Mae croeso cynnes bob tro, waeth beth fo’r tywydd!
Mae’r nosweithiau’n tywyllu ond mae’r amgueddfa’n gynnes ac yn glyd. Dewch i ymweld â ni a mwynhau hwyl yr ŵyl!
Llwybr Bara Sinsir
Codwch daflen ar gyfer y llwybr a dechreuwch chwilio am eitemau hanesyddol y gwyliau sy’n cael eu harddangos o gwmpas yr amgueddfa. Gallwch ennill trît arbennig os byddwch yn dod o hyd i bob un ohonynt!
Ardal ymlacio
Gallwch ddianc rhag tywydd y gaeaf ac ymlacio yn ein hardal ymlacio. Mae’n berffaith ar gyfer defnyddio WiFi am ddim, chwarae gemau, cael picnic neu eistedd ac ymlacio.
Cofiwch gasglu’ch pecyn am ddim o weithgareddau a chrefftau ar thema’r gwyliau i chi eu mwynhau!
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i dderbyn newyddion am y digwyddiad i’ch mewnflwch.
Ydych chi wedi rhoi cynnig ar ein llwybr llygod?
Mae 22 o lygod yn cuddio o amgylch ein hamgueddfa. Mae’n her fawr i ddod o hyd i bob un ohonynt – a fyddwch chi’n heliwr llygod medrus?
Sicrhewch eich bod chi’n cael cip ar Sefydliad Brenhinol De Cymru, sy’n darparu rhaglen reolaidd o ddarlithoedd ar amrywiaeth eang o bynciau.
Mae Sefydliad Brenhinol De Cymru, neu RISW, yn gyfeillion i’r amgueddfa.
Diolch am gymryd rhan!
Adrodd Eu Stori
Diolch i bawb sy’n parhau i gymryd rhan yn ein stori Dihangfa Wyllt sy’n adrodd ein Horiel Astudiaethau Natur. Cawsom gyfraniadau gwych. Dyma rai o’n ffefrynnau hyd yn hyn!
Yr her gomics 4 panel: