• Skip to primary navigation
  • Skip to content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Swansea Museum

  • Cymraeg
    • English
  • Email
  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter
  • Hafan
  • Ymweld ag Amgueddfa Abertawe
    • Trefnwch eich ymweliad am ddim
    • Cychod a Llongau ar Ddangos
    • Canolfan Gasgliadau Amgueddfa Abertawe
    • Sied Dramiau
    • Cysylltu â Staff
    • Ffrindiau Amgueddfa Abertawe
  • Ein Casgliad
    • Arweiniad Digidol Am Ddim
    • Eich Paentiadau
    • Arteffactau Eifftaidd
    • Gwrthrychau Morwrol
    • Darganfyddiadau o Abertawe a Chastell-nedd
    • Abertawe yn ystod y Rhyfel
    • Rhoi eitem i Amgueddfa Abertawe
  • Abertawe – Braslun o’i Hanes
    • Archaeoleg
    • Diwydiant
    • Y Môr
    • Trên y Mwmbwls
    • Hen dai a lleoedd
  • Digwyddiadau
    • Arddangosfeydd
    • Digwyddiadau a Gweithgareddau
    • Arddangosfeydd y Gorffennol
  • Siop yr amgueddfa
  • Dysgu
    • Ymweliadau Ysgol
    • Allgymorth Cymunedol
  • Blog
You are here: Home / Abertawe a’r Chwyldro Diwydiannol – Copropolis

Abertawe a’r Chwyldro Diwydiannol – Copropolis

Cyflwyniad

Ym 1700 roedd Abertawe’n dref farchnad fach ac roedd arweinwyr Abertawe’n ystyried twristiaeth fel dyfodol y dref.  Erbyn 1860 roedd poblogaeth Abertawe wedi cynyddu o tua 2,000 ym 1700 i bron 100,000 erbyn 1900 a chafodd y llysenw “Copropolis”.  Beth oedd yr amgylchiadau a arweiniodd at y newid dramatig hwn a beth oedd y canlyniadau ar gyfer y dref, y bobl ac amgylchedd Abertawe. 

Bydd y sesiwn yn archwilio sut y daeth Cymru i fod y wlad gyntaf yn y byd i brofi’r Chwyldro Diwydiannol.

Efallai y bydd ysgolion am archwilio’r opsiwn o drefnu taith ar y Copper Jack sy’n cysylltu’n dda â’r thema hon.

Mae disgyblion yn aml yn gyfarwydd â’r Parc Menter, B&Q, Morrisons, Stadiwm Liberty a’r Marina. Yn yr union faes hwn oedd y diwydiannau a fagwyd o’r 1700au ac a drawsnewidiodd gymdeithas yn ystod y 19eg ganrif.

 Roedd yr hyn a ddigwyddodd yn Abertawe a Chymru’r un mor bwysig â dyfeisiadau tecstilau Gogledd Lloegr. Roedd copr a thunplat yn yr ardal hon yr un mor bwysig â haearn ym Merthyr a glo yn y Rhondda. 

Copper Jack

Gall ysgolion sydd wedi trefnu taith ar y Copper Jack gadw lle ar sesiynau dilynol ar yr un diwrnod ar thema Abertawe a’r Chwyldro Diwydiannol os yw’r ystafell addysg ar gael.

Lefel Cynnydd 3

Ystod oedran darged – Blwyddyn 4 i 6

Hyd y sesiwn – 2 awr

Maes Dysgu:

Dyniaethau

Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig: 

Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio’n annog chwilfrydedd ynghylch y byd, ei orffennol, y presennol a’r dyfodol. 

Mae digwyddiadau a phrofiadau pobl yn gymhleth ac maent yn cael eu hystyried, eu dehongli a’u portreadu mewn ffyrdd gwahanol. 

Mae ein byd naturiol yn amrywiol ac yn ddynamig, ac mae prosesau a gweithredoedd dynol yn dylanwadu arno.

Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, a chânt eu siapio gan weithredoedd a chredoau dynol.

Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn ymgysylltu â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu bodau dynol, ac maent yn gallu ymateb mewn ffordd ystyriol a moesegol.

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagweld ffenomena.

Mae meddylfryd dylunio a pheirianneg yn cynnig ffyrdd technegol a chreadigol o ddiwallu anghenion a dymuniadau cymdeithas.

Mae’r byd o’n cwmpas yn llawn pethau byw sy’n dibynnu ar ei gilydd er mwyn goroesi.

Sgiliau Trawsgwricwlaidd:

Creadigrwydd a Blaengaredd

Meddwl yn feirniadol a datrys problemau

Cam Cynnydd 3

Primary Sidebar

Search

Blog

  • Wythnos y Ffoaduriaid
  • Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
  • Crys-t Oxfam
  • Pennau Byfflo a Bual
  • Rhodd newydd

Footer

Connect with Us

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter

Return to top of page

Copyright © 2025 · Swansea Museum, City and County of Swansea

  • Cymraeg
  • English