Yn ogystal â bod yn ardal o harddwch naturiol eithriadol gyntaf Prydain, mae arfordir Gŵyr hefyd yn safle treftadaeth archaeolegol o bwys rhyngwladol.
Mae ogofâu esgyrn Gŵyr yn cwmpasu ardal gymharol fach yn ddaearyddol, ond maent wedi datgelu amrywiaeth cyfoethog o ffawna. Minchin Hole yw’r mwyaf o’r ogofâu arfordirol. Mae wedi ei chloddio’n helaeth gan ildio olion anifeiliaid cynhanesyddol: buail, udfilod, eliffantod a’r rhinoserosiaid trwyn meddal.Mae Bacon Hole, a elwir felly oherwydd y rhesi ocsid coch ar waliau’r ogof, yn wyneb y graig i’r gorllewin i Deepslade, Pennard.
Yma cafwyd tystiolaeth o anheddiad dynol yn ystod yr Oes Haearn, adeg y Rhufeiniaid a’r Oesoedd Canol, yn ogystal ag olion anifeiliaid cynhanesyddol megis yr arth ogof.
Mae Longhole, ogof esgyrn tua deugain metr uwchlaw’r marc penllanw ar Glogwyn Overton, i’r gorllewin i Ben Porth Einon, hefyd wedi ildio nifer sylweddol o olion ac offer gan gynnwys fflintiau Paleolithig.
Mwy o wybodaeth…
Darllenwch fwy am archaeoleg…Marwolaeth a Chladdu