Rhoddwyd y tag Clwb Tailwaggers hwn i Amgueddfa Abertawe yn ddiweddar ar ôl dod o hyd iddo ym Mharc Singleton.
Sefydlwyd y Clwb Tailwaggers ym 1928, ac roedd yn darparu cyllid ar gyfer y Coleg Milfeddygol Brenhinol i gefnogi ei waith. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, caniataodd poblogrwydd yr elusen y clwb i gynnig cymorth ariannol i’r Sefydliad newydd Cŵn Tywys ar gyfer y Deillion. Yn ei anterth yn y 1930au roedd bron miliwn o gŵn yn rhan o’r clwb, gan gynnwys y rhai a oedd yn berchen i bobl enwog a’r teulu brenhinol.
Byddai aelod o’r Clwb Tailwaggers yn gwisgo’i dag ar ei goler er mwyn dangos ei gefnogaeth i’r cŵn eraill.
Roedd y tag anifail anwes hwn yn berchen i gi o’r enw ‘Weaver’ a oedd yn byw ar Heol Mayals yn Abertawe. Efallai y gwnaeth golli ei dag aelodaeth wrth iddo fwynhau rhedeg o amgylch Parc Singleton.
Mae bellach yn ymddiriedolaeth, ond mae’r Clwb Tailwaggers yn bodoli o hyd gan ddarparu cyngor a chefnogaeth i ddarparwyr sy’n cael trafferthion talu biliau milfeddygol.
Gweler hefyd Swansea Jack