• Skip to primary navigation
  • Skip to content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Swansea Museum

  • Cymraeg
    • English
  • Email
  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter
  • Hafan
  • Ymweld ag Amgueddfa Abertawe
    • Trefnwch eich ymweliad am ddim
    • Cychod a Llongau ar Ddangos
    • Canolfan Gasgliadau Amgueddfa Abertawe
    • Sied Dramiau
    • Cysylltu â Staff
    • Ffrindiau Amgueddfa Abertawe
  • Ein Casgliad
    • Arweiniad Digidol Am Ddim
    • Eich Paentiadau
    • Arteffactau Eifftaidd
    • Gwrthrychau Morwrol
    • Darganfyddiadau o Abertawe a Chastell-nedd
    • Abertawe yn ystod y Rhyfel
    • Rhoi eitem i Amgueddfa Abertawe
  • Abertawe – Braslun o’i Hanes
    • Archaeoleg
    • Diwydiant
    • Y Môr
    • Trên y Mwmbwls
    • Hen dai a lleoedd
  • Digwyddiadau
    • Arddangosfeydd
    • Digwyddiadau a Gweithgareddau
    • Arddangosfeydd y Gorffennol
  • Siop yr amgueddfa
  • Dysgu
    • Ymweliadau Ysgol
    • Allgymorth Cymunedol
  • Blog
You are here: Home / Abertawe – Braslun o’i Hanes / Hen dai a lleoedd / Parc Wern

Parc Wern

Bathing Machines - Thomas BaxterNid oes llofnod na dyddiad ar y dyfrlliw hwn, ond mae ganddo deitl sydd i’w weld yn ysgrifen Baxter ar y cefn.

Adeiladwyd Parc Wern ym 1799-1800. Mae arweinlyfr ar Abertawe a gyhoeddwyd ym 1823 yn cyfeirio at ‘Park Wern, built in a castellated form, the residence of F[rederick] Hickey, Esq., a captain in the Royal Navy’.  Roedd Capten Hickey, ffrind i’r teulu Dillwyn, yn byw yn y tŷ o 1817 tan 1840.

Roedd William Henry Smith yn denant yn 1842. Ym 1843, gadawodd Lewis Llewelyn Dillwyn a’i wraig, Elizabeth de la Beche, Burrows Lodge i fyw ym Mharc Wern. Ganwyd eu trydydd plentyn, yr enwog Amy Dillwyn, yno ym 1845. Ym 1853, symudodd y teulu Dillwyn i’w cartref newydd yn Hendrefoelan.

Henry Hussey Vivian oedd preswylydd nesaf y tŷ ger Lôn Brynmill, a bu’n byw ym Mharc Wern tan 1886 pan symudodd y teulu i Abaty Singleton pan fu farw ei fam.

Dychwelodd perchnogaeth Parc Wern i William Graham Vivian, ond roedd yntau eisoes wedi sefydlu cartref yng Nghastell Woodlands, felly bu Parc Wern yn wag am chwe blynedd ar hugain nes i Graham farw ym 1912.

Roedd Parc Wern yn cael ei ddefnyddio fel ysbyty milwrol nes iddo gael ei brynu gan ŵr busnes o Abertawe, Roger Beck, ym 1920, ar ran awdurdod ysbyty’r dref, a daeth yr adeilad yn ysgol hyfforddi nyrsys ym 1922, dan yr enw newydd, Parc Beck. Mae’r adeilad bellach wedi’i newid yn fflatiau moethus.

Primary Sidebar

Search

Blog

  • Wythnos y Ffoaduriaid
  • Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
  • Crys-t Oxfam
  • Pennau Byfflo a Bual
  • Rhodd newydd

Footer

Connect with Us

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter

Return to top of page

Copyright © 2025 · Swansea Museum, City and County of Swansea

  • Cymraeg
  • English