• Skip to primary navigation
  • Skip to content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Swansea Museum

  • Email
  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter
  • Home
  • Visit Swansea Museum
    • Boats and ships on display
    • Swansea Museum Collections Centre
    • Tramshed
    • Staff Contacts
    • Friends of Swansea Museum
    • Join our mailing list
  • Our collection
    • Art UK
    • Egyptian artefacts
    • Transport
    • Nautical objects
    • Finds from Swansea and Neath
    • War time Swansea
    • Donating an item to Swansea Museum
  • Swansea – a brief history
    • Archaeology
    • Industry
    • The Sea
    • Mumbles Train
    • World War Two
    • Old houses and places
  • What’s on
    • Exhibitions
    • Events
    • Past exhibitions
  • Museum shop
  • Learning
    • School Visits
    • Community Outreach
  • Blog
You are here: Home / Abertawe – Braslun o’i Hanes / Y Môr / Pysgota

Pysgota

Cyrhaeddodd y fasnach wystrys yn y Mwmbwls ei hanterth rhwng 1850 a 1873. Daethpwyd â deng miliwn o wystrys i’r lan ym 1871, yn werth £50,000. Cychod llydan, agored â hwyl lusg unigol oedd y llongau treillio wystrys gwreiddiol.

Yn ddiweddarach roedd cyteri, a elwid yn sgiffiau ar y pryd, yn cael eu defnyddio gyda chriw o dri: meistr, dyn a llanc. Roedd dwy dreillrwyd o ddyluniad unigryw i’r Mwmbwls yn cael eu hatodi wrth y sgiffiau, gyda llafn finiog i grafu’r wystrys oddi ar y gwaelod a sach bedair troedfedd o led a allai bwyso 508 cilogram pan oedd yn llawn.

Erbyn diwedd y 1920au, canolbwynt diwydiant pysgota Abertawe oedd basn Doc y De lle roedd ceiau helaeth wedi cael eu hadeiladu ar gyfer y treillwyr cefnfor a gyflwynwyd yn Abertawe ym 1901.Erbyn 1928, roedd y llynges dreillwyr yn glanio mwy na 15,000 o dunelli o bysgod y flwyddyn.

Roedd cocos yn cael eu casglu, gan fenywod yn bennaf, gan ddefnyddio sgrafelli a rhacanau i’w cloddio o draeth Llanrhidian pan oedd y llanw ar drai.  Yna byddent yn cael eu rhoi mewn rhidyllau, gyda meintiau rhwyll cyfreithiol, cyn cael eu rhoi mewn bagiau i fynd â nhw i’r farchnad. Yn wreiddiol, roeddent yn cael eu rhoi mewn sachau a’u cludo ar gefn asyn i’r blaendraeth. Mae gan gocos o Benclawdd enw da ar draws y byd.

Mwy o wybodaeth…

Darllenwch fwy am gysylltiad Abertawe â’r môr… Dociau a chludiant

 

Primary Sidebar

Search

Blog

  • `The Record’
  • YMCA Jubilee Campaign Poster 1919
  • Swansea YMCA newsletters early 20th Century`The Record’
  • Board Game, to raise awareness of issues facing Young Carers
  • Dyddiadur Carcharor Rhyfel
Tweets by swanseamuseum

Footer

Connect with Us

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter

Return to top of page

Copyright © 2022 · Swansea Museum, City and County of Swansea