• Skip to primary navigation
  • Skip to content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Swansea Museum

  • Email
  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter
  • Home
  • Visit Swansea Museum
    • Boats and ships on display
    • Swansea Museum Collections Centre
    • Tramshed
    • Staff Contacts
    • Friends of Swansea Museum
    • Join our mailing list
  • Our collection
    • Art UK
    • Egyptian artefacts
    • Transport
    • Nautical objects
    • Finds from Swansea and Neath
    • War time Swansea
    • Donating an item to Swansea Museum
  • Swansea – a brief history
    • Archaeology
    • Industry
    • The Sea
    • Mumbles Train
    • World War Two
    • Old houses and places
  • What’s on
    • Exhibitions
    • Events
    • Past exhibitions
  • Museum shop
  • Learning
    • School Visits
    • Community Outreach
  • Blog
You are here: Home / Abertawe – Braslun o’i Hanes / Hen dai a lleoedd / The Willows a Mount Pleasant – Thomas Baxter

The Willows a Mount Pleasant – Thomas Baxter

Mae’n rhaid bod Thomas Baxter wedi sefyll yn y man lle mae Dynevor Place heddiw (yr enw arno bryd hynny oedd Washing Lake Lane) i ddal yr olygfa hon o The Willows a Mount Pleasant.

Mae’r ehangder panoramig yn cynnwys cartrefi rhai o ddinasyddion mwyaf dylanwadol Abertawe. I’r chwith, saif cartref The Willows, y gellir ei adnabod oherwydd ei ffenestr fwa Sioraidd fawr. Dyma gartref Lewis Weston Dillwyn, perchennog Crochendy’r Cambrian, a chyflogwr Thomas Baxter tan fis Medi 1817.

Ychydig y tu ôl iddo, i’r dde, ceir Windsor Lodge, sy’n sefyll o hyd. Saif y grŵp o dai ar y dde ar safle’r Orsaf Heddlu Ganolog newydd ac mae’n cynnwys The Laurels, cartref teulu’r Grove. Roedd William Robert Grove yn un o aelodau sefydlu Sefydliad Brenhinol De Cymru.

Y tŷ tywyllach uwchben y rhain, i’r dde, yw Mount Pleasant â’i wyneb brics coch. Uwchben hwn, ac i’r chwith, ceir dau blasty pâr. Yn uwch na’r rhain eto, saif Bellevue, ger y man a ddewiswyd ar gyfer yr Ysgol Ramadeg. Er i’r ysgol gael ei sefydlu’n wreiddiol ym 1682, fe’i  hailsefydlwyd, a chodwyd adeiladau newydd ar Mount Pleasant rhwng 1851 a 1853.

Mae’n ddiddorol cymharu’r olygfa hon â’r un a ysgythrwyd gan Thomas Rothwell ym 1791 pan dim ond tua hanner y tai a ddarluniwyd gan Baxter oedd wedi’u hadeiladu. Yn y blaendir, mae dwy fenyw yn cyfarch ei gilydd ac mae trydedd yn casglu dŵr o nant ger ymyl y ffordd. Roedd trigolion Abertawe yn dal i ddibynnu ar nentydd fel y rhain hyd yn oed wedi i’r cyflenwadau pibellog cyntaf ymddangos ar ôl 1837.

Primary Sidebar

Search

Blog

  • `The Record’
  • YMCA Jubilee Campaign Poster 1919
  • Swansea YMCA newsletters early 20th Century`The Record’
  • Board Game, to raise awareness of issues facing Young Carers
  • Dyddiadur Carcharor Rhyfel
Tweets by swanseamuseum

Footer

Connect with Us

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter

Return to top of page

Copyright © 2022 · Swansea Museum, City and County of Swansea