Cynlluniau a phrototeipiau yw’r rhain o gar model Lotus James Bond o’r ffilm ‘The Spy Who Loved Me’ ym 1977 o Ffatri Mettoy, Abertawe. Sylwer bod gennym y teflynnau bychain coch, sef y pethau cyntaf yr oedd plant yn eu colli ar ddydd Nadolig!
Sefydlwyd cwmni Mettoy (Metal Toy) ym 1933 gan yr alltud Almaenwr Philip Ullman yn Northampton, Lloegr. Roedd am farchnata amrywiaeth o gerbydau tegan fel cystadleuaeth i gerbydau Dinky Toysmodel Meccano, a oedd wedi bod yn flaenllaw yn y farchnad Brydeinig am flynyddoedd lawer.
Cyflwynwyd Corgi Toys yn y DU ym mis Gorffennaf 1956 ac fe’u cynhyrchwyd yn Fforestfach, Abertawe am saith mlynedd ar hugain cyn i’r cwmni ddiddymu ei hun (pan oedd y cynhyrchu ar ei anterth ym 1962, roedd dros 1000 o weithwyr yn y ffatri yn Fforestfach).
Allforiwyd yr amrywiaeth ar draws y byd a gwerthwyd nifer helaeth ohonynt. Roedd rhai o’r modelau mwyaf adnabyddus a mwyaf poblogaidd yn geir a ddaeth i enwogrwydd drwy ffilmiau a rhaglenni teledu megis y Batmobile, Chitty Chitty Bang Bang ac Aston Martin DB5 James Bond – y car tegan mwyaf poblogaidd a gynhyrchwyd erioed.
Gweithwyr benywaidd yn ffatri Mettoy yn y 1950au.