Rydym yn aros yn bositif ac yn parhau i gynllunio ar gyfer ein prosiect yn yr hydref gyda Theatr na nÓg.
Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni am ddiwrnod cyfan o weithgareddau trawsgwricwlaidd yn Abertawe fydd yn berffaith ar gyfer Blwyddyn 5 i fyny:
- Gwylio’r ddrama The Arandora Star yn Theatr Dylan Thomas a sesiwn holi ac ateb gyda’r cast
- Cymryd rhan mewn gweithdy yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
- Cyfle i ymweld â’r arddangosfa yn Amgueddfa Abertawe
- Cymryd rhan mewn cystadleuaeth i ennill gweithdy gyda Technocamps
- Mynediad i app rhyngweithiol Theatr na nÓg yn llawn cynlluniau gwersi ac adnoddau sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm newydd a themâu’r sioe; Dinasyddiaeth fyd-eang, yr Ail Ryfel Byd, mewnfudo ac iaith.
Mae Theatr na nÓg yn derbyn mynegiannau o ddiddordeb nawr ar gyfer archebu – nid ydynt yn gofyn am ymrwymiad cadarn ar hyn o bryd.
Rydym yn gwerthfawrogi ei bod yn mynd i gymryd peth amser i fynd yn ôl i drefn arferol, ac rydym yn gobeithio y bydd cael gwibdaith a phrosiect i’w cynllunio yn rhoi rhywbeth i bawb edrych ymlaen ato. Rydym hefyd yn gwybod pa mor anodd yw hi i lawer o ysgolion a theuluoedd felly mae Theatr na nÓg wedi bod yn gweithio’n galed i gynyddu eu gwaith codi arian er mwyn i ni allu cynnig cyfradd gynnar o £5+TAW fesul disgybl ar gyfer unrhyw un sy’n cyflwyno ei archeb erbyn 22 Mai.
Gallwch weld yr holl wybodaeth ac archebu ar wefan Theatr na nÓg.
Os nad ydych wedi bod o’r blaen gallwch wylio fideo cyflym iawn yn egluro sut mae’r diwrnod yn gweithio a ffilmiwyd gan ein gwirfoddolwyr mewn sioe flaenorol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau rhowch alwad i Kate yn Theatr na nÓg ar 01639 641771 neu e-bostiwch drama@theatr-nanog.co.uk