• Skip to primary navigation
  • Skip to content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Swansea Museum

  • Email
  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter
  • Home
  • Visit Swansea Museum
    • Boats and ships on display
    • Swansea Museum Collections Centre
    • Tramshed
    • Staff Contacts
    • Friends of Swansea Museum
    • Join our mailing list
  • Our collection
    • Art UK
    • Egyptian artefacts
    • Transport
    • Nautical objects
    • Finds from Swansea and Neath
    • War time Swansea
    • Donating an item to Swansea Museum
  • Swansea – a brief history
    • Archaeology
    • Industry
    • The Sea
    • Mumbles Train
    • World War Two
    • Old houses and places
  • What’s on
    • Exhibitions
    • Events
    • Past exhibitions
  • Museum shop
  • Learning
    • School Visits
    • Community Outreach
  • Blog
You are here: Home / Ein Casgliad / Arteffactau Eifftaidd / Cwrdd â’r Mymi

Cwrdd â’r Mymi

Hor - Swansea Museum's Egyptian MummyMae llawer o ymwelwyr yn dod i Amgueddfa Abertawe i weld y mymi Eifftaidd. Cafwyd mai corff Hor yw’r mymi, offeiriad dilladu ac ysgrifennydd y duw Atum. Yn arfer dyddiol y deml, ei ddyletswydd ef oedd newid y dillad ar gerflun sanctaidd y duw. Roedd e’n byw yn Akhmim yn yr Aifft Uchaf rhwng 250-200 C.C. yn ystod Brenhinlin Ptolemi ac fe’i henwyd ar ôl y duw, Horus.

Rhoddwyd y mymi i Amgueddfa Abertawe ym 1888 gan y Maeslywydd yr Arglwydd Francis Grenfell a anwyd yn ardal St Thomas yn Abertawe ym 1841.  Dewisodd Grenfell yrfa yn y fyddin yn hytrach nag ymuno â busnes copr ei deulu.  Ym 1882, fe’i hanfonwyd i’r Aifft ac ym 1885 daeth yn gadbennaeth neu’n sirdar y Fyddin Brydeinig yn yr Aifft.

Bu ei chwaer, Mary Grenfell, yn ymweld ag ef yn yr Aifft, gan annog ei ddiddordeb mewn archaeoleg a hanes yr Aifft i’r fath raddau nes iddo ofyn am gymorth yr archeolegydd, Wallis Budge, a oedd yn allweddol wrth brynu’r mymi, ei arch ac eitemau eraill llai ar gyfer Sefydliad Brenhinol De Cymru (enw Amgueddfa Abertawe gynt).

Ymddangosodd adroddiad am y mymi yn cyrraedd yr amgueddfa ym mhapur newydd The Cambrian ym mis Tachwedd, 1888, ac agorwyd yr arddangosfa Eifftaidd newydd gan Miss Mary Grenfell.

Mae’r mymi’n cael ei arddangos yn Amgueddfa Abertawe yn yr Oriel Eifftaidd.

Primary Sidebar

Search

Blog

  • `The Record’
  • YMCA Jubilee Campaign Poster 1919
  • Swansea YMCA newsletters early 20th Century`The Record’
  • Board Game, to raise awareness of issues facing Young Carers
  • Dyddiadur Carcharor Rhyfel
Tweets by swanseamuseum

Footer

Connect with Us

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • Twitter

Return to top of page

Copyright © 2022 · Swansea Museum, City and County of Swansea