• Skip to primary navigation
  • Skip to content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Swansea Museum

  • Cymraeg
    • English (English)
  • Email
  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter
  • Hafan
  • Ymweld ag Amgueddfa Abertawe
    • Trefnwch eich ymweliad am ddim
    • Cychod a Llongau ar Ddangos
    • Canolfan Gasgliadau Amgueddfa Abertawe
    • Sied Dramiau
    • Cysylltu â Staff
    • Ffrindiau Amgueddfa Abertawe
  • Ein Casgliad
    • Eich Paentiadau
    • Arteffactau Eifftaidd
    • Trafnidiaeth
    • Gwrthrychau Morwrol
    • Darganfyddiadau o Abertawe a Chastell-nedd
    • Abertawe yn ystod y Rhyfel
    • Rhoi eitem i Amgueddfa Abertawe
  • Abertawe – Braslun o’i Hanes
    • Archaeoleg
    • Diwydiant
    • Y Môr
    • Trên y Mwmbwls
    • Hen dai a lleoedd
  • Digwyddiadau
    • Arddangosfeydd
    • Digwyddiadau
    • Arddangosfeydd y Gorffennol
  • Siop yr amgueddfa
  • Dysgu
    • Ymweliadau Ysgol
    • Allgymorth Cymunedol
  • Blog
You are here: Home / Abertawe – Braslun o’i Hanes / Y Môr / Jac Abertawe

Jac Abertawe

A plaque to commemorate Swansea Jack, a dog who rescued many people

Adargi du a aned ym 1930 oedd Jac Abertawe.Roedd yn byw yn ardal Doc y Gogledd/Afon Tawe yn Abertawe gyda’i feistr, William Thomas.

Byddai Jac bob amser yn ymateb i alwadau am help o’r dŵr. Wnaeth neb adrodd am ei achubiaeth gyntaf, ym mis Mehefin 1931, pan achubodd fachgen 12 oed. Ond ychydig o wythnosau’n ddiweddarach, o flaen torf, achubodd Jac nofiwr o’r dociau. Roedd ei ffotograff wedi ymddangos yn y papur newydd lleol a rhoddodd y cyngor lleol wobr ar ffurf coler arian iddo.

Daeth sawl gwobr wedyn gan gynnwys ‘Ci Dewraf y Flwyddyn’ a chwpan arian.Fe yw’r unig gi a gafodd DDWY fedel efydd (VC y byd cŵn) gan y Gynghrair Genedlaethol Amddiffyn Cŵn.Yn ôl y chwedl, achubodd Jac 27 o bobl yn ystod ei oes. Yn drist, ym 1937, bu farw ar ôl bwyta gwenwyn llygod mawr.

Saif ei gofeb, a godwyd gydag arian cyhoeddus, ar y promenâd ger maes rygbi San Helen. Yn 2000, enillodd Jac Abertawe deitl ‘Ci’r Ganrif’ gan Newfound Friends o Fryste sy’n hyfforddi technegau achub mewn dŵr i gŵn domestig.

Mae’n bosibl mai Jac a ysbrydolodd y llysenw Saesneg am bobl leol y dref – Jacs Abertawe.

 

Mwy o wybodaeth…

Darganfod mwy am hanes Abertawe…

Primary Sidebar

Search

yn ôl ar y trywydd iawn

Mae’r Sied Dramiau bellach ar agor ar ddydd Mercher a dydd Sadwrn o 11am tan 4pm.

Mwy o wybodaeth

Blog

  • `The Record’
  • YMCA Jubilee Campaign Poster 1919
  • Board Game, to raise awareness of issues facing Young Carers
  • Dyddiadur Carcharor Rhyfel
  • Llun – Blitz Abertawe
Swansea – A Photographer’s Dream
Yn ‘Swansea - A Photographer’s Dream’, mae ffotograffau Colin Riddle o Abertawe yn y 1960au’n cynrychioli delweddau o oes sydd bellach wedi diflannu.

Prynwch eich copi

Tweets by swanseamuseum

Footer

Connect with Us

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter

City and County of Swansea

Return to top of page

Copyright © 2022 · Swansea Museum, City and County of Swansea

  • enEnglish (English)
  • cyCymraeg