Mae hon yn canolbwyntio ar straeon unigolion o Abertawe a oedd yn rhan o’r Rhyfel Mawr. Ynghyd â straeon dynion a aeth i ymladd, bydd yr arddangosfa hefyd yn datgelu’r anawsterau yr oedd menywod a oedd wedi’u gadael ar ôl yn eu hwynebu. Bydd yn edrych ar eu cyfraniad i ymdrech y rhyfel a byddwn hefyd yn archwilio straeon y rhai a oedd yn gwrthwynebu’n gydwybodol.