Arddangosfeydd Cyfredol
Dillad 186 o Flynyddoedd o Gasglu
Mae ffasiwn yn rhan o fywydau pawb – mae’n rhan o gymdeithas. Mae’r llinell amser hon o ddillad sy’n cwmpasu mwy na chan mlynedd, yn cyfleu eiliadau mewn hanes ynghyd â straeon personol.
Hanes Naturiol Iawn

Mae gan bobl ddiddordeb diamheuol mewn natur. Dangosir hyn yn glir drwy amrediad ein casgliad hanes natur. O blanhigion wedi’u sychu i chwistlod wedi’u gwasgu, mae gan yr amgueddfa gyfoeth o fflora a ffawna. Er nad oes angen casglu a chadw sbesimenau astudiaethau natur fel hyn mwyach, mae llawer i’w ddysgu o hyd am yr hyn a ysgogodd yr arfer gwreiddiol.
Arddangosfeydd sydd ar ddod
Dim byd ar hyn o bryd… cymerwch gip yn hwyrach.
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i dderbyn newyddion am y digwyddiad i’ch mewnflwch.