• Skip to primary navigation
  • Skip to content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Swansea Museum

  • Cymraeg
    • English
  • Email
  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter
  • Hafan
  • Ymweld ag Amgueddfa Abertawe
    • Trefnwch eich ymweliad am ddim
    • Cychod a Llongau ar Ddangos
    • Canolfan Gasgliadau Amgueddfa Abertawe
    • Sied Dramiau
    • Cysylltu â Staff
    • Ffrindiau Amgueddfa Abertawe
  • Ein Casgliad
    • Arweiniad Digidol Am Ddim
    • Eich Paentiadau
    • Arteffactau Eifftaidd
    • Gwrthrychau Morwrol
    • Darganfyddiadau o Abertawe a Chastell-nedd
    • Abertawe yn ystod y Rhyfel
    • Rhoi eitem i Amgueddfa Abertawe
  • Abertawe – Braslun o’i Hanes
    • Archaeoleg
    • Diwydiant
    • Y Môr
    • Trên y Mwmbwls
    • Hen dai a lleoedd
  • Digwyddiadau
    • Arddangosfeydd
    • Digwyddiadau a Gweithgareddau
    • Arddangosfeydd y Gorffennol
  • Siop yr amgueddfa
  • Dysgu
    • Ymweliadau Ysgol
    • Allgymorth Cymunedol
  • Blog
You are here: Home / Blog

Blog

Ebrill 5, 2022 by karl.morgan

Llyfr Llofnodion

Casgliad Amgueddfa Abertawe

Llyfr, inc ar bapur, clawr lledr gwyrdd tywyll gyda’r gair ‘Album’ mewn llythrennau aur. Llyfr llofnodion o’r Ail Ryfel Byd a oedd yn perthyn i Esther Florence Davies (a elwir yn ‘Hettie’) a fu’n gweithio fel nyrs ‘VAD’ (Uned Wirfoddol a Gynorthwyir). Pan ddechreuodd hi wirfoddoli nyrsio, byddai’n bwydo ac yn golchi’r cleifion, ac yn y pen draw ddaeth yn gogydd yn y gegin gydag 88fed Uned Ysbyty’r Groes Goch yn adeilad yr YMCA, St Helens Road, Abertawe yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf o 1916-1919. Mae’r arysgrif ar y dudalen flaen yn darllen ‘Esther Florence Davies, Llwyn Helyg, (Sketty) Swansea, 1916.’ Yn yr albwm llofnodion bach hwn mae ‘Hettie’ wedi casglu negeseuon, cerddi a darluniau gan y milwyr a oedd yn ysbyty YMCA Abertawe. Ar dudalen gyntaf y llyfr mae cerdd a ysgrifennwyd â llaw gan ‘Hettie’, sef ‘My Song’, sy’n ymwneud â’i chariad at ganu. Ysgrifennodd ei merch, y rhoddwr, ‘Roedd gan fy mam lais contralto gwych a byddai’n canu i’r milwyr fel rhan o gôr. Byddai hyn yn esbonio’r dudalen gyntaf yn yr albwm.’

Rhoddwyd y llyfr llofnodion i’r amgueddfa’n weddol ddiweddar ac mae ymchwil i’r rheini a’i llofnododd yn parhau.

Erbyn mis Mai 1917 roedd y Groes Goch wedi meddiannu’r adeilad cyfan. Roedd YMCA Abertawe’n ymwneud ag amrywiaeth o rolau cymorth fel darparu ffreuturau i filwyr, yn gyntaf yn yr adeilad ac yna o Eglwys St Andrews.  Roedd ffreuturau hefyd yn Noc y Brenin a Gorsaf y Stryd Fawr ar gyfer milwyr a oedd ar daith.  Fel pob YMCA, y brif rôl oedd cefnogi milwyr rheng flaen drwy ddarparu cytiau YMCA yn agos at y rheng flaen. Byddai arian yn cael ei godi a’i anfon at y corff cenedlaethol i’w ddosbarthu.

Roedd nifer hefyd yn gwirfoddoli yn yr ysbytai.  Roedd Uned Gynorthwyol y Menywod YMCA Abertawe yn cymryd rhan weithredol ym mhob un o’r uchod. Roeddent hefyd yn cymryd rhan weithredol wrth ddarparu cymorth yn y gwahanol ysbytai yn Abertawe gan gynnwys trefnu adloniant. Mae’n bosib bod Esther, os nad aelod, yn ferch i aelod o’r uned gynorthwyol neu rywun arall a oedd yn ymwneud â’r YMCA.

Mae nifer o gleifion wedi llofnodi’r llyfr. Mae rhai wedi llofnodi gyda manylion byr yn unig fel rhif a chatrawd, ac mae eraill wedi cynnwys cerddi a darluniau.

Mae enghraifft ar dudalen saith o’r albwm yn dangos bod milwr a anafwyd wedi ysgrifennu ei enw, ei rif, ei reng a’i gatrawd, sef Preifat J. Coleshill, 14684, 8fed, Catrawd Dwyrain Surrey

.

Mae’n ysgrifennu ei fod wedi anafu ei ysgwydd chwith drwy ymladd ger Montauban, 1 Gorffennaf, 1916. Mae’r dudalen wedi’i dyddio ‘1 Ionawr 1917, YMCA.’

Anafwyd y Preifat Coleshill ar ddiwrnod cyntaf Brwydr y Somme, Gogledd Ffrainc.

Gall fod yn anodd meddwl am nifer y bobl a anafwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Collodd y Fyddin Brydeinig ychydig dan 20,000, a laddwyd ar 1 Gorffennaf 1916, diwrnod cyntaf Brwydr y Somme. Mae 20,000 gyfwerth â Stadiwm Liberty llawn.  Roedd Preifat Coleshill yn un o’r 40,000 a anafwyd ar 1 Gorffennaf.

Byddai Brwydr y Somme yn parhau am sawl mis. Byddai Adran Cymru, gan gynnwys Bataliwn Abertawe, yn ymuno â’r frwydr sawl diwrnod yn ddiweddarach gan geisio meddiannu Coed Mametz, unwaith eto gyda nifer trwm o anafusion.

Byddai rhai o’r rheini a anafwyd ac a gafodd eu trin yn ysbyty’r YMCA wedi cael eu rhyddhau, ond mae’n debyg eu bod wedi dychwelyd i ddyletswydd weithredol.  Felly, mae’n anochel y byddai rhai’n gwneud yr aberth eithaf yn ddiweddarach.

Llofnododd Preifat Alexander John Bean o Dofr y llyfr ar 15 Rhagfyr 1916, gan nodi “cefais fy anafu ar 1 Medi 1916 yn Delville Wood, 3ydd Bataliwn, y Buffs”

Bu farw yn 20 oed yn Passchendaele ym mis Hydref 1917.

Llofnododd y Cloddiwr, William Darlington 145640, “212 Field Coy Royal Engineers, wedi fy anafu yn y clun chwith yn High Wood ar y Somme”.

Mae’r ffurflen Anafusion yn dangos ei fod wedi cael ei dderbyn i Ysbyty’r Groes Goch, Abertawe ar 23 Awst 1916 a’i ryddhau ar 23 Tachwedd 1916.  Cafodd ei ladd ar 24 Tachwedd 1917.

Mae rhai o’r cofnodion yn llawer mwy manwl ac yn cynnwys cerddi a brasluniau.

Ysgrifennodd Preifat Burton o’r Corfflu Drylliau Peiriannol, “Wedi fy anafu am y 4ydd tro ar y Somme, 25 Mawrth 1918. Gyda phob dymuniad da i Nyrs Davies”, ynghyd â braslun o aderyn a’r gerdd ganlynol.

The Gunner smiled as his breachblock closed,

His arm was steady, his grip was tight;

The Gunner smiled, and his face beamed bright

In the twilight flush of an autumn night.

Silent columns of moving men

Moved to a point in a neighbouring glen,

And the Gunner smiled.

The Gunner smiled as his gun spoke loud,

With deafening crash and darkening cloud;

The Gunner smiled as the darkness fell,

Smiled at the wreck of shot and shell.

The Gunner smiled with firm fixed eye

In the field of death, where brave men die.

Then he sank down slowly beside his gun,

And smiled, though his cause was nearly run;

Though his heart beat faint in his wounded breast,

The Gunner smiled as he went Out West.

Llofnododd Preifat J C Dennehy o Awstralia ei enw ynghyd â’r gerdd fer ganlynol.

“Here’s to corn beef when your hungry

Whisky when your dry

Five pounds when busted

Heaven when you die”

Lladdwyd Preifat Dennehy hefyd bum mis yn ddiweddarach ym mis Hydref 1916.

Filed Under: Blog (Cy)

Ebrill 5, 2022 by karl.morgan

Llun – YMCA, Ysbyty’r Groes Goch

Casgliad Amgueddfa Abertawe

Llun a cherdyn post du a gwyn yn dangos golygfa fewnol o un o’r wardiau yn YMCA newydd Abertawe, tua 1918. Mae nyrsys a chleifion i’w gweld yn glir. Print papur gelatin.

Mae’r llun yn dangos y gampfa, (Dojo erbyn hyn) sydd uwchben Theatr Neuadd Llewelyn.  Agorodd yr adeilad newydd ym mis Hydref 1913 ac o fewn blwyddyn dechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae nifer o luniau o gleifion a nyrsys yn yr ysbyty, a dynnwyd gan Chapman, ffotograffydd y Stryd Fawr. Mae’n ymddangos bod rhai o’i ferched yn wirfoddolwyr y Groes Goch a bod ei fab, a oedd yn gwasanaethu yn y fyddin, yn aelod o’r YMCA.

Mae’r llyfr ardderchog Swansea in the Great War gan Bernard Lewis yn cynnwys pennod fanwl ar y ddarpariaeth feddygol yn Abertawe ac mae’n cynnwys ffotograff arall gan Chapman o’r staff a’r cleifion ar do yr adeilad.

Yn dilyn cychwyniad y rhyfel, dechreuodd Is-adran y Groes Goch Abertawe chwilio am lety addas i’w droi’n ysbytai.  Yn gynnar yn y cyfnod chwilio ym mis Hydref 1914, edrychwyd ar Neuadd Eglwys Sgeti a Neuadd Llewelyn (theatr y YMCA).

Roedd yr anafiadau trwm a ddioddefwyd gan Fyddin Ymgyrchol Prydain ym misoedd cynnar y rhyfel wedi cyflymu’r ymdrechion i ddod o hyd i eiddo addas gan y byddai angen ysbytai yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Roedd hefyd yn dod yn amlwg y byddai angen mwy na thair Uned Wirfoddol a Gynorthwyir y Groes Goch (VAD).

Roedd VAD 88 yn Neuadd Llewellyn, a derbyniwyd y cleifion cyntaf ar 3 Rhagfyr 1914.  Gyda nifer cynyddol o anafusion, agorwyd Parc Wern hefyd ym 1915.

Parhaodd y Groes Goch i chwilio am adeilad sengl addas wrth i nifer yr anafusion gynyddu.  Yn y cyfamser, gosodwyd deg gwely arall yn yr YMCA.

Penodwyd pwyllgor arbennig i ystyried awgrym gan Mrs Elswoth o’r Groes Goch y gellid rhedeg ysbyty o wyth deg o welyau pe bai’r YMCA cyfan yn cael ei feddiannu.  Fodd bynnag, gan fod Parc Wern wedi agor yn ddiweddar, rhoddwyd y prosiect i feddiannu’r YMCA cyfan i’r ochr. 

Fodd bynnag, erbyn dechrau 1917, heb unrhyw ddiwedd ar y rhyfel mewn golwg, penderfynwyd meddiannu’r adeilad yn gyfan gwbl.  Ym mis Mai 1917 roedd yr ysbyty’n gwbl barod gyda 140 o welyau. Flwyddyn yn ddiweddarach roedd wedi derbyn cyfanswm o 658 o gleifion o’i gymharu â 308 yn y ddwy flynedd flaenorol.

Symudodd yr YMCA allan o’r adeilad ac i lawr St Helen’s Road i Eglwys St Andrews, sef Mosg Abertawe heddiw.

Yn ystod y 4 blynedd yr oedd ar agor, triniwyd 1443 o gleifion yno.  Roedd hyn yn cynnwys 32 o oroeswyr y llong ysbyty Rewa, a gyrhaeddodd Abertawe ar ôl cael ei thorpido ym Môr Hafren.

Un o’r nyrsys a oedd yn gweithio yn ysbyty’r YMCA oedd Mary Morgan, Corfield gynt. Cynhaliwyd cyfweliad hanes llafar gyda hi yn y 1980au ac mae’r tâp yn rhan o Gasgliad Amgueddfa Abertawe (cyfweliad hanes llafar SM 1991.11.1.)

Mae’n disgrifio sut y gwnaeth yr YMCA chware rôl gymorth bwysig yn ystod y rhyfel, gan roi bwyd a diod i filwyr yn ogystal â phapur ac amlenni ar gyfer ysgrifennu. Hyfforddodd fel nyrs ac yna aeth i weithio yn yr YMCA, lle’r oedd y sifftiau rhwng 6am a 2pm ac yna 6pm tan 10pm. Trosglwyddwyd y rhan fwyaf o’r anafusion ar y môr i Gaerdydd ac yna i Abertawe. Cofiodd Mary fod cleifion yn cyrraedd gydag anafiadau ofnadwy. Er gwaethaf gweld yr holl anafiadau ofnadwy, roedd Mary’n mwynhau gweithio fel nyrs a byddai wedi bod wrth ei bodd yn dilyn gyrfa nyrsio.  Fodd bynnag, rhoddodd ei thad ddiwedd ar ei gyrfa nyrsio cyn gynted ag y daeth y rhyfel i ben.

Ni ddefnyddiwyd Ysbyty’r YMCA i ofalu am y clwyfedig ar draed neu at ddibenion gwellhad. Mae’n eithaf rhyfeddol felly mai dim ond un cofnod sydd o glaf yn marw yno.  Mae ail anafedig a fu farw yn anhysbys, ond roedd yn ddyn lleol ac felly’n cael mynd adref.  Y claf a fu farw yn yr ysbyty oedd yr Is-gorpral Gordon Rankin Inglis, dyn o Awstralia a anafwyd yn Gallipoli.

Ar ddiwedd mis Mawrth 1919, caewyd yr ysbyty a rhoddwyd yr adeilad yn ôl i’r YMCA.  Nid oedd yn ddiwedd ar y berthynas gan fod y Groes Goch yn rhentu ystafell glwb yn yr adeilad, mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol y Nyrsys (RCN).  Parhaodd y trefniant hwn tan ganol y 1930au, pan gwnaethant rentu ystafell yn 122 Walter Road oherwydd y trefniadau gwresogi anfoddhaol yn yr YMCA.

Filed Under: Blog (Cy)

Ebrill 5, 2022 by karl.morgan

Allwedd Cloc YMCA

Casgliad Amgueddfa Abertawe

Allwedd cyflwyno addurnol, arian. Arysgrif – presented to the Mayor of Swansea Alderman T. T. Corker JP Feb 3rd 1914.  On the occasion of the starting of the YMCA clock.  The gift of Messrs Webber and Sons Ltd. Blwch gwreiddiol wedi’i orchuddio â bwcram a’i leinio â melfed.

Roedd yr YMCA yn Herbert Place o 1870 nes iddo symud i safle mwy yn Dynevor Place ym 1882.  Fodd bynnag, erbyn 1908 roedd angen adeilad mwy unwaith eto.

Ym 1911, prynwyd Gwesty Longland, a arferai fod yn breswylfa i’r teulu morgludiant Bath. Y syniad cychwynnol oedd trawsnewid yr adeilad, ond ar ryw adeg newidiodd y cynllun a phenderfynwyd ei fwrw i lawr ac adeiladu’r adeilad YMCA a welwn heddiw.

Dechreuwyd ymgyrch codi arian ym 1911 lle byddai aelodau’r YMCA yn ceisio cael ernesau gan bobl dda Abertawe am y gost amcangyfrifedig o £12,000 ar gyfer yr adeilad newydd dros gyfnod o ddeng niwrnod, ac roeddent yn llwyddiannus. Ceir erthygl fanwl am yr ymgyrch yn Swansea History Journal, 2014 cyfrol 21.

Agorodd yr adeilad, dyddiedig 1912 ar y rhagfur, ym mis Hydref 1913. Costiodd £20,000, gan gynnwys y gwaith ailwampio.

Y pensaer a benodwyd oedd Glendinning Moxham, a oedd hefyd yn bensaer Oriel Gelf Glyn Vivian.

Roedd dyluniad yr adeilad yn cynnwys cyfres gymhleth o bwyntiau mynediad a grisiau er mwyn i rannau o’r adeilad gael eu rhannu a’u rhwystro, gan gynnwys yr hostel ar y llawr uchaf a Neuadd Llewelyn ar Page Street.

Mae Adolygiad Cenedlaethol yr YMCA ar gyfer 1913 yn cynnwys y disgrifiad canlynol a ffotograff o’r adeilad heb y cloc.

“Ar y llawr cyntaf mae’r swyddfeydd cyffredinol a phreifat ar gyfer y staff ysgrifenyddol. Mae’r neuadd gyhoeddus fawr yn darparu seddi i bum cant o bobl gyda rhagystafelloedd etc.  Neuadd gymdeithasol fawr ac ystafelloedd gemau, biliards a bwyta.

Mae’r ail lawr wedi’i neilltuo i’r ystafelloedd dosbarth a’r llyfrgell, y ceginau ac annedd y gofalwr.

Ar y trydydd llawr mae’r gampfa etc. deunaw ystafell wely, ystafelloedd baddon a thoiledau.

Mae’r to yn wastad ac mae’n cynnig golygfa helaeth dros y dref a’r gymdogaeth gyfagos a bydd yn ategiad defnyddiol i’r adeilad.

Un broblem i’w hwynebu gyda dyluniad yr adeilad oedd cadw pob adran ar wahân ac yn amlwg, ac ar yr un pryd sicrhau bod mynediad i bob adran arall.

Oherwydd hyn roedd angen mynedfeydd a grisiau lluosog, a oedd yn cymryd lle gwerthfawr.  Mae’r adeilad cyfan wedi’i adeiladu o ddeunyddiau gwrthsefyll tân, a gwnaed yr holl loriau o haearn a choncrit. Mae’r trefniadau glanweithdra’n gyfoes ac o safon. Mae’r cyfarpar gwresogi ar gyfer dŵr gwasgedd isel, ac mae trydan yn goleuo’r adeilad cyfan. Dewiswyd masnachwyr lleol i wneud y gwaith cymaint â phosib.”

Nid oedd y cloc yn rhan o’r cynllun gwreiddiol ond fe’i hychwanegwyd yn ddiweddarach.  Fodd bynnag, ar gyfer cloc o’r maint hwnnw mae angen hyd sylweddol ar gyfer pwysau’r cloc, ac ni roddwyd ystyriaeth i hyn.

Mae cofnod hanes llafar sydd ar gael yn yr amgueddfa (SM 1990.11.8) yn digwydd bod gan fab y pen-gweithiwr a adeiladodd yr YMCA, ac mae’n ymwneud â’r stori a ddywedodd ei dad wrtho.

“Yn ddiweddarach mewn bywyd daeth e’n (ei dad) ddyn eithaf pwysig yn y fasnach adeiladu. Bu’n Glerc Gwaith ar gyfer Oriel Gelf Glyn Vivian. Bu’n goruchwylio’r gwaith o adeiladu’r oriel ac ar un adeg cawsom y cynlluniau adeiladu gwreiddiol, ond fe’u collwyd.

Roedd hefyd yn Glerc Gwaith adeilad yr YMCA, Neuadd Llewellyn, ar waelod Page Street. Arferai dweud yr hanes enwog fod cloc mawr ar gornel uchaf yr adeilad, yn uchel i fyny ar y llawr cyntaf, sy’n dal i fod yno ar y gornel sy’n wynebu St Helen’s Road. A gwnaeth y pensaer ddylunio’r cloc i fynd yn y wal hon ond anghofiodd fod yn rhaid i’r cloc gael pwysau a phendil, anghofiodd bopeth am hynny! Pan wnaethon nhw osod y cloc doedd unman i adael i’r pwysau hongian i lawr oherwydd yn syth islaw’r cloc roedd y ‘Neuadd Fach’ ac nid oedd modd cael pwysau’n gostwng drwy ganol y neuadd, felly roedd yn rhaid iddyn nhw wneud dwythell arbennig gyda phwlïau a phethau i ddargyfeirio’r pwysau o’r cloc o gwmpas gwahanol gorneli i’w cadw nhw i ffwrdd o’r Neuadd! Hyd heddiw, os ydych chi’n edrych i fyny ar y nenfwd fe welwch ddwythell siâp rhyfedd yn mynd ar draws y nenfwd”.

Ar ôl archwilio’r tŵr cloc yn ofalus, nid yw’r esboniad y mae’n ei roi yn gwneud synnwyr i ddechrau.  Fodd bynnag, yn dilyn archwiliad manylach, mae’n ymddangos nad yw’r cwndid mewn bocs sy’n rhedeg i lawr y tu mewn i weddlun Page Street, drwy swyddfa bresennol y Prif Weithredwyr ac ystafell gyfarfod 10 ar y llawr isod, yn cuddio trydan a phibellau dŵr fel y byddech wedi’i ddisgwyl, ond pwysau’r cloc.

Filed Under: Blog (Cy)

Ebrill 5, 2022 by karl.morgan

Blogiau YMCA

Phil Treseder yw’r Swyddog Dysgu a Chyfranogiad yn Amgueddfa Abertawe ac mae hefyd yn Ymddiriedolwr YMCA Abertawe.

Ar hyn o bryd mae’n ymchwilio i hanes YMCA Abertawe, ac mae’r blogiau hyn yn tynnu sylw at wrthrychau yng nghasgliad Amgueddfa Abertawe sy’n gysylltiedig â’r YMCA, ynghyd ag ambell un o Archifau Gorllewin Morgannwg

Bydd yr un ar ddeg o flogiau’n gweithredu fel cynllun peilot ar gyfer cyfres bosib o flogiau ar yr YMCA a’r deunydd hanes ac archif sylweddol sy’n perthyn i’r YMCA, ac yn darparu hanes cymdeithasol diddorol o Abertawe. Gobeithio y byddant yn cael eu cyflwyno yn ddiweddarach yn 2022.

Bydd pob blog yn dechrau gyda chyfeiriad at y casgliad a disgrifiad o’r gwrthrych neu’r ddogfen fel y mae’n ymddangos yn yr amgueddfa neu ar y cofnod archif.

Catalog Llyfrgell yr YMCA – 1900

Casgliad Llyfrgell Amgueddfa Abertawe

Mae’r llyfryn A6 bach yn bedair tudalen ar hugain o hyd, gyda thair tudalen arall o hysbysebion. Mae’n rhestru’r 699 o lyfrau a oedd ar gael yn llyfrgell fenthyca YMCA Abertawe yn y flwyddyn 1900.  Ar yr adeg hon, roedd yr YMCA yn Dynevor Place, cyn ei symud i’r YMCA a adeiladwyd at y diben ar Ffordd y Brenin, a agorodd ym mis Hydref 1913. Mae’r catalog wedi’i rannu’n saith adran gan gynnwys diwinyddiaeth, bywgraffiad, hanes, ffuglen, barddoniaeth, morio a theithio ac amrywiol.

Yn y 19eg Ganrif gwelwyd cynnydd sylweddol mewn addysg a dysgu.  Agorodd Llyfrgell Gyhoeddus Abertawe ym 1887 ar Alexandra Road yn dilyn Deffet Francis yn rhoddi casgliad sylweddol o lyfrau.

Cyn hyn, defnyddiwyd llyfrgelloedd tanysgrifio i fenthyca llyfrau.  Ym 1815 roedd chwe llyfrgell danysgrifiad yn Abertawe.

Byddai’r llyfrgell a’r ystafelloedd darllen mwyaf mawreddog yn Abertawe yn agor ym 1841, yn Sefydliad Brenhinol De Cymru (RISW), sef Amgueddfa Abertawe bellach.

Ym 1835 ffurfiwyd Cymdeithas Athronyddol a Llenyddol Abertawe, a enillodd Siarter Frenhinol yn fuan wedi hynny i ddod yn Sefydliad Brenhinol De Cymru. Ym 1841 agorwyd yr adeilad.  Roedd yr ardal i lawr y grisiau yn cynnwys darlithfa, llyfrgell gyfeirio a llyfrgell ac ystafell ddarllen. Swyddfeydd staff yw’r llyfrgell gyfeirio ar hyn o bryd, ac roedd y brif lyfrgell ac ystafell ddarllen yn y brif oriel arddangos bresennol. 

Mae’r ddelwedd hon o brif ystafell ddarllen Sefydliad Brenhinol De Cymru o ddechrau’r 20fed ganrif ac ar hyn o bryd, dyma’r oriel lle caiff y casgliad hanes naturiol ei arddangos.

Byddai llyfrgell ac ystafelloedd darllen gwreiddiol YMCA Abertawe wedi bod yn debyg ond mae’n siŵr eu bod yn llai, yn llai mawreddog ac yn cynnwys llai o lyfrau.  Yn anffodus, nid ydym yn ymwybodol o unrhyw ffotograff sydd wedi goroesi.

Sefydlwyd YMCA Abertawe ym 1868 (neu gellid dadlau ym 1857, i’w drafod mewn blog yn y dyfodol).  Y prif nod ar y pryd fyddai dargyfeirio dynion ifanc i ffwrdd o demtasiynau tref Abertawe, fel tafarnau, theatrau a phuteindai, tuag at Gristnogaeth ac achubiaeth drwy Iesu Grist.  Mae adroddiad yr heddlu ar gyfer Abertawe ym 1888 er enghraifft yn cofnodi bod naw puteindy a chwe deg pump o buteiniaid yn y dref.

Y prif ddull fyddai darparu llyfrgell ac ystafell ddarllen. Heddiw mae’r rhan fwyaf o staff YMCA Abertawe yn weithwyr Ieuenctid a Chymunedol, felly efallai y bydd yn syndod i chi mai’r swydd staff â thâl gyntaf a hysbysebwyd ym Mhapur Newydd y Cambrian oedd llyfrgellydd ym 1872, gyda chyflog o £20 y flwyddyn.

Disgrifir agoriad ffurfiol yr Ystafelloedd Darllen yn fanwl ym mhapur newydd y Cambrian ar 19 Awst 1870.  Yn yr erthygl, nodir eu bod ar gornel Dillwyn Street a Herbert Place.

Mae’r adroddiad yn eu disgrifio fel a ganlyn;

‘Agorwyd yr ystafelloedd darllen a’r clwb newyddion deniadol a chyfforddus iawn a adeiladwyd gan Mr. Henry Jack, perchennog brwdfrydig yr YMCA, yn ffurfiol nos Lun diwethaf.  Mae’r brif ystafell yn gallu lletya tua 200 neu 250 o aelodau mewn argyfwng, ac mae’n foethus yn ogystal â chyfforddus.  Drwy holl led y brif ystafell mae bwrdd darllen mahogani enfawr ac mae’r cadeiriau esmwyth cyfforddus a’r seddi wedi’u gorchuddio â melfed cyfoethog.  Gwnaed y lle tân o farmor caboledig ac mae’r gratiau’n cain o ran dyluniad’.

Roedd yr adroddiad hefyd yn dyfynnu’r Maer John Jones Jenkins, Ysw. yn datgan;

“Nid oedd lle i ddynion ifanc y dref ymgynnull gyda’i gilydd at ddibenion hamdden a gwella meddyliol. Yr unig ystafell a fodolai oedd y Sefydliad Brenhinol (Amgueddfa Abertawe)… ac roedd y ffioedd braidd yn uwch na’r hyn y gallai’r bobl ifanc fforddio ei dalu”.

Mae’r papur newydd yn cofnodi’r papurau newydd a’r cyfnodolion canlynol y tanysgrifiwyd iddynt ar gyfer yr ystafelloedd darllen.  Ymysg y papurau cenedlaethol mae The Times, Standard, Telegraph, Pall Mall, Punch and Judy.  Mae papurau lleol yn cynnwys y Cambrian, Western Mail, Herald a Journal.  Mae’r cyfnodolion yn cynnwys Sunday magazine, Good Words, Christian Observer, Christian World, Leisure Hour, Edinburgh Quarterly review a’r  English Mechanic.

Cyfanswm yr incwm yr oedd ei angen ar gyfer yr ystafelloedd darllen y flwyddyn oedd rhent o £40, £20 mewn trethi, £25 i dalu llyfrgellydd, £15 am y golau, y gwres a’r glanhau a £25 am danysgrifiadau.

Yn anffodus, nid wyf wedi gallu olrhain ffotograff o’r llyfrgell a’r ystafelloedd darllen gwreiddiol.  Roedd nodi’r adeilad yr oedd yr ystafelloedd wedi’u lleoli ynddo yn her ynddo’i hun.  Roedd y cyfeiriad a ddisgrifiwyd neu a roddwyd yn amrywio rhwng Herbert Place, St Helens Road a chyffordd Dillwyn St a St Helens Road. Herbert Place oedd y lôn a oedd yn rhedeg i’r chwith gyntaf oddi ar St Helens Road, ac yn dod i ben y tu ôl i hen adeilad Peter Allen Estate Agents. Yn amlwg, roedd yn y bloc adeiladau sydd gyferbyn ag adeilad presennol yr YMCA.

Fodd bynnag, yn ddiweddar daeth taflen ddwy dudalen o 1968, yn dathlu’i 100fed pen-blwydd, i’r amlwg gyda ffotograff o’r lleoliad.  Roedd adeilad y llyfrgell a’r ystafelloedd darllen gwreiddiol yn uniongyrchol gyferbyn, ac mae yno o hyd.  Roedd ar y llawr uchaf uwchben siopau Subway a Lifestyle Express.

Mae’n ymddangos bod YMCA Abertawe yn y 1870au wedi cael trafferthion i ddechrau. Mae ymchwil yn parhau o hyd, ond mae’n ymddangos nad oedd nodau’r sylfaenwyr yn cyfateb i nodau ac anghenion y dynion ifanc. Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod pwyllgor rheoli newydd wedi datrys y sefyllfa erbyn canol y 1870au.  Erbyn diwedd y degawd roeddent yn chwilio am adeilad newydd a mwy, a daethant o hyd i hen adeilad y Coleg yn Dynevor Place ym 1882.  Roedd gan y safle newydd neuadd, campfa, lolfa ac wrth gwrs y llyfrgell a’r ystafell ddarllen. Adroddir am agoriad ffurfiol yr adeilad newydd gan y maer yn y Cambrian ar 2 Chwefror 1883.

Mewn cylchlythyr YMCA ar gyfer 1884, ‘The Record‘, ceir disgrifiad o’r adeilad newydd fel a ganlyn:

“Mae croeso mawr i ddynion ifanc ymweld â’r YMCA yn Dynevor Place sy’n ffinio â phen taith y tramffordd, Gower Street.  Ar agor rhwng 9.30am a 10.30pm.  Mae’r adeilad cyfforddus yn cynnwys:

Ystafell ddarllen olau, llachar a dymunol, wedi’i llenwi’n dda â phapurau newydd, cylchgronau a chadeiriau cyfforddus. Llyfrgell benthyca, gyda llyfrau ar fywgraffiad, ffuglen, hanes, barddoniaeth, teithio ac astudiaethau’r Beibl.

Ystafell eistedd glyd a chyfforddus gyda phiano, harmoniwm, byrddau ysgrifennu, gwyddbwyll a drafftiau.

Ystafell Bagatelle

Ystafell Ping-pong

Swyddfa’r Ysgrifennydd, lle gellir gweld rhestrau o letyau a fflatiau.  Gellir dod o hyd i lythyrau cyflwyno i bob rhan o’r byd.

Ystafell Baddon yr Aelodau, gyda dŵr poeth ac oer a baddon â chawod.

Campfa fawr â digon o gyfarpar a chawodydd poeth ac oer, baddonau, ystafell wisgo a loceri.

Cynhelir digwyddiadau cymdeithasol, darlithoedd etc. o bryd i’w gilydd.  Dechreuodd cymdeithas lenyddol a dadlau fis diwethaf”.

Byddai’r llyfrgell a’r ystafell ddarllen yn parhau i fod yn nodwedd yn yr adeilad presennol ar Ffordd y Brenin a agorwyd ym 1913.  Mae ymchwil yn parhau i ganfod dyddiad cau’r llyfrgell a’r ystafell ddarllen, ond roedd yn dal i fod yn nodwedd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Filed Under: Blog (Cy)

Chwefror 9, 2022 by karl.morgan

Gwrthrych 2 – Dannedd Llwynog

Cloddiwyd y ddau ddant llwynog (vulpes vulpes) o Ogof Paviland ger Port Eynon. Mae’r dannedd yn dyddio o’r oes Paleolithig ac mae tyllau wedi’u turio ynddynt, y pwrpas mwyaf tebygol i ffurfio mwclis. Cafwyd hyd i’r dannedd llwynog yn ogof Paviland ar y Gŵyr.

Y dystiolaeth gynharaf o weithgaredd dynol yng Nghymru yw dannedd Neanderthalaidd o Ogof Pontnewydd yng Ngogledd Cymru ac maent oddeutu 250,000 mlwydd oed. O’r pwynt hwnnw hyd yn hyn byddai gweithgaredd dynol wedi mynd a dod mewn tonnau wrth i’r hinsawdd amrywio ac am gyfnodau hir byddai Cymru o dan lenni iâ ac yn amhreswyliadwy.

Yn 1823 daeth archeolegydd o Rydychen, y Parch. William Buckland o hyd i sgerbwd ac amryw olion mamaliaid eraill yn yr ogof. Ei draethawd ymchwil oedd bod esgyrn amrywiol anifeiliaid diflanedig ac esgyrn anifeiliaid sydd bellach wedi’u cyfyngu i Affrica yn dystiolaeth o’r stori Beiblaidd llifogydd Noa. Daeth y sgerbwd yn adnabyddus fel Arglwyddes Goch Paviland. Nododd Buckland fod y sgerbwd yn fenywaidd oherwydd iddo gael ei gladdu â mwclis ac o’r cyfnod Rhufeinig oherwydd yn ôl meddwl diwinyddol ar y pryd, nid oedd y ddaear yn hŷn na thua 6500 oed. Roedd Buckland yn anghywir ar y ddau gyfrif. Gwrywaidd oedd y sgerbwd ac oddeutu 32,000 oed.

Hwn yw’r gladdedigaeth ddefodol hynaf a ddarganfuwyd yn Ewrop o hyd. Gosodwyd gwrthrychau ar y corff, gan gynnwys pen ac ocr mamoth, mwyn a oedd, dros amser, yn staenio’r esgyrn yn goch, a dyna’r enw Arglwyddes Goch. Ni fyddai Ogof Paviland ar yr adeg hon wedi bod yn edrych dros y môr. Byddai wedi edrych dros dwndra glaswelltog a byddai’r môr oddeutu hanner can milltir i ffwrdd. Casglwyr helwyr oedd y bodau dynol cynnar hyn, a oedd wedi symud allan o Affrica a dod i mewn i Ewrop tua 45,000 o flynyddoedd yn ôl.

Yn ddiweddarach byddai Oes yr Iâ yn eu gorfodi i encilio, ynghyd â rhywogaethau mamaliaid amrywiol. Roedd Ogof Paviland hefyd yn cynnwys gweddillion mamaliaid amrywiol gan gynnwys gweddillion hyena ac eliffant ynghyd ag amryw o rywogaethau diflanedig gan gynnwys rhinoseros gwlanog a mamoth er enghraifft SM 1836.6.21. Dant mamoth a gloddiwyd ym 1823 a charbon wedi’i ddyddio i oddeutu 41,000 mlwydd oed.

Ni wyddom beth yr oedd y newydd-ddyfodiaid hyn yng Nghymru yn credu ynddo ond mae claddedigaeth ddefodol yn dynodi rhyw fath o ddiwylliant a chred.

Dechreuodd yr enciliad olaf o rew tua 10,000 BCE a daeth yr hyn yr ydym yn ei gydnabod fel arfordir Cymru i’r amlwg tua 6,000 BCE. Erbyn tua 3000 BCE roedd yr hinsawdd oddeutu 2.5 canradd yn uwch na heddiw.

Ym 1903 darganfuwyd y Dyn Cheddar, y sgerbwd cyflawn hynaf a ddarganfuwyd ar Ynysoedd Prydain. Dyddiwyd y gweddillion drwy radiocarbon i oddeutu 10,000 BCE, 20,000 mlynedd yn ddiweddarach na’r ‘Arglwyddes Goch’.

Tybiwyd, ar ôl dod i mewn i Ewrop tua 45,000 o flynyddoedd yn ôl, y byddai bodau dynol wedi addasu croen gwelw yn gyflym er mwyn caniatáu amsugno fitamin D yn well. Nid yw’n ymddangos bod hynny’n wir, mae DNA a dynnwyd o sgerbwd y Dyn Cheddar yn dangos bod y marcwyr genetig ar gyfer pigmentiad croen yn gysylltiedig ag Affrica Is Saharaidd.

Fel y Dyn Cheddar, nid oedd Arglwyddes Goch Paviland yn goch ac mae’n debyg nad oedd yn Gawcasaidd chwaith.

Dechreuodd hanes du ar Ynysoedd Prydain ymhell cyn i’r Empire Windrush gyrraedd ym 1948.

Filed Under: Uncategorized @cy

Tachwedd 10, 2021 by karl.morgan

Hanes Abertawe Mewn 21 Gwrthrych

Ymgais fer yw hon i gwmpasu hanes Abertawe drwy 21 gwrthrych o Gasgliad Amgueddfa Abertawe trwy flogiau byr. Nid tasg hawdd yw hon gan fod tua 50,000 o wrthrychau a ffotograffau unigol ar y gronfa ddata a chyda chryn nifer i’w hychwanegu o hyd, bydd y rhif terfynol yn fwy na 100,000. Bydd pob blog yn dechrau gyda rhagddodiad yn cychwyn gydag SM, wedi’i ddilyn fel arfer gan rif sy’n nodi’r cyfeirnod gwrthrych unigryw ar gyfer pob gwrthrych amgueddfa. Tasg eithaf anodd a fydd, heb amheuaeth, yn creu rhywfaint o ddadl, ond dyma roi cynnig arni.

Gwrthrych 1 – Fossil Tree

Cloddiwyd coeden ffosil, sy’n cael ei harddangos ar hyn o bryd yng ngardd yr amgueddfa, o Gwm Llech, ger Coelbren, Cwm Abertawe ym 1833 gan William E. Logan, daearegwr enwog.

Yn ystod ei waith darganfu ddwy goeden wedi’u ffosileiddio o dan Raeadr Henrhyd. Mae’r sbesimenau trawiadol hyn bellach yn gorwedd y tu allan i Amgueddfa Abertawe. Yn ddiweddarach daeth yn gyfarwyddwr cyntaf Arolwg Daearegol Canada ac enwir mynydd uchaf y wlad honno er anrhydedd iddo.

Mae Adroddiad Cymdeithas Athronyddol a Llenyddol Abertawe 1838, (a ddaeth yn Amgueddfa Abertawe yn ddiweddarach) yn sôn am y rhodd o’r coed ffosil:

“There have been presented to the Society two Fossil Trees of such magnitude, that until the erection of the new building is complete, it will be impossible to exhibit them. One is thirteen and a half feet long and eighteen inches in diameter, and the other four feet long by twenty-four inches in diameter. They have been left in situ: Instead of being thrown down and flattened, as such specimens usually are, they were found standing erect at right angles to the dip of the measures, with their lower extremities planted in a bed of shale immediately above a seam of Coal, which cannot be many from the lowest in the Basin, and penetrating a deposit of sandstone, consisting of several wards or layers. The two trees removed, stood close together as if springing from one root, while those remaining were not more than thirty yards from them and from one another. And as they all started from the same bed of shale, and very little of it has been exposed, it is not extravagant to imagine, that were the sides of the dell which cuts it, cleared away a whole primeval forest of these gigantic Sigillaria, standing as they grew, would be exhibited to the wondering eyes of the beholder”.

‘Ffosil Segillaria, a ddarganfuwyd yng Nghwm Llech, Dyffryn Abertawe, gan Mr Logan’. Wedi’i gadw ar dir y Sefydliad Brenhinol, Abertawe. Mae’r print yn dangos dau foncyff coeden ffosiledig sy’n dal i wreiddio yn y graig, gyda dyn â chaib wrth ei ochr. Cloddiwyd o dan oruchwyliaeth Mr De la Beche.

Mae samplau ffosil neis eraill yn cynnwys SM 1841.3.3, ffosil calamit, coeden sydd bellach wedi diflannu sydd â chysylltiad agos â choeden rhawnwydden a allai dyfu i fwy na 100 troedfedd o daldra. Mae’r mathau hyn o ffosiliau i’w cael yn aml mewn tir sy’n llawn glo. Gellir gweld y ffosil penodol hwn ar fenthyg yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Gosodwyd y gwythiennau glo, coed a ffosiliau glo eraill yn y casgliad yn y cyfnod daearegol Carbonifferaidd diweddar tua 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl pan oedd Cymru yn rhan o goedwig drofannol fawr ger y cyhydedd.

Felly pam dechrau gyda’r ffosiliau hyn? Nid oes gan darddiad Abertawe fel tref yn yr 11eg Ganrif unrhyw beth i’w wneud â daeareg. Mae lleoliad Castell Abertawe yn ymwneud â daearyddiaeth, amddiffynfa ac ailgyflenwi ar y môr os yw dan warchae. Fodd bynnag, mae gan y ddinas fodern yr ydym yn byw ynddi bopeth sy’n ymwneud â daeareg.

Mae’r ddinas rydyn ni’n byw ynddi heddiw, yr hyn ydyw, oherwydd ei bod ar gyrion maes glo.

Filed Under: 253

  • « Previous Page
  • Page 1
  • Page 2
  • Page 3
  • Page 4
  • Page 5
  • Next Page »

Primary Sidebar

Search

Blog

  • Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
  • Crys-t Oxfam
  • Pennau Byfflo a Bual
  • Rhodd newydd
  • Y Parch. Emma Rosalind Lee

Footer

Connect with Us

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter

Return to top of page

Copyright © 2025 · Swansea Museum, City and County of Swansea

  • Cymraeg
  • English