Mae technoleg heddiw yn newid yn gyflym ac yn dod yn fwy soffistigedig bob dydd. Byddai ein cyndadau cynnar o gyfnodau fel Oes y Cerrig yn rhyfeddu ar y cynnydd mewn technoleg a’r newid cyflym yn y gymdeithas a welwn heddiw. Fodd bynnag, nhw oedd wedi gosod sylfeini ein cymdeithas ddynol fodern dros gyfnod o filoedd o flynyddoedd.
Bydd y sesiwn yn edrych yn ôl dros gyfnod Oes y Cerrig i’r Oes Efydd ac yn ystyried:
- Cerrig milltir a darganfyddiadau allweddol
- Y deunyddiau roeddent yn eu defnyddio a sut roeddent wedi datblygu
- Sut roeddent wedi gosod sylfeini ar gyfer ein byd dynol modern
- Sut roedd yr amgylchedd wedi newid dros y cyfnod a sut roedd pobl gynnar wedi addasu
Bydd y sesiwn yn gymysgedd o PowerPoint a gweithgareddau trafod.
Lefel cynnydd 2 a 3
Ystod oedran darged Blwyddyn 4 i 6
Hyd y sesiwn – 2 awr