• Skip to primary navigation
  • Skip to content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Swansea Museum

  • Email
  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter
  • Home
  • Visit Swansea Museum
    • Boats and ships on display
    • Swansea Museum Collections Centre
    • Tramshed
    • Staff Contacts
    • Friends of Swansea Museum
    • Join our mailing list
  • Our collection
    • Art UK
    • Egyptian artefacts
    • Transport
    • Nautical objects
    • Finds from Swansea and Neath
    • War time Swansea
    • Donating an item to Swansea Museum
  • Swansea – a brief history
    • Archaeology
    • Industry
    • The Sea
    • Mumbles Train
    • World War Two
    • Old houses and places
  • What’s on
    • Exhibitions
    • Events
    • Past exhibitions
  • Museum shop
  • Learning
    • School Visits
    • Community Outreach
  • Blog
You are here: Home / Abertawe – Braslun o’i Hanes / Hen dai a lleoedd / Peiriannau Ymdrochi – Thomas Baxter

Peiriannau Ymdrochi – Thomas Baxter

Mae’r dyfrlliw hwn gan Thomas Baxter yn darlunio amser prysur ar draethau Abertawe, ger y Tŷ Ymdrochi a oedd ar y twyni ac yn edrych allan ar y traeth, safle lle saif pen gorllewinol Neuadd y Sir bellach.

Nod y Tŷ Ymdrochi oedd darparu ar gyfer y bobl gyfoethog ac fe’i prynwyd gan y Gorfforaeth ym 1789.

Roedd eu cyfleusterau’n amrywio o westy, bwyty, neuadd ddawns i sylfaen ar gyfer y peiriannau ymdrochi a welir yma, yn ogystal â darparu baddonau ac ystafelloedd gwisgo. Yn y cefndir gellir gweld Pen y Mwmbwls ac ehangder arfordir  Bae Abertawe.

Yn y blaendir, ceir grwpiau o fenywod wedi gwisgo’n ffasiynol yma ac acw, rhai ohonynt â phlant. Yn sefyll i’r chwith o’r grŵp sydd yn y blaen, ac ychydig ar wahân iddo, y mae’r fenyw sy’n ymdrochi a adwaenid hefyd yn ‘drochwr’, a hithau oedd y “…marine emerser to the fair maids of the Swansea flood”.  (Andrew Cherry, rheolwr theatr –The Cambrian 5 Medi, 1807)

Byddai’r peiriannau ymdrochi (cabanau pren ar olwynion) yn cael eu tynu i’r dyfroedd bas i fan lle gallai’r ymdrochwr, trwy ysgol fer, fynd i mewn i’r dyfroedd therapiwtig mewn preifatrwydd llwyr.

Primary Sidebar

Search

Blog

  • `The Record’
  • YMCA Jubilee Campaign Poster 1919
  • Swansea YMCA newsletters early 20th Century`The Record’
  • Board Game, to raise awareness of issues facing Young Carers
  • Dyddiadur Carcharor Rhyfel
Tweets by swanseamuseum

Footer

Connect with Us

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter

Return to top of page

Copyright © 2022 · Swansea Museum, City and County of Swansea