Gwnaed y lori gan gwmni Vulcan ym 1922.
Mae caban y gyrrwr wedi’i wneud yn bennaf o bren, a’r gwely gwastad yn y cefn hefyd. Mae ei lifrai yn frown tywyll gyda pheipio hufen-melynaidd addurniadol.
Mae’r tarpolin sy’n amgáu cefn y lori yn wyrdd mintys ac mae’r geiriau Morris Bros. Swansea wedi’u hargraffu ar ei draws.
Cedwir yr eitem hon yng Nghanolfan Gasgliadau Amgueddfa Abertawe yng Nglandŵr, yn y storfeydd.