Ym 1790 roedd Abertawe’n dref farchnad fach ac roedd arweinwyr Abertawe’n ystyried twristiaeth fel dyfodol y dref. Fodd bynnag, cynyddodd poblogaeth Abertawe o oddeutu 6000 ym 1801 i 135,000 erbyn 1901 ac roedd ganddi’r llysenw Copperopollis. Beth oedd yr amgylchiadau a arweiniodd at y newid dramatig hwn a beth oedd y canlyniadau ar gyfer y dref, y bobl ac amgylchedd Abertawe?
Bydd y sesiwn yn archwilio sut y daeth Cymru i fod y wlad gyntaf yn y byd i brofi’r Chwyldro Diwydiannol.
Lefel cynnydd 2 & 3
Oedran targed Blwyddyn 4-6
Hyd y sesiwn – 2 awr
Copper Jack
Gall ysgolion sydd wedi trefnu taith ar y Copper Jack gadw lle ar sesiynau dilynol ar yr un diwrnod ar thema Abertawe a’r Chwildro Diwydiannol os yw’r ystafell addysg ar gael.