Amgueddfa Abertawe yw’r amgueddfa hynaf yng Nghymru, ac yn drysordy diddorol o hanes Abertawe. Mae’r casgliadau’n cynnwys pob math o wrthrychau o orffennol Abertawe, Cymru a gweddill y byd.
Ym mhrif adeilad yr amgueddfa, mae gennym bopeth o fymi Eifftaidd i gegin Gymreig wedi’u harddangos mewn chwe oriel. Ceir llawer o arddangosfeydd dros dro hefyd bob blwyddyn.
Trefnu’ch ymweliad
Mynediad Am Ddim
Oriau Agor | |
---|---|
Dydd Llun | Ar Gau |
Dydd Mawrth | 10am – 4:30pm |
Dydd Mercher | 10am – 4:30pm |
Dydd Iau | 10am – 4:30pm |
Dydd Gwener | 10am – 4:30pm |
Dydd Sadwrn | 10am – 4:30pm |
Dydd Sul | 10am – 4:30pm |
Arwr Dawel
Cynhelir Awr Dawel Amgueddfa Abertawe rhwng 15:30 a 16:30 bob dydd.
Bydd pob sgrîn a sŵn wedi’i ddiffodd yn ystod y cyfnod hwn.
Cyfleusterau
- Orielau Parhaol ac Arddangosfeydd Dros Dro
- Gweithgareddau a Digwyddiadau Am Ddim
- Siop
- Toiledau
- Cyfanswm o 3
- 2 sy’n hygyrch
- 1 gorsaf newid
- Darperir yr holl gynhyrchion mislif am ddim gan STOPP
- Wi-Fi am ddim
- Ardal bicnic awyr agored
- Lleoedd parcio ar y safle (gweler y manylion isod)
- Lifft i bob llawr (gwiriwch ar ddiwrnod eich ymweliad i sicrhau bod y lifft ar gael)
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, ffoniwch 01792653763 neu e-bostiwch yr amgueddfa.
Parcio yn Amgueddfa Abertawe
Yng nghefn yr amgueddfa mae 5 lle parcio ar gyfer ymwelwyr.
Maes parcio â giât yw hwn ac mae ar agor rhwng 10am a 4pm. (am ddim)
Mae pedwar i bump lle parcio ar draws y ffordd o flaen yr amgueddfa gyda chyfyngiad parcio dim dychwelyd ar ôl 2 awr. (am ddim)
Ar ochr yr amgueddfa, ychydig y tu allan i’n maes parcio yn y cefn, mae dau neu dri lle parcio i’r anabl (am ddim)
Mae’r maes parcio agosaf i’r gogledd-orllewin o’r amgueddfa, ar draws yr A4067 ar York Street – maes parcio NCP City Gates. (248 lle parcio)
Mae’r maes parcio agosaf nesaf i’r dwyrain o’r amgueddfa – maes parcio East Burrows Road. (230 lle parcio, er mae llai o leoedd ar gael ar hyn o bryd oherwydd gwaith adeiladu parhaus)
Mynediad i’r anabl
Mae llawr gwastad i gefn ac ochr prif fynedfa’r amgueddfa gyda lleoedd parcio i’r anabl yng nghefn yr adeilad, felly’n caniatáu mynediad llawn i bob llawr ac oriel yn y lifft.
Dod o Hyd i Ni
Ar y bws: Y safle bws agosaf i Amgueddfa Abertawe yw ‘Sainsbury’s Quay Parade’, sydd oddeutu 3 munud i ffwrdd ar droed.
Ar y trên: Mae Amgueddfa Abertawe oddeutu 15 munud i ffwrdd ar droed o orsaf drenau Abertawe.
Cerddwch tuag at Westy’r Grand a dilynwch y Stryd Fawr (B4489) yr holl ffordd ar hyd Wind Street tuag at gyffordd yr A4067. Croeswch ffordd ddeuol yr A4067 a throwch i’r dde. Bydd Amgueddfa Abertawe’n syth o’ch blaen.
Cysylltwch â ni
Amgueddfa Abertawe
Heol Victoria
Yr Ardal Forol
Abertawe
SA1 1SN
Ffôn : 01792 653763
Ebost: Amgueddfa.Abertawe@abertawe.gov.uk