Digwyddiadau

 

 

Dydd Sadwrn 7 – dydd Sul 8 Mai, 10am, Bae Abertawe
Ras Llongau Peilot Môr Hafren

Ni ddylech chi golli’r digwyddiad hwn ym mis Mai! Bydd Llong Beilot Môr Hafren, Olga, yn rasio yn erbyn ei chwaer-longau ym Mae Abertawe.

Bydd y llongau peilot yn gadael eu hangorau ym Marina Abertawe yn ystod penllanw’r bore er mwyn rasio yn y bae am tua 10am ddydd Sadwrn 7 a dydd Sul 8 Mai.

Y lle gorau i weld y ras anhygoel yn y bae fydd ar flaendraeth y Mwmbwls o 10.00am ar y ddau ddiwrnod, cyn i drai’r prynhawn eu gwthio nhw’n bellach i Fôr Hafren.

Edrychwch yn fanylach ar y llongau hanesyddol

Bydd yr Olga, a gweddill llongau peilot Môr Hafren yn cael eu hangori wrth bontŵn Amgueddfa Abertawe yn y marina ddydd Gwener 6 Mai, gan gynnig y cyfle i bobl gael edrych yn fanylach ar y llongau hanesyddol. Bydd y pontŵn ar agor i’r cyhoedd yn arbennig ar gyfer y digwyddiad cyffrous hwn, o 10.00am tan 4.00pm ddydd Gwener 6 Mai.