Mae gan Amgueddfa Abertawe bellach arweiniad digidol am ddim ar yr ap Bloomberg Connects Mae ap Bloomberg Connects yn galluogi amgueddfeydd ac orielau ar draws y byd i rannu eu casgliadau a’u cynnwys yn ddigidol. Does dim rhaid i chi hyd yn oed ymweld â’r amgueddfa i fwynhau’r ap, gallwch bori’r casgliadau gartref hefyd.
Bwriedir i’n harweiniad roi mynediad hawdd i chi at gasgliadau ac arddangosfeydd Amgueddfa Abertawe. Mae’r ap hwn yn darparu gwybodaeth fanwl am ein casgliadau na allwn ei darparu bob amser yn ein harddangosfeydd.
Unwaith eich bod wedi lawrlwytho’r ap, mae’n hawdd dod o hyd i ni. Os ydych yn Abertawe ac mae lleoliad eich dyfais ymlaen, yna bydd Amgueddfa Abertawe ar frig y rhestr o leoliadau diwylliannol. Os nad ydych yn defnyddio’ch lleoliad neu os nad ydych yn Abertawe ar hyn o bryd, gallwch chwilio am ‘Amgueddfa Abertawe’ yn y bar chwilio ar y brig. Dewiswch ‘Amgueddfa Abertawe’ ac yna dewiswch ‘Dechrau’r Arweiniad’. Nawr gallwch ddechrau pori drwy’r casgliadau yn eich amser eich hun.
Wrth ddefnyddio’r arweiniad yn yr amgueddfa, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r nodwedd ‘dangos ar fap’ i ddod o hyd i’r casgliadau sy’n cael eu harddangos. Bydd gennym rifau chwilio a chodau QR o gwmpas yr amgueddfa hefyd a all ddarparu gwybodaeth ychwanegol am yr eitemau sy’n cael eu harddangos.
Bydd yr arweiniad hwn yn cael ei ddiweddaru’n aml gyda gwrthrychau newydd, teithiau newydd a chyfryngau newydd. Os hoffech gael gwybod am gynnwys newydd a chael y newyddion diweddaraf, nodwch Amgueddfa Abertawe fel ffefryn drwy ddewis yr eicon calon. Os oes gennych sylwadau neu awgrymiadau ar gyfer yr arweiniad, cysylltwch â ni.