
Mae Siop Anrhegion yr Amgueddfa yn cynnig detholiad o eitemau sy’n ymwneud â chasgliad yr amgueddfa. Mae gennym ffigyrau o dduwiau a brenhinoedd sydd wedi’u hysbrydoli gan ein casgliad Eifftoleg a gallwch hyd yn oed mynd â thegan meddal Anubis adref gyda chi.
Mae gan Amgueddfa Abertawe gasgliad astudiaeth natur anhygoel. Gallwch chi hefyd ddechrau eich casgliad eich hun o gerrig caboledig a ffosilau neu brynu tegan deinosor ar gyfer paleontolegwyr ifanc.
Dewch i gael cip ar ein ‘Cwtsh Llyfrau’ lle mae gennym ddetholiad eang o lyfrau sy’n ymwneud â hanes lleol a rhai unigryw gan awduron o Abertawe. Mae’r rhain yn anrhegion perffaith i bobl sy’n dwlu ar hanes lleol.