Gellir dadlau mai’r Ail Ryfel Byd yw digwyddiad mwyaf arwyddocaol y byd yn hanes dynol yr 20fed ganrif. Dinistriwyd canol Abertawe ganddo a gadawyd marc annileadwy ar y rheini a oedd wedi byw drwyddo. Bydd pecyn Abertawe yn y Rhyfel yn archwilio’r canlynol:
- Cyd-destun ac achosion hanesyddol yr Ail Ryfel Byd
- Propaganda a’r Ffrynt Cartref
- Tystiolaeth hanesyddol o ffynonellau cynradd ac eilradd
- Yr effaith ar Abertawe
- Dinasyddiaeth ac ymateb dinasyddion
- Gwrthrychau a delweddau hanesyddol o’r Ail Ryfel Byd
Bydd y sesiwn yn cynnwys cyflwyniad PowerPoint a gweithgareddau.
Lefel cynnydd 2 a 3
Ystod oedran darged Blwyddyn 5 a 6
Hyd y sesiwn – 4 awr (10am – 2pm gan gynnwys egwyl ginio)