y Ffoaduriaid
  • Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
  • Crys-t Oxfam
  • Pennau Byfflo a Bual
  • Rhodd newydd

Footer

Connect with Us

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter

Return to top of page

Copyright © 2025 · Swansea Museum, City and County of Swansea

  • Cymraeg
  • English