• Skip to primary navigation
  • Skip to content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Swansea Museum

  • Cymraeg
    • English
  • Email
  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter
  • Hafan
  • Ymweld ag Amgueddfa Abertawe
    • Trefnwch eich ymweliad am ddim
    • Cychod a Llongau ar Ddangos
    • Canolfan Gasgliadau Amgueddfa Abertawe
    • Sied Dramiau
    • Cysylltu â Staff
    • Ffrindiau Amgueddfa Abertawe
  • Ein Casgliad
    • Arweiniad Digidol Am Ddim
    • Eich Paentiadau
    • Arteffactau Eifftaidd
    • Gwrthrychau Morwrol
    • Darganfyddiadau o Abertawe a Chastell-nedd
    • Abertawe yn ystod y Rhyfel
    • Rhoi eitem i Amgueddfa Abertawe
  • Abertawe – Braslun o’i Hanes
    • Archaeoleg
    • Diwydiant
    • Y Môr
    • Trên y Mwmbwls
    • Hen dai a lleoedd
  • Digwyddiadau
    • Arddangosfeydd
    • Digwyddiadau a Gweithgareddau
    • Arddangosfeydd y Gorffennol
  • Siop yr amgueddfa
  • Dysgu
    • Ymweliadau Ysgol
    • Allgymorth Cymunedol
  • Blog
You are here: Home / Y Ffrynt Cartref

Y Ffrynt Cartref

Roedd y rhyfel yn amharu’n ddifrifol ar y gallu i fewnforio bwyd o ledled y byd, hyd yn oed i’r rhai a oedd yn byw ger porthladd mawr fel Abertawe. Prinder bwyd oedd y canlyniad i hyn a arweiniodd at ddogni.

Dosbarthwyd llyfrau dogni i deuluoedd a oedd yn nodi’r symiau cyfyngedig o fwyd sylfaenol a ddyrennid iddynt bob wythnos.  Roedd yn hanfodol cofrestru gyda groser, cigydd a phobydd – mae T & G. Davies; pobwyr teulu o’r Mwmbwls yn dal i weithredu heddiw ar ôl goroesi blynyddoedd y rhyfel.

Hyrwyddodd y llywodraeth ymgyrch o’r enw ‘Cloddio am Fuddugoliaeth’ lle roedd pobl yn cael eu hannog i ddefnyddio eu gerddi a’u rhandiroedd i dyfu cnydau i ychwanegu at y bwyd wedi’i ddogni. Roedd posteri’n cael eu harddangos i atgoffa pobl o werth eu cyfraniad at yr ymdrech ryfel e.e. “Your bread costs ships. Eat home-grown potatoes instead!” ”

Roedd petrol hefyd yn cael ei ddogni, fel yr oedd losin. Roedd rhaid casglu cwponau dillad er mwyn prynu dillad newydd, felly deuai pobl yn fedrus wrth ddyfeisio, addasu dillad fel y gallai plant llai eu gwisgo neu ddatod dillad gwau i’w hail-wau’n ddillad newydd.

Mwy o wybodaeth…

Darllenwch fwy am Abertawe yn ystod yr Ail Ryfel Byd… Plant adeg y Rhyfel

Primary Sidebar

Search

Blog

  • Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
  • Crys-t Oxfam
  • Pennau Byfflo a Bual
  • Rhodd newydd
  • Y Parch. Emma Rosalind Lee

Footer

Connect with Us

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter

Return to top of page

Copyright © 2025 · Swansea Museum, City and County of Swansea

  • Cymraeg
  • English